Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fab Gwern Bleiddiau, oedd gofalu, bob yn ail â'i frawd, am wartheg y lluest, sef yr hafdy lle cadwai ei dad saith o honynt i bori godreon y Fân.

Rhaid cyfaddef nad oedd Ithel yn hoff o'r gwaith. Lle unig iawn oedd y lluest, a gwell o lawer gan y llanc oedd ymarfer ag arfau, fel y gallai, ryw ddydd, ddangos ei fedr o flaen torf.

Bu ei hen daid allan yn nhymor ei ieuenctid gyda Morgan Gam, a Llywelyn Fawr, pan dorrwyd Castell Nedd gan y Cymry; a chreodd yr hanes, oedd yn draddodiad teulu erbyn hyn, yn rhinwedd adroddiad mynych ar barth pridd y tyddyn, ysfa angherddol yn Ithel i weled y byd tu allan.

Gwelai y môr yn ddyddiol oddiar lechwedd y Fàn, ond beth dalai ei weled o bell i lanc fel efe? A beth oedd yng Ngwern Bleiddiau a'r lluest i'w gadw yno? Dim ond un dydd llwyd fel y llall a bwyta bara segur, oblegid gallasai ei frodyr iau wneuthur ei waith ef cystal ag yntau. Yn sicr, nid arhosai i rydu ar lan Mellte holl ddyddiau ei fywyd pan gynygiai y cestyll a'r llongau bopeth i fachgen anturiaethus fel efe.

Ar hynny, gloywodd yn fanwl iawn y cledd nad elai byth i unman hebddo, a disgwyliodd yn anamyneddgar iawn am ddiwedd yr wythnos,