oedd yno, ac nid Normaniaid fel yng Nghastell Nedd ac Abertawe.
Gyda'r llanw yn y bore wele'r balinger ger y làn wrth yr eglwys, a'r pererinion fel un gŵr yn tyrru i'w hymyl.
Rhifwyd y rhai arfaethent forio i Sant Iago, ac aethant ar y bwrdd. Yna gofynnodd y capten a oedd rhagor. Edrychodd i gyfeiriad Ithel gan ryw gredu mai pererin oedd yntau hefyd, am na welai ei gledd gan amledd y dyrfa. Ac ebe fe wrtho, "Nawr, machgen i, dyma dy gyfle am heddwch bythol!"
Ar hyn neshaodd Ithel ato i ymyl y llong ac a ddywedodd yn ddistaw mewn atebiad, "Nid oes gennyf arian i dalu fy nghludiad, ond os ydyw dwy fraich na phrofodd ddim ond gwaith caled erioed yn gyfartal i hynny, y fi yw eich dyn."
"Neidia i'r bwrdd!" ebe'r capten, ac yn y man rhestrwyd y llanc Cymreig fel un o'r dwylo.
Yn fuan wedyn hwyliodd y llong yn ei hol i lawr i'r afon, a chan adael Llansawel ar y chwith, ymsaethodd allan i Fôr Hafren.
Ni fedrodd Ithel weithio ond ychydig am y deuddydd cyntaf. Yr oedd popeth mor ddieithr iddo, a mwy na'r oll, yr oedd, fel y rhelyw o'r newyddiaid ar y bwrdd, yn sâl iawn gan glefyd