II.
CYNAN AP RHYS.
CLYWSOCH yn ddiau am y Tywysog Du ym mrwydr Cresi (1346 o.c.), a'r modd dewr yr ymladdodd yn erbyn y Ffrancod yno, ac efe ond llanc pymtheg oed.
Nid peth newydd oedd i fechgynnos o'i oed ef ddwyn arfau yn y gad. Gwnaeth amryw hynny yng Nghymru o'i flaen. Un o honynt oedd Cynan ap Rhys ap Tewdwr, a ddilynodd ei dad i'r ymgyrch gwaedlyd rhyngddo ag Iestin ap Gwrgant a Rhobert Fitzhamon tua'r flwyddyn 1090 o.c.
Wedi croesi o honynt o Ddyfed hyd Fannau Brycheiniog, daeth gwŷr Rhys ar draws y gelyn ar y Waun Hir a orwedd rhwng Cwm Cynon a Glyn Nedd.
Yn ymyl hon, ar ochr Fforest Fawr Llwydcoed, mae ffermdy a erys hyd heddyw— Llety Rhys--lle cysgodd y tywysog hen a'i fab hoff y noson cyn y frwydr.
Yn gynnar bore trannoeth, aeth y ddau allan i drefnu eu llu erbyn cyfarfod y Morgeinwyr a'r Normaniaid oedd yn rhuthro i fyny drwy Gwm Cynon.