oedd Caerlleon a Chaerwent, dau le sydd hyd heddyw yn dwyn llawer o olion y Rhufeiniaid.
Yn y dinasoedd hyn y bu pobl y Caesariaid am yn agos i bedwar can mlynedd, yn byw debyced ag a allent i'w brodyr yn Rhufain; yn
addoli yr un duwiau, yn adeiladu yr un math o aneddau, ac yn chwarae yr un campau. Trinient eu harfau yn ofalus, a gofalent gymaint a hynny am gadw y Siluriaid a'u cylchynent heb drin arfau o gwbl.
O elyniaeth y gwnawd hyn ganddynt, mae'n wir, ond rhaid inni gyfaddef hefyd iddynt roi llawer o wybodaeth inni, yn enwedig mewn gwneuthur ffyrdd, trin tir, ac adeiladu tai.
A mwy na'r cyfan, hwynthwy roddasant y wybodaeth gyntaf inni am Grist. Ni wyddom o gwbl pwy oedd y personau a'i dygodd yma, ond gwyddom i sicrwydd mai o Rufain y daeth.
Ym mywyd pob-dydd y gorsafoedd, gorfodwyd llawer o fechgyn cryfion y Siluriaid i roddi cymorth i'r milwyr o bryd i bryd, yn enwedig mewn symud a thrafod llwythi trymion; ac o herwydd hyn nid oedd braidd unpeth yn digwydd ymhlith y Rhufeiniaid na wyddai y Siluriaid ieuainc am dano yn ogystal.
Un o'r llanciau hyn ydoedd Idwal Gadarnlaw a ddaeth i Gaerlleon o'r mynyddoedd un bore, ac a fu yn foddion, ymhen oddeutu mis ar ol