Cymaint oedd ei frys fel nad allai aros yn hwy yn eu cwmni, ond prysurodd ymlaen â'i wyneb tua Chaerwent.
Wedi myned encyd o ffordd oddiwrthynt, gwelodd arthes fawr yn croesi ei lwybr ychydig bellter oddiwrtho. Rhuai yn ffyrnig, ac yr oedd Idwal yn ddigon agos ati i sylwi fod ewyn yn syrthio o'i safn bob cam a roddai.
Credai ar y foment nad oedd hi wedi ei weled, ond mewn eiliad arall trodd gan garlamu yn drwm tuag ato. Mor sydyn oedd ei rhuthr. fel mai prin y cafodd efe amser i dynnu ei gyllell allan cyn ei bod ar ei draws. Amcanodd ei thrywanu â'i arf, ond y peth nesaf a wybu oedd i'w gyllell gael ei chwyrndaflu o'i law gan ei phalf nerthol, a'i fod yntau yng nghôl y creadur, yn cael ei faeddu a'i wasgu yn enbyd.
Gwaeddodd â'i holl nerth am gymorth, ac yna collodd bob hunan-deimlad.
Ymhen ysbaid o amser, na wyddai pa hyd, deffrôdd fel o hunllef poenus, a gwelodd Julius ac Aaron yn golchi ei glwyfau ac yn ei osod yn dyner i orwedd ar lecyn glas yn ymyl y ffordd. Ar draws yr heol gorweddai yr arthes anferth, yn farw.
Dywedodd y ddau filwr wrtho iddynt glywed ei waedd, ac iddynt frysio tuag ato, a hynny