VII.
Y CYMRO BERERIN.
YN ymyl y dyfr-gwymp anferth ar afon Mellte, yng nghyrrau pellaf Dyffryn Nedd, saif tyddyn hen iawn a elwir eto wrth yr un enw ag y'i gelwid lawer canrif yn ol, sef Gwern Bleiddiau. Allan o hono aeth llawer cenhedlaeth fechgyn i ymladd dros eu gwlad a'u tywysog, cyn bod sôn am y khaki, na chot goch ychwaith.
Ni wyddai ein cyndeidiau y foment y deuai gelyn ar eu traws, ac felly, eu dillad gwaith oedd eu dillad ymladd hefyd; a phan roddent y cryman, y ffust, neu'r pladur o'u llaw, nid oedd ond cymeryd y cleddyf, y bicell, neu y bwa a'r saethau yn eu lle.
Rhaid cofio bod i bob tyddyn yn yr amser hwnnw ddau dŷ, y gaeaf-dre, neu hendre, yn yr iseldir, a'r lluest neu haf-dre yn yr ucheldir. Amcan yr hafdy oedd cael bod yn agos i'r gwartheg i'w gwylied a'u godro pan borent yr uchel leoedd ar hirddydd haf, ac i wneuthur y caws a'r ymenyn ynddo yn hytrach na chludo y llaeth yr holl ffordd i'r dyffryn.
Yn y dyddiau y soniaf am danynt, sef tua saith canrif yn ol, gwaith Ithel ap Ievan, ail