Ond ymhen ychydig teimlai ei hun yn oeri, er bod cot uchaf am dano, ac yn sydyn drachefn, daeth i sylwi ei bod yn dechreu tywyllu. Ystorm eira gynta'r tymor, un o blizzards gerwin y paith, oedd wedi ei ddàl, er na wyddai Gito hynny ar y pryd. Ond nid oedd amheuaeth am yr oerfel, na'r tywyllwch ychwaith; ac felly, prysurodd ei gamrau gymaint ag a ganiatai ei lwyth iddo ei wneuthur.
Pan yn mynd gynted ag a allai, synnwyd ef gan udiad câs a ddeuai o gyfeiriad y mynydd. Er ei fod wedi clywed yr un peth o'i wely yng Nghastell Brychan unwaith neu ddwy o'r blaen, ac i Lewis ddywedyd nad oedd yr un perigl oddiwrtho, eto gwasgu ymlaen yn gynt a wnai Gito. Ond yr oedd eira erbyn hyn wedi dechreu disgyn, a rhwystrai hynny ei gerddediad.
Pan wedi mynd ychydig ymhellach rhewodd ei waed ymron wrth glywed, nid un udiad, ond llawer o honynt; fel pe yn ateb ei gilydd, a'r holl braidd yn ei ymyl.
Rhedodd y llanc nerth ei draed at goed glàn yr afon, ac heb gymeryd amser i ddiosg y llestr petrol na'r got uchaf oddi amdano, dringodd i goeden oedd ar ei gyfer. Ni orffwysodd nes cyrraedd y gangen gyntaf uwch ei ben, ryw ddeuddeng troedfedd oddiwrth y llawr.