XXIV.
Y COLIER BACH YN ALBERTA.
PAN oedd yr ugeinfed ganrif ond yn rhyw bum mlwydd oed, preswyliai teulu bychan mewn ffermdy unig ym Mlaenau Tâf. Cynhwysai dad a mam—Dafydd a Sioned Morgan—ynghyd â'u dau fab, Lewis a Gruffydd, y naill tuag ugain oed, a'r llall yn llanc pedair ar ddeg.
Byd digon cyfyng oedd arnynt ar y goreu, a phan fu y rhieni farw o dwymyn o fewn wythnos i'w gilydd, nid oedd llawer o ddim ar eu hol i'w dau fachgen.
Penderfynodd Lewis fynd i'r cymoedd glo, a dygodd Gruffydd, neu Gito Bach (fel y'i galwai, gan amlaf) gydag ef.
Wedi gweithio yn y lofa, ar wahân i'w gilydd am dymor, llwyddasant o'r diwedd i gael "talcen" iddynt eu hunain. Yr oedd hyn yn llawer o gysur i Lewis, oblegid hoffai ei frawd bach yn fawr; ac er eu bod yn cyd-letya er pan ddaethant i Gwm Cynon, nid oedd y brawd hynaf heb ofn effaith drwg ambell löwr ar ieuenctid y gwaith, felly cysgai yn hapusach o fod Gito ac yntau yn cyd-weithio.
Yr oedd i Lewis lais tenor soniarus, ac o herwydd y ddawn hon yr oedd cryn alw arno