Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffaith fod yr oll o'r fintai yn awr wedi ei adael ef er mwyn rhoddi eu sylw i gyd i'r fflamau o dan y coed. Ni wyddai efe y pryd hwnnw fod y blaidd yn cannibal, a bod ei elynion ar y foment honno yn tynnu eu cyd-fleiddiaid llosg yn ddarnau ac yn eu llarpio gnawd a chroen.

Ymhen ysbaid, daeth tawelwch mawr dros yr holl fro, a deallodd Gito fod y bleiddiaid wedi ei adael yn llwyr. Ond parhau i ddisgyn wnai yr eira tra Gito, yn awr heb ei got uchaf, ymron sythu.

Yr oedd eisoes wedi penderfynu disgyn oddi ar y gangen, doed a ddêl, a chyrchu Castell Brychan goreu y medrai, pan glywodd, i'w fawr lawenydd, ergyd o ddryll y tu hwnt i'r afon, a gwaedd uchel yn dilyn.

Er bod rhywbeth dieithr yn y llais, adnabu ef fel eiddo Lewis, a gwaeddodd yntau yn ol fel pe wedi colli ar ei hun. Yn fuan, canfu y ddau frawd ei gilydd, a chyda hynny, wele ergyd arall o ddryll, a bloedd drachefn, a adnabu Lewis fel eiddo Mr. McLeod.

Aethant ill tri trwy yr eira i'r Castell, ac yno, o gylch y bwrdd, adroddwyd yr hanes.

Pan welodd Lewis na ddychwelodd Gito gyda'r cyfnos, aeth ar y ffôn at Mr. McLeod, a phan ddywedwyd wrtho fod ei frawd bach wedi cychwyn o Glen Spey, sef tŷ yr Ysgotyn, cyn