Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

holl osgo yn dywedyd mai y palas neu y castell a'i gweddai yn well na bywyd trwsgl y llong.

Yr unig un ar y bwrdd a wyddai ei hanes oedd y capten, a gwenai efe wrth ei chlywed yn ceisio canu ambell frawddeg Gymraeg ymhlith y llinellau eraill.

Gallasai ef ddywedyd nad oedd hi neb llai nag Elinor de Montfort, merch yr Iarll Leicester, eilun Lloegr, a darparwraig Llywelyn ap Gruffydd, eilun Cymru.

Bu farw ei thad ar faes Evesham (1265 o.c.) yn ymladd dros iawnder i'r Saeson, ac nid oedd iddi yn awr ym Mhrydain na châr na chyfaill o'i dosbarth ei hun, ond y tywysog Cymreig fu yn cyd-frwydro â'i thad yn Lewes (1264 o.c.), ac a geisiai ddal i fyny faner ei wlad ei hun yn wyneb y gelyn balch, Iorwerth y Cyntaf o Loegr.

Pan glybu hwnnw ddarfod i Lywelyn fwriadu priodi Elinor llidiodd yn fawr, a thyngai na ddychwelai hi byth o Ffrainc (lle yr ydoedd ar y pryd), i fod yn wraig iddo. Ond y newydd nesaf a glybu efe oedd ei bod hi eisoes wedi cychwyn am Gymru mewn llong fechan, ac na fuasai yn hir cyn glanio yno.

Danfonodd Iorwerth ar unwaith orchymyn caeth fod pob llong, bach neu fawr, oedd a'i phwynt tuag at draethau y De, i'w chwilio yn fanwl am y dywysoges.