Wedi symud y cleifion, gwelwyd mai da oedd i'r ysgubor fynd ar dân. Goleuwyd yr holl fuarth gan y fflamau, a rhwystrodd hynny unrhyw nifer o'r gelynion i ennill yr amddiffynfa rawn yn llechwraidd.
Ymgiliodd y Zuluaid gyda'r wawr. Daliodd Rorke's Drift y dilyw yn ol, ac achubwyd Natal. Nid "lle araf y cyfrifai Lelo Rorke's Drift trannoeth. Cafodd hamdden i feddwl am lawer dihangfa gyfyng gafodd yn ystod y nos. Pe llithrai ei droed ond unwaith yn ei redegfa ofnadwy ar draws y to gwellt, ni fyddai iddo obaith am ei fywyd.
Ysgrifennodd at ei dad gan roddi manylion y frwydr fythgofiadwy, ond yn sôn dim am ei ran ei hun ynddi. Ar yr un pryd gofynnodd am ei faddeuant am ymadael â chartre yn y modd ag y gwnaeth.
Ychydig fisoedd ar ol hyn, pan ddychwelodd yr "afradlon" gyda thlysau ar ei fron, nid oedd llonnach tad yn holl Frycheiniog na'r ffermwr, Jenkins o'r Hendre, Penderyn.