y môr. Ond ymhen deuddydd arall gweithiai yn egnïol, a dysgai rywbeth newydd o grefft y morwr yn barhaus.
Yr oedd y llong erbyn hyn allan o'r cul-foroedd ac yn hwylio y cefnfor llydan. Edrychai y pererinion ymlaen at gyrraedd y làn mewn ychydig amser, pan yn sydyn cododd gwynt nerthol o'r gogledd-orllewin.
Digwyddai ar y pryd bod yr hwylbrennau yn cario yr holl hwyliau oedd yn bosibl iddynt, ac o herwydd hynny, taflwyd y llong ar ei hochr.
Yna y bu gwaeddi mawr, y capten a'r dwylo gan brysurdeb eu gwaith, a'r pererinion gan eu hofnau. Y foment nesaf torrodd yr hwylbren mwyaf, a thaflwyd y llestr yn gwbl ar drugaredd y môr. Trwy y nos chwythwyd hi o flaen y gwynt, a phan ddaeth y bore, taflwyd hi gan y tonnau ar draeth tywodlyd. Bu llawer o'r pererinion foddi ynghyd â rhai o'r dwylo, yn eu hymdrech i gyrraedd y tir; ond cyrhaeddodd y gweddill, ac yn eu plith y capten ac Ithel, y làn yn ddiogel. Daeth y brodorion atynt, ac a roisant iddynt ymgeledd. Gwybuwyd mai ar dir Guienne yr oeddent, ac hefyd bod y Tywysog Du o Loegr yno ar y pryd. Pan glywodd efe mai deiliaid ei dad oedd yr anffodusion, dangosodd iddynt garedigrwydd nid bychan.