Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Taff Vale a'r Barry yn rhydd i ddwyn glo allan ym mhen isaf y cwm, a'r Rhondda and Swansea Bay yr un modd yn y pen uchaf. Dyna y rheswm am y gwylio a'r gofal dibaid ddechreuwyd y pryd hwnnw ar dynnel Blaencwm, ac a barhaodd am bedair blynedd a hanner gyfan.

Ar y diwrnod cyntaf o'r wyliadwriaeth fawr digwyddodd i Shoni Jones o Abergwynfi fynd i dreulio Gŵyl y Banc i Dreherbert, ac yno, trwy dalu am gwrw i eraill ac yfed gormod ei hun, gwariodd ei arian i gyd yn gynnar yn y dydd; ac felly, rhaid oedd cerdded adref drwy y tynnel fel yr oedd wedi gwneud lawer gwaith cyn hynny.

Pan yn cyrchu tua "gwddwg" y fynedfa, gwelodd hen gydnabod iddo, Wil Morgan, oedd wedi bod am flynyddoedd yn perthyn i'r Volunteers yn cyrchu i'r un man gyda rheiffl ar ei ysgwydd, a bidog mewn gwain wrth ei ochr.

Dywedodd Wil, ar ol holiad o ochr Shoni, ei fod wedi ei anfon ar rybudd byr iawn i wylio mynedfa'r tynnel, ac i atal pawb rhag pasio y ffordd honno.

Diflas oedd gan Shoni glywed hyn, oblegid pasio i'r ochr draw oedd y peth a fwriadai efe ei wneuthur y prynhawn hwnnw; ac er mwyn i Wil beidio ei rwystro mentrodd y mab afradlon ar ychydig o ysgil. .