dynnu i lawr, a gwelai y llanc, hefyd, hwnt i'r cylch, yng ngwyll y nos, barau o lygaid tanllyd bleiddiaid eraill oedd yr un mor chwannog am yr ysglyfaeth pan ddeuai i'w rhan.
Pob yn dipyn meddiannwyd Gito â rhyw nwyd dialgar at ei elynion, a theimlai y gallai farw pe lleddid hwynt yr un pryd. Ond nid oedd ganddo wn nac un arf arall namyn cyllell boced, a beth oedd gwerth honno mewn cyfyngder o'r fath? Tynnodd hi allan serch hynny a thorrodd y cortyn a ddiogelai y petrol ar ei gefn, ac wedyn trodd y llestr fel ag i fod yn ei gôl. Ni wyddai ei hun yn iawn beth oedd ei fwriad, ond уr oedd gwneuthur rhywbeth yn well nag aros am yr amser y syrthiai o oerni i'w larpio gan y fintai atgas hon.
Agorodd enau'r llestr, a phan neidiodd y blaidd nesaf ato, rhoddodd Gito ysgydwad sydyn i'r olew, nes peri i beth o hono syrthio i lygaid y creadur. Rhuodd hwnnw yn waeth o lawer, a chwarddodd Gito mewn llawenydd di-atal am allu talu peth o'r pwyth yn ol.
Cawsai pob blaidd ar a neidiai ato wedyn ddogn cyffelyb nes oedd yr udiadau yn fwy cynddeiriog fyth. Parhaodd y chwarae ffyrnig hwn nes i'r llestr fynd bron yn wag, a chyfran helaeth o'r bleiddiaid wedi eu bedyddio.
"