YSTORIAU SILURIA
I.
YR AIL LENG.
PAN oedd ein Gwaredwr ond newydd farw yng ngwlad Canaan daeth rhai o'r bobl y perthynai Pilat a'i filwyr iddynt i'n gwlad ni-Prydain.
Yr un oedd y neges ddaeth â hwy yma ag a aeth â hwy i wlad yr Iesu, sef ceisio trechu y bobl oedd yn byw yno cyn hynny, cymeryd eu tir oddiarnynt, a'u gwneuthur yn weision i'w gwlad fawr hwy-Rhufain.
Dechreuasant ymladd â'n Caradog ni yma yn y flwyddyn 43 o.c., ond er iddynt ei gymeryd ef yn garcharor i'w prif-ddinas yn y flwyddyn 51 o.c., ni lwyddasant i'n trechu yn llwyr hyd tua 78 o.c.
"Lleng" oedd yr enw a arferent am gatrawd o'u milwyr, a rhifai honno yn aml tua chwe mil o wŷr arfog.
Galwent y llengoedd wrth rif neilltuol yn ol y drefn y dygwyd hwynt i fod, sef Y Gyntaf, Yr Ail, Y Drydedd, Y Bedwaredd, etc.
Bu yr Ail Leng, sef un o'r dewraf ym myddin Rhufain, yn hir iawn yn y rhan o'n gwlad a alwent hwy yn Siluria, ond a elwir gennym ni yn Gwent a Morgannwg. Eu prif orsafoedd yno