Yn niwedd y rhyfel dychwelodd i'w wlad enedigol yn un o wroniaid mwyaf yr ymdrech, a threuliodd ei oes hir i wneuthur Cymru a'i phlant yn well o fod mewn cysylltiad ag ef.
Dywediad cyffredin ymhlith amaethwyr oedd bod dal tyddyn o dan ei arglwyddiaeth yn well na freehold, oblegid ni throid byth neb allan o'i fferm, isel oedd y rhent, a digonol y "ripârs." Ni ŵyr neb faint y symiau a roddodd efe at bob achos da, oblegid ni utganai o'i flaen, ac ni wyddai ei law ddehau pa beth a wnai ei law aswy."
Efe oedd rhoddwr y corn euraid a'r gwahanol wisgoedd i Feirdd yr Orsedd, ac nid rhyfedd o gwbl iddynt, felly, osod arno y ffugenw, "Ifor Hael yr Ail "; oblegid heblaw bod o linach yr Ifor a noddodd Ddafydd ap Gwilym, yr oedd ysbryd yr hen dywysog hael arno yn helaeth hefyd.