A glywsoch chwi erioed am gwpan a wnai pob gwin a mêdd yfid o hono yn anfeddwol?
Credai yr hen feirdd bod y fath beth yn bosibl, a bod y rhinwedd honno yn dod o faen neilltuol a sicrheid yng ngwaelod y cwpan. Fel y gellir tybio am "ganeuon canmol" caffai y maen hwn—amethyst gan amlaf—lawer o sylw yn nisgrifiad y gwin wleddoedd.
Perthynai i Sion ap Rhys, penteulu Aberpergwm, yng Nglyn-nedd, gwpan a maen o'r fath, am y rhai y canodd hen fardd o'r Rhondda, Gwilym Tew, lawer o bethau hynod.
Ymhlith nodweddion eraill dywedai am ffurf y cwpan, "Ffiol fawr a phalf eryr"; yna am ei gynnwys, sef y gwin, "Gwrid mêl ag aur hyd y min"; ac felly ymlaen am le a lliw y maen ynddo. "Mewn i gwaelod maen go-lâs"; ac yn olaf at ei henaint, "Wrth wŷr bwrdd Arthur y bu."
Gallem feddwl fod maen gwerthfawr iawn hefyd yng ngwaelod cwpan o eiddo Syr Mathew le Soore, y Norman o Lanbedr y Fro, canys pan ddaeth Dafydd ap Gwilym yno rywbryd ar ei dro, bostiwyd wrtho bod gwaelod un o gwpanau Syr Mathew yn fwy o werth na holl gwpanau Ifor Hael gyda'i gilydd. Hyn a ddywedwyd am mai bardd teulu Ifor oedd Dafydd.
Atebodd yntau yn dra effeithiol gan gyfeirio at haelioni diarhebol ei feistr, sef, na welodd