Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny, i achub plentyn cadfridog yr Ail Leng rhag boddi yn yr Wysg. Cymerwyd ef i wasanaeth y cadfridog o'r awr honno allan, a buan y daeth yn ffefryn gan bawb.

Ei brif waith oedd cludo negesau rhwng ei feistr a phrif swyddog Caerwent, ac i'r diben hwn mynych y cerddai efe y briffordd rhwng y ddau le. Yr oedd hefyd ffordd arall o'r naill ddinas i'r llall, yn fyrrach o lawer, ond o herwydd ei bod yn arwain trwy allt fawr a boblogid gan anifeiliaid gwylltion, ni thramwyid hi ond gan ychydig.

Un diwrnod penderfynodd Idwal, o herwydd brys neilltuol i gyrraedd Caerwent, deithio ffordd yr allt. Pan ynghanol y coed, gwelodd o'i flaen, ar y ffordd, ddau filwr yn siarad yn sobr iawn â'i gilydd.

Adnabu efe hwynt o bell oblegid bu yn cydgario llwyth ag Aaron yr wythnos cyn hynny, a gwelsai Julius bron bob dydd yng Nghaerlleon. Cyfarchodd y ddau ef yn siriol, ac ymddangosent fel pe am ymgomio ag ef. Dechreuwyd sôn am ryddid i addoli y Duw a fynnent, ac am draddodiad yn Rhufain am y gŵr mawr a alwent yn Sant Paul. Deallodd oddiwrth hynny eu bod yn perthyn i'r bobl gyfenwid mewn gwawd yn Gristionogion y rhai yr oedd eisoes sôn am eu herlid yn y brifddinas.