O herwydd eu henw da fel milwyr profedig addawodd y cadfridog estyn maddeuant iddynt am y trosedd cyntaf, pe gwadent yr ail. Ond yn lle gwadu, ymfalchïent yn y Groes; ac am fod gorchymyn caeth wedi ei dderbyn oddiwrth yr ymerawdr fod y sawl a lynai wrth y grefydd newydd i gael ei bicellu i farwolaeth, daeth Julius ac Aaron i'w hangau ar lawr y chwaraedy yng Nghaerlleon, yng ngŵydd yr holl leng o'r ddwy ddinas oedd yn dystion i'w merthyrdod.
Mawr oedd gofid Idwal am hyn oll, oblegid yr oedd yn sicr yn ei feddwl mai yr adeg yr 'oeddent yn achub ei fywyd, ac yn ei hebrwng i Gaerwent oedd yr amser a gollasant o'u hymarferiad milwrol. Dywedodd hynny wrth ei feistr, ac hefyd am y cymorth a roes y ddau iddo i gyflwyno ei neges mewn pryd.
Pan glywodd yr hen ryfelwr hynny, wylai fel plentyn, a thaerai na fyddai iddo awr o gysur byth mwy, am nad oedai weinyddiad y gosb am ryw ysbaid o amser.
Y newydd nesaf ddaeth o Rufain oedd bod yr ymerawdr wedi marw yn sydyn, a bod cyfraith yr erlid wedi ei diddymu.
Cyn pen mis yr oedd yng Nghaerlleon a Chaerwent dros gant yn cyffesu yr Iesu yn Geidwad, ac yn eu plith nid y lleiaf oedd Idwal Gadarnlaw, a'i feistr!