Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd bechgyn a merched Clydach Vale wedi eu dysgu yn gywir beth i'w wneuthur pe torrai tân allan rywbryd yn yr ysgol, ac yn awr dyma'r wers yn dyfod o'r defnydd mwyaf iddynt, yn wyneb-nid tân, ond dwfr.

Edrychwch ar y bechgyn yn ei throedio hi allan gan wenu wrth fynd heibio mor drefnus a phe buasent yn filwyr yn y Life Guards. Ond pan oedd yr is-athrawon yn gofalu am gyflawniad hynny o waith, b'le 'roedd y prif-athro?

Ha! wedi rhedeg at y dosbarth oedd yn rhan isaf yr adeilad (ac oedd, o herwydd hynny, yn y perigl mwyaf oddiwrth y dwfr), i'w cael allan!

B'le wedyn? I ysgol y merched. Gair yng nghlust Miss Harris y brif-athrawes, ac wele y merched hwythau yn ymdaith allan mor reolaidd a'r bechgyn, ac yn llawn sêl i ddangos i'w hathrawon eu bod hwythau yn gwybod pa beth i'w wneuthur.

Ie, a hwy heb feddwl llai nad practis oedd yr oll! ac os, efallai, yn cofio rhywbeth am dân, eto nid oeddynt yn breuddwydio am ddwfr, hyd nes ei weld yn llifo dros eu traed wrth iddynt fynd allan trwy ddrws y cefn.

Ond yr oedd eto ysgol y babanod, a phan y cyrhaeddodd Mr. Williams yno, hawdd credu y buasai bron digalonni gan fod y dwfr eisoes yn llyn o gylch "Yr Ysgol Fach" i gyd.