Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan yn nesu at y llong, oedd yn dŷn yn nannedd y graig, collwyd, rywfodd, pob rheolaeth ar y bywydfad, a bwriwyd hi gan y tonnau ar draws ochr y llong. Taflwyd y dwylo allan o honi, ac yna gwelid nid yn unig y llong fawr a'r bywydfad ar drugaredd y tonnau, ond y pentrefwyr dewr hefyd yn y dwfr yn cael eu taflu ol a blaen yn y dilyw ofnadwy.

Gwnaethant yr oll oedd yn eu gallu i gyrraedd y tir agosaf, ond nid oedd hwnnw ond creigle enbyd, dros yr hwn yr ymlithrai'r môr bob yn ail munud, gan olchi popeth oddiarno i'w fynwes aflonydd. Ysgubwyd mwy nag un o'r trueiniaid, ar ol cael daear am ennyd, yn ol drachefn i farwolaeth yn y dyfroedd.

Hyn, yn ddiau, fuasai tynged yr oll o honynt canys gwan iawn oeddent ar ol ymladd â'r tonnau cyhyd, onibai am ddwy ddynes ddewr, merched ceidwad y goleudy, y rhai a blymiasant y dwfn hyd at eu hysgwyddau, ac a daflasant shawls yn rhaffau atynt i'w dwyn i ddiogelwch.

Pan aeth yr hanes am y llongddrylliad drwy y wlad, mawr fu y canmol ar waith y merched, ac, yn wir, teilwng oeddent o'r holl ganmol. Canodd beirdd Cymru, a beirdd Lloegr hefyd, gerddi iddynt, ac un o'r darnau adrodd goreu byth oddiar hynny yw "The Women of Mumbles