Syllai y colier bach ar y motor fel pe bai hwnnw wedi disgyn o'r lleuad, ac er bod y cerbyd yn lleidiog, ac yn dwyn olion amlwg o wneuthuriad trwsgl, eto, motor oedd motor, ac yn ol safon pethau yn yr hen wlad, yn perthyn i'r cyfoethog yn unig.
Neidiodd Gito i helpu Lewis i osod y llwyth ar y motor, a dringodd i fyny i'w ochr pan oedd ar fedr cychwyn.
Wrth fynd yn gyflym trwy yr awyr teimlai y Cymro bychan ryw eiddgarwch hynod yn ei ysbryd, a syllai yn fanwl ar bopeth yng nghwrs y daith.
Eglurodd Lewis iddo bod ffermio yn beth tra gwahanol yn Alberta i'r hyn oedd yng Nghymru; bod y llywodraeth yn helpu yr hwsmon ymhob modd, ac, ymhlith pethau eraill, yn cysylltu'r ffermydd ymron i gyd ar y teliffôn.
Dywedodd hefyd bod y banciau yn rhoddi arian ar lôg isel i'r ffermwr diwyd i'w alluogi i gael ceir a motor-lorries i ddwyn cynnyrch y ddaear frâs i ben y relwê.
Yr oedd hyn yn esboniad i Gito ar ddirgelwch y motor a'i cludai yn awr, a phenderfynodd na byddai yn hir cyn dysgu gyrru cerbyd ei hun. Gwnaeth hynny hefyd mewn amser byr, ond cyn i bythefnos fynd heibio digwyddodd rhywbeth i