IV.
PRIOD "EIN LLYW OLA'."
UN diwrnod tawel, tesog, ym mis Medi 127—o.c. hwyliai llong fechan, "Yr Eryr," i fyny ar hyd Môr Hafren.
Nid oedd, ar yr olwg gyntaf, ddim amgen nag un o'r llongau eraill hwylient y culfôr ar yr un pryd. Eisteddai y capten wrth y llyw, a chanai y morwyr wrth eu gwaith fel pe na bai 'storm na Môr Biscay mewn bod.
Gwyddent yn eithaf da, er hynny, am dymestl a drycin, canys yr oeddent wedi eu profi, a gallent yn briodol ddywedyd am y môr tawel o'u cylch:
"Llawn o dwyll yw ei wên deg."
ond fel morwyr yn gyffredin nid oedd ystorm y ddoe yn rhwystr iddynt fwynhau heulwen heddyw, ac felly canu a wnaethant.
Yn sŵn eu cerdd daeth chwant "taraw cân " i galon arall ar y bwrdd, a hynny a wnaed mewn canzonet Ffrengig fechan. Perchen y llais swynol oedd tywysoges o waed uchel, ac o brydferthwch ail i neb.
Pa beth a barodd i riain deg fel hon eistedd yno ynghanol y morwyr? Ni wyddai y dwylo pwy ydoedd, hyd yn oed, ond yr oedd rhywbeth yn ei