ac nid oedd y datganiad byth heb ei effaith arnom.
Un o'r Cymry aeth allan i'r mwnfeydd aur dros drigain mlynedd yn ol oedd y Morgan hwn, a diddorol dros ben oedd clywed am rai digwyddiadau a'i cyfarfu yn Awstralia.
Pan diriodd yno, wedi tri mis o hwylio'r cefnforoedd, yr oedd hiraeth eisoes ymron â'i ladd. Er mwyn lleddfu y teimlad am y fam a'r cartref adawodd ar ei ol, prynodd gi bach ym Melbourne, ac ni fynnai siarad dim ag ef ond mewn Cymraeg. Rhoddodd hefyd iddo yr enw Gelert, fel y byddai hyd yn oed yn hynny o beth yn hollol Gymreig.
Bu Gelert yn gysur mawr i'w feistr, ac a'i dilynodd i bob man. Pan fyddai Morgan yn lluddedig ar ol diwrnod caled o dwrio am y mwn gwerthfawr, ychydig o ysgwrs Gymraeg â Gelert a'i llonnai drachefn; ac unwaith, yn Bendigo, bu cyfarthiad amserol ei gi ffyddlon yn foddion i ddeffro ei feistr pan ddaeth lladron i geisio ysbeilio'r babell y cysgai ynddi.
Ond yn Ballarat y bu'r digwyddiad hynotaf oll. Wedi mis o weithio diwyd yn y mwǹglawdd yno, sylwodd Morgan ryw ddiwrnod nad oedd Gelert yn ei ymyl fel arfer. ei ymyl fel arfer. Chwibanodd am dano i fyny ac i lawr drwy yr holl le, ond absennol o hyd oedd Gelert, fel y Gelert arall