Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Dafydd Nicolas
ar Wicipedia

V.
Y BEIRDD TEULU.

YN Y Canol Oesoedd yr oedd i bob teulu urddasol a chyfoethog ei fardd arbennig ei hun.

Gwaith hwnnw, heblaw canu clodydd gŵr y palas, oedd bod yn athro i'w blant, ac yn geidwad ei achau, hynny yw, bod yn wybodus yn holl orffennol y teulu—yn ei enedigaethau, briodasau, a marwolaethau.

Cofier fod y prif deuluoedd y pryd hwnnw yn siarad Cymraeg, ac yn cymeryd diddordeb yn yr iaith a phopeth ynglŷn â hi.

Yn y palasau y cynhelid llawer eisteddfod, a gwahoddid iddynt feirdd yr holl randir, heb ofyn na disgwyl dim oddiwrthynt am lety, bwyd, a diod.

Dyna'r rheswm bod cymaint o ganu gan feirdd y cyfnod hwnnw i haelioni y gwahanol deuluoedd. Yn wir, treuliai ambell fardd ei holl fywyd i fyned o balas i balas, gan droi mewn hawddfyd beunydd, a chanu i bob llaw hael a'i cynhaliai ar lwybr ei fywyd crwydrol.

Bai mawr cerddi yr hen feirdd oedd hawlio gormod o rinweddau i'r bobl hael, er bod hynny yn ddiddorol inni lawer pryd, ac yn rhoi cryn oleuni ar arferion yr oesoedd o'r blaen.