XXVI.
"HALT! WHO GOES THERE?"
RHWNG Blaencwm, Rhondda, a Dyffryn Afan, cyfyd mynydd uchel, diffaith, na chroesid braidd gynt gan neb ond y bugail a'i gi.
Mewn blynyddoedd diweddarach daeth gweithio mawr ar lo yn y cymoedd o'i ddeutu, ac o ganlyniad, croesid ef yn amlach, sef gan y glowyr a dramwyent o gwm i gwm i chwilio am waith.
Ond parhau yr un mor ddiffaith ac anodd wnai yr hen fynydd iddynt hwythau; ac felly pan agorwyd y tynnel odditano yn 1890, unigrwydd ddaeth i'r hen lwybrau unwaith eto, canys elai pawb ag a allai dalu pris tocyn, gyda'r trên, a cherddai y rhai na allent dalu ddwy filltir drwy y tynnel yn hytrach na chroesi y pedair milltir anial uwch ei ben.
Pan gynhyrfwyd ein gwlad yn nechreu Rhyfel Mawr, Awst 4, 1914, gofalwyd gwylio ar unwaith ein holl reilffyrdd, ac yn enwedig pob pont a thynnel ar hyd-ddynt.
Nawr, chwi wyddoch mai y Rhondda yw prif gwm y byd am lo ager, ac mai y glo hwn ddefnyddia ein llongau rhyfel ar bob rhyw bryd. Felly yr oedd o'r pwys mwyaf bod rheilffyrdd