Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ar noson deg, oleu-leuad, i rwyfo o gylch yr hen long oedd bellach fel rhyw ysgerbwd yn llawn dwfr a thywod. Gwelwyd, fore trannoeth, eu bod heb ddychwelyd, ac aethpwyd i chwilio pob cilfach yn agos i'r hen lestr am danynt, ac o'r diwedd cafwyd cyrff y tri yn y dwfr tu mewn iddo. Y mae eto yn gwestiwn dadl yn yr ardal am y modd mwyaf dichonadwy y daethant i'w hangau yno.
Cafodd yr hen long ofnadwy hon lonydd wedyn ond yn raddol torrodd y tonnau ei hysgerbwd hithau, ac nid yw llestr y Frenchman's Patch ond traddodiad i'r oes hon.