bob yn un ac un fel y deuent at y fynedfa. Ond yn y cyfamser gosododd y Zuluaid do gwellt yr ysgubor ar dân. Lelo, heb feddwl dim am ei berig mawr, a'i diffoddodd ddwywaith trwy ruthro dros ŵyr y to a chicio y fflamau allan yn ei redegiad. Pan yn paratoi i wneuthur. hynny y drydedd waith, gorchmynnodd ei is-gapten i Private Jenkins ymatal, am fod y fflamau eisoes wedi cael gormod gafael yn y gwellt, ac nad oedd bywydau i'w taflu ymaith.
Ond yr oedd yn rhaid achub y cleifion, deued a ddel. Gorfu ar amddiffynwyr y fynedfa i encilio yn raddol, a bellach, nid oedd modd eu cario allan y ffordd honno.
Dim ond un ffordd arall ellid meddwl am dani, sef torri tyllau yn y parwydydd a rannai un ystafell oddiwrth y llall, a dwyn y cleifion drwy yr agoriadau hynny at ffenestr yn nhalcen yr ysgubor a'u gollwng i lawr drwyddi i ddiogelwch y pynnau grawn.
Ond gwaith araf a pheryglus oedd hynny oblegid pan wrth y gorchwyl o wneuthur yr ail a'r trydydd dwll, gwelid pennau duon rai Zuluaid yn gwthio drwy yr un cyntaf.
Cymerodd Lelo ei dro i wylio a gweithio bob yn ail, ac ni wthiwyd pen Zulu ar ol y cyntaf, trwy y twll a wyliai ei fidog ef.