Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XVIII.
"NUMBER 'LEVEN."

UN o ganlyniadau y dull newydd yn Neheudir Cymru o wneuthur dur oedd colli ambell grefft allan o fyd ein masnach. Diflannodd y gwneuthurwr golosg (charcoal burner) ers cryn amser, a dilynwyd ef gan y 'finer a'r puddler.

Dyn hynod iawn oedd y puddler. Yn un peth, yr oedd ei syched yn ddiderfyn; ac ymhob pentre lle y blodeuai "gwaith h'arn" gynt, ceir eto nifer o dafarnau bychain gylch yr hen waith, a fynychid fore, nawn, a hwyr gan wŷr y "puddlin" pan gredent na "losgai" yr haearn o herwydd absenoldeb o ryw ddeng munud neu chwarter awr.

Hawdd yw cyfrif am y syched mawr, oblegid yr oedd gwrês y ffwrneisiau hefyd yn fawr. Nid gorchwyl hawdd yw rhoddi rheswm am y llysenwau lluosog yn eu mysg.

Ped aethai dyn dieithr i "ben y gwaith" i ofyn am John Jones neu Ddafydd Dafis, anodd fyddai iddo gael ei gyfeirio at y dyn iawn, ond pe gofynnai am Shoni Cawl neu Dai 'Sgadenyn, caffai o hyd iddo ar unwaith.

Efallai mai diffyg addysg foreol oedd yr esboniad am y fath enwau, ond boed hynny fel y bo. Pan "chwythwyd ma's yr hen" weithiau