Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ychydig feddylient ill dau mai hwn oedd y tro olaf y gwelent yr haul yn codi, a llai fyth mai y dyrnaid gwŷr Normaniaid hyn, pob un yn ei bais ddur, oedd i ragflaenu cenedl gyfan o orchfygwyr. Ond felly y bu. Dyma y bobl fu yn ddistryw, nid yn unig i Rys eu gelyn, ond i Iestin eu cyfaill yr un modd.

Ymladdodd gwŷr Dyfed yn ddewr o dan arweiniad eu tywysog oedrannus, ond yn y bore, wedi gradd o lwyddiant, gwthiwyd hwynt yn ol gan y newydd bobl ofnadwy a waeddai ar ei gilydd mewn iaith estronol, i'r man a elwir Blaen Hirwaun; ac yno, ynghanol celanedd mawr, yr ymladdwyd y frwydr i'r pen.

O flaen gwŷr y gorllewin rhedai nant fechan a sibrwd heddyw mor heddychol ag unrhyw nant arall. Ond yn y prynhawn aethus hwnnw rhedai ei dyfroedd yn ffrwd o waed, a llawer o'r clwyfedigion blygasent ati i dorri eu syched, a syrthiasant iddi yn farw. Nid rhyfedd i'r tadau ei galw yn Nant yr Ochain, oblegid ochain mawr fu yno, a dyna ei henw hyd heddyw.

Pan gollwyd pob gobaith, ffôdd Rhys a Chynan heibio'r Llyn Fawr, gan ddringo y graig anferth i'w chopa. Ac yno, wrth Garn y Moesau, yr ymadawsant â'i gilydd.