atgofio am ei hen gartref, ac er iddo ddigio'n chwerw y noson y ffôdd o'r Hendre, yr oedd ganddo barch mawr i'w dad serch hynny. Gobeithiai enwogi ei hun yn y frwydr oedd wrth law, a darluniai ei hun yn adrodd yr holl helynt wrth ei dad. Ond pa helynt allasai godi yn Rorke's Drift? ac felly, pa obaith am enwog- rwydd chwaith?
Ha! Lelo! ychydig wyddost beth a ddichon ddigwydd mewn diwrnod? Y foment y meddyliai ef wrtho'i hun fel hyn oedd yr amser yr ymladdai ei gyfeillion yn y cwmnïau eraill gefn ynghein am eu bywyd. Disgynnodd yr holl fyddin Zuluaidd fel corwynt ar yr ail golofn, ac eisoes yr oedd Isandula yn goch gan waed.
Erbyn canol dydd wele ryw nifer o frodorion cyfeillgar-ffoaduriaid o faes y gyflafan—yn adrodd yn wyllt wrth swyddogion Rorke's Drift am y lladdfa fawr.
Gwelodd y ddau is-gapten, Bromhead Chard, nad oedd eiliad i'w cholli er diogelu y ffermdy rhag y dilyw fyddai yn sicr o ddyfod. Rhaid yn anad dim oedd dàl yr ysbyty yn yr ysgubor, ond prin cant o filwyr oedd wrth eu llaw i amddiffyn yr oll, yn ffermdy, ysgubor, a beudai ynghyd. Ni ellid cloddio ffosydd mewn pryd, ac nid oedd adnoddau ceyrydd o un math