Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ymhen rhai wythnosau ymunodd Ithel â byddin y tywysog, ac ymladdodd drosto yn Poictiers a mannau eraill. Ni ddaeth yn ol i'w wlad am saith mlynedd, a phan gyrhaeddodd ei gartref ymhen yr amser hwnnw, gwybu farw o'i dad a dau o'i frodyr yn y rhyfeloedd yng Nghymru.
Bu yn gefn i'w fam, a phan fu hithau farw, priododd ef un o ferched y wlad, a bu gan ei blant gymaint o sôn yn yr hen Wern Bleiddiau am Poictiers a'r Tywysog Du ag a fu am Gastell Nedd a Llywelyn Fawr gan eu tad a'u taid.