Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XIV.
HEOLYDD SIR.

ODDIAR y flwyddyn yr ymadawodd Rhufeiniaid â'n gwlad (410 o.c.) hyd amser Telford yn niwedd y ddeunawfed ganrif, ychydig, os dim, o heolydd boddhaol a welodd ein gwlad. Nid oedd ein ffyrdd, ar y goreu, ond rhai culion a cheimion iawn, yn arwain o le i le.

Ond tua'r flwyddyn 1770 o.c. diwygiwyd llawer yn y peth pwysig hwn, a dihunodd y gwahanol siroedd i weld mai ofer oedd cynnydd masnach os mai gwael fyddai yr heolydd.

Felly awd ati i uno â'i gilydd, nid yn unig drefydd y fro—wlad, megis Caerdydd, Casnewydd, y Bontfaen, Penybont, Castellnedd, ac Abertawe, ond hefyd leoedd fel Merthyr, Aberdâr, Pont-y-pridd, ac hyd yn oed Aberhonddu, yn y mynydd-dir.

Wedi cwblhau yr heolydd hyn, y peth nesaf oedd gofalu am eu cadw mewn cyflwr da; ac i'r perwyl hynny, rhaid wrth gwrs oedd cael arian cyson.

Y modd y trefnwyd i ddwyn y gost oedd gwneuthur i'r sawl a yrrai greaduriaid neu gerbydau o unrhyw fath drostynt dalu am y