yn absennol, ond yr oedd cael hyd yn oed waith o gwbl yn amhosibl bron, ac er tramwy o dre i dre, a'r llogell yn gwacâu fwyfwy bob dydd, ofer fu yr ymchwil am dano.
Dechreuodd Wil arswydo yn y meddwl, os ai y gwaetha'n waetha', na fuasai ganddo ddigon i dalu am docyn yn ol i Gymru, a gwnaeth hynny iddo ddigalonni yn fwy na dim.
Un diwrnod, pan yn y cyflwr hwn, ac yntau wedi cerdded gryn ddeng milltir oddiar y bore, daeth i bentre a ymdangosai mewn cyffro mawr.
Cymhellodd hynny Wil i ofyn i un o'r brodorion beth oedd yn bod. Atebodd hwnnw ef yn null y Yankeee smart, gan ddywedyd, Why, don'cher know, greenhorn? Open your blinkers, man! The circus is here!"
Daeth hyn â llawer atgof i Wil am yr amser hapus dreuliodd yn llanc ar làn Tawe, ac am yr awr bwysig ym mywyd bechgynnos y Bont, pan ddeuai y circus i fyny o Abertawe.
Ond atgof digon diflas oedd hynny iddo ar y pryd hwn, pan oedd efe nemor gwell na chrwydryn mewn gwlad ddieithr.
Ynghanol ei holl helbul daeth iddo belydryn o obaith o weled gwŷr y circus yn chwysu i gael eu harddangosfa i drefn erbyn yr hwyr. Paham nad allai ofyn i berchennog y circus am waith o ryw fath? Paham, yn wir, hefyd? Nid