Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wil!" ebe fe, mae rhywun yn d'alw di!"

Trodd Wil, ar hynny, yn ol gyda chwimrwydd milwr, ac aeth tuag ugain lath i weled pwy allasai fod yn ei alw; ac yn y cyfamser rhedodd Shoni gynted ag y gallai ei goesau hanner meddw i mewn i'r tynnel. Gwelodd Wil mai tric o eiddo Shoni oedd y galw ffugiol, a dychwelodd "to take up duty," ys dywedai efe wedi hynny.

Gan nad oedd y duty wedi dechreu yn iawn pan ffôdd Shoni i'r tywyllwch, a chan y credai mai creadur diniwed ydoedd, er gwaethaf ei fynych yfed, arhosodd Wil yn dawel wrth y gwddwg"; ond nid oedd cystal ei dymer pan glywai Shoni yn gwaeddi'n wawdlyd arno o'r gwacter tywyll.

Aeth hwnnw yn ei flaen i Abergwynfi, gan chwerthin rhyngddo ag ef ei hun am ei ystranc. Ond pan yn nesu at ben arall y tynnel brawychwyd ef yn fawr gan lais crâs yn gorchymyn,

"Halt! who goes there?"

Yn ei wylltineb anghofiodd Shoni sefyll, ond gan ddywedyd "It's me, John Jones, collier, Blaengwynfi," parhaodd i neshau at y dyn a'i gorchmynai.

"Halt, man, or I fire!" ebe hwnnw drachefn. Safodd Shoni fel polyn ar unwaith yn awr, oblegid nid oedd am farw y foment honno.