O! na all'swn ddoti tân yndi nhw i gyd!" meddai Gito wrtho ei hun. Ar hyn daeth cynllun i'w feddwl.
Paham na allasai fflamio y gweddill o'r olew yn y llestr, a'i daflu i'w plith yn y gobaith y cydiai yr olew yn eu blew hwythau dân hefyd. Ond cofiodd fod ei got uchaf yntau yn wiyb gan y petrol, ac mai efe ei hun losgai gyntaf. Yna penderfynodd ddiosg y got er oered yr hin, ei rhwymo ynghylch y llestr, tanio'r oll, a bwrw y sypyn fflamllyd i ganol y bleiddiaid.
Trwy lwc yr oedd blychaid o fflachion yn ei logell, a chyn pen dwy funud yr oedd y cynllun mewn llawn gwaith. Pan ddisgynnodd y sypyn tân fel corff trwm i'w canol, credodd y bleiddiaid mai y llanc ei hun oedd o'r diwedd wedi syrthio, a neidiasant arno i'w rwygo'n ddarnau.
Ond y foment nesaf tasgent yn ol gyda rhyw wyth neu naw o honynt yn wenfflam-yr oedd y petrol yn eu gwrychoedd wedi cydio tân. Chwarddai Gito yn y pren fel pe bai yno leng o'r gwallgofdy, a chwarddodd fwy pan welodd y pwyntiau tân" yn ymwasgaru, a phob un o honynt yn cael ei ddilyn i gysgod y coed gan y bleiddiaid eraill a chwyrnent ac a nadent yn ofnadwy.
Rhifodd Gito un ar ddeg o'r bleiddiaid oedd ar dân, a rhyfeddod nid bychan iddo oedd y