Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mishtir!" ebe Meredydd, bugail y Gelli, un pen bore, "'rwy'n cretu y gwn am deulu o genddi bach yn y Graig ar war Coetcae Ffyrch."

"Paid â gweud, bachgan! Wyt ti'n siwr?"

"Eitha siwr, mishtir, neu dewch làn y'ch hunan i weld."

I fyny aeth yr Ysgweier, ac wedi twrio ychydig i ddod o hyd iddynt, cawsant bum canddo ieuanc yno'n chwarae ar lawr yr ogof fel cathod bychain. Aethpwyd â hwy i lawr i Blas y Gelli, a mawr fu yr edmygu arnynt ynghyd â llawer o sôn am genddi eraill yn amser y tadau.

"Meredydd!" ebe ei feistr bore trannoeth, "beth pe baet yn mynd ag un o'r cenddi bach i Sgweiar Llanharan. Dim ond i ti fynd oddiar frecwast ti elli fod yn ol cyn nos."

"O'r gore, mishtir, fe af ar unwaith, ac y mae'n argo'li tywydd teg."

Nid mor deg ychwaith, oblegid pan groesodd Meredydd y Foel Gila tua chanol dydd yr oedd yn boeth iawn, a'i syched yntau o ganlyniad yn mynd yn fwy.

Pan ddaeth i Frynmenyn, yno gerbron ei lygaid yr oedd arwydd gwesty y "Fox and Hounds" yn dywedyd yn eglur bod yno ddar—pariaeth ar gyfer dyn ac anifail. "Eitha peth,"