Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

efe eto waelod un o gwpanau Ifor. Ac i wneuthur y gwahaniaeth rhwng y ddau bendefig yn fwy eglur fyth, ychwanegodd:

"Dewr a digrif yw Ifor,
Sais yw Syr Mathew le Sôr."

Yr olaf o feirdd teulu Cymru oedd Dafydd Nicolas o Aberpergwm, a wasanaethai yr un teulu parchus ag y perthynai y cwpan "maen go-lâs" y soniwyd eisoes am dano iddo. Yr oedd efe yn gerddor medrus heblaw bod yn fardd, ac efe a roddodd inni y gân enwog, "Y Deryn Pur "

Yr wyf yn sicr eich bod wedi ei chlywed, oblegid cenir hi heddyw yn y mwyafrif o'r ysgolion goreu.

Dyma fel y dechreu:

Canodd Dafydd Nicolas lawer o ganeuon eraill hefyd, ond nid dim erioed yn bertach na'r gân hon.

Bu efe farw yn 1769 o.c., ond ni fydd "Y Deryn Pur" byth farw.