Mae'n eglur nad oedd gorchymyn Iorwerth yn hysbys i Elinor, neu ni buasai yn gallu canu wrth ddynesu at Gymru. Ac ychydig iawn a wyddai fod llongau Hwlffordd, hyd yn oed ar y foment y canasai, yn chwilio pob llestr ddeuai i fyny heibio Dyfnaint a Chernyw.
Pan ddaeth "Yr Eryr" gyferbyn â Llanddunwyd ym Morgannwg, clywyd llais croch dros y dyfroedd yn gorchymyn i'w chapten arafu ei hwyliad, a chyn pen nemor funudau yr oedd un o'r llongau, a edrychai mor ddifrad cyn hynny, yn nesu i'w hymyl, ac yn arllwys dynion dros y gynwêl i'w bwrdd.
Vous êtez ma prisonniere, ma Demoiselle!"
("Fy ngharcharor ydych, foneddiges!") ebe'r arweinydd wrth y dywysoges, a chyda hynny cydiodd yn ei braich.
Digwyddodd hyn mor sydyn ac mor annisgwyliadwy i forwyr Yr Eryr" (y rhai, cofier, ni wyddent pwy oedd y person urddasol oedd yn eu mysg) fel na cheisiwyd gwneuthur un math o amddiffyniad iddi.
Prysurwyd Elinor ynghyd â'r capten a'r holl ddwylo i'r llong ddieithr, a chymerwyd meddiant o'r "Eryr" gan wŷr Hwlffordd. Fflemingiaid oedd y dynion hyn, a chashaent Lywelyn a'r Cymry â chasineb gymaint fel y gwnaent waith Iorwerth yn eu herbyn, boed frwnt, boed lân.