Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI.
LLETYGARWCH YR HEN AMSEROEDD.

"HYWEL! tyr'd hefo mi! Rhaid wrthyf dy ddyfod. Myn y sêr ymladd i'n herbyn ar hyn o bryd, ond try y rhôd eto. Tyr'd! Fe ofala Rhys dy frawd am fy ngwŷr. Awn i'r De!"

Dyna eiriau Owain Glyndwr, tywysog Cymru, i'w gyfaill Hywel Gethin, ar ol colli o hono ddwy frwydr yn Nyffryn Wysg yng nghorff yr un wythnos.

Ymgiliodd o'r golwg unwaith cyn hynny yn 1402, ond cododd ei seren drachefn yn yr un flwyddyn, a daeth ei lwyddiant yntau i'w anterth mewn canlyniad.

Gwyddai Owain y buasai helfa fawr ar ei ol trannoeth y frwydr, a chan mai ffoi i'r Gogledd y disgwyliai y gelyn iddo ei wneuthur, trodd i'r De-i safnau y llewod oedd yno yn sychedu am ei waed.

Trwy Flaen-y-Glyn ac Hepsta wele'r ddeuddyn yn cerdded, gan dynnu at Graig-y-Llyn, Pen Pych, Mynydd y Caerau, a Moelgila.

Llawer ystenaid o laeth a llawer tolc o fara ceirch gawsant ar eu taith gan wŷr y wlad. Edrychai y rhai hynny yn syn ar y ddau Gymro