Glaniodd Dafydd ac Owain (canys dyna enwau y ddeuddyn ddihangodd) ym Mhenarth. Cysgasant y noson honno yn agos i Gastell Morlais ger Ffynnon Dydfil, a'r ail noswaith mewn ysgubor yn ymyl tre Aberhonddu. Yna, wedi croesi o honynt Fynydd Epynt, daethant i Gantref Buallt, gan gyrraedd yno erbyn yr unfed ar hugain.
Pan adroddasant yr hanes wrth y Tywysog Llywelyn, ni ynganodd efe air ar y pryd ond gwelwodd fel dyn o dan siom fwyaf ei fywyd.
Derbyniwyd y ddau i'w wasanaeth yn ol llaw, a theimlai y tywysog, er mai cludwyr newyddion drwg fuont iddo, fod eu haberth yn dangos y ffyddlondeb mwyaf; ac yn sicr nid oedd ganddynt ran na chyfran yn y telerau celyd a osododd Iorwerth arno cyn cael ei anwylyd yn rhydd drachefn.
Gwelodd Dafydd ac Owain y briodas yng Nghaer Wrangon (pan ddangosodd Iorwerth ei natur Judasaidd yn llawn), a dewiswyd hwy yn swyddogion i wylied annedd eu tywysog yn Abergwyngregin, pan dderbyniodd yr hen balas briodferch dlysaf y ddwy wlad o fewn ei byrth. Ac yn ddiweddaf oll, bu y ddau farw dros Llywelyn ger Pont Orewyn, ychydig oriau, cyn ei farwolaeth ef ei hun.