Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Meredydd oedd yr awdurdod uchaf ar gi yn yr holl wlad, y goreu ei farn, a'r craffaf ei lygad. Ond nid oedd ei lygad yn ddigon craff, serch hynny, neu fe sylwai ar un o'r "boys" (ys dywedai efe) yn dwyn cwd y canddo yn llechwraidd i'r gegin tu ol i'w hystafell hwy. Yno tynnodd allan yn frysiog y canddo bach, ac a'i gosododd yng nghypwrdd y gegin, tra'r foment nesaf ymaflodd mewn gwrcath mawr du a gysgai yn ochr y tân, ac a'i gwthiodd i le'r canddo, gan fyned i fyny ystafell yr yfed o'r tu ol i Feredydd a gosod y cwd yn ei le yno fel pe bai dim wedi digwydd.

"Da bo'ch, boys!" ebai'r awdurdod mawr ar gŵn, wedi iddo yfed ei beint i'r gwaelod. Bydd y 'Sgweiar yn falch, rwy'n siwr. Nid pob dydd y caiff bresant fel hwn." "Nage'n wir," meddai gwalch y gegin.

Ni fyddai Meredydd agos mor llon ei ymadawiad pe gwyddai mai cwrcyn oedd dan ei gesail yn mynd allan, neu pe gallai glywed y chwerthin mawr yn y Fox and Hounds y munudau nesaf.

"Dydd da, 'Sgweiar!" ebe fe wedi cyrraedd Plas Llanharan.

"Hylo, Meredydd, chi sy' 'na? Shwd ma' nhw yn y Gelli?"