XXV.
ACHUB Y PLANT.
MEWN ardal fel Gwent a Morgannwg sydd mor enwog am ei glo a'i glowyr, aml, fel mae gwaetha'r modd, yw nifer y damweiniau—y nen yn cwympo, yr awyr yn pallu, y nwy yn tanio, neu y dwfr yn torri i mewn. Ofni mae gwraig a phlant y glöwr o hyd rhag dyfod angau i'w haelwyd fechan hwy.
Buasai rhoddi enwau ac amseriadau y damweiniau yng nglofeydd y Rhondda yn unig yn gwneuthur rhestr hir, canys heblaw mân ddamweiniau yn ddirif, onid yw y danchwa neu y "tana'd" wedi bod yma droion â'i thafodau fflam? A phwy sydd heb glywed am y gorlifiad ym mhwll Tŷnewydd, ac am y mygu ym mhwll y Great Western?
Ond ym mis Mawrth, 1910, aeth angau yn fwy haerllug fyth. Gadawodd y tadau am dro ac aeth i chwilio am y plant i'w difetha; ac yn lle lladd yn y tywyllwch dan y ddaear daeth "i'r wyneb" i edrych am ysglyfaeth yno. Ar brynhawn Gwener dacw naw cant o blant yng Nghlydach Vale yn brysur wrth eu gwersi, rhai yn ysgrifennu, eraill yn darllen (am