Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ystoriau Siluria.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

h'arn" ar ol y caead allan" yn 1875, trodd y mwyafrif o'r pudleriaid yn lowyr, ac aethant i lawr i'r pyllau gan ddwyn gyda hwynt eu llysenwau, a'u hanwybodaeth.

Mewn cwm neilltuol yn Sir Fynwy aeth dau o honynt (a ddigwyddai hefyd fod yn ddau gefnder), sef Twm Celw'dd Gola' a Wil Shibwnsyn, i dorri glo, y naill mewn un pwll, a'r llall mewn pwll arall yn ymyl.

Gwyddys fod i bob glöwr ei rif neilltuol yn y lofa. Y rhif hwnnw fydd y nod yn wastad ar bob dram ddaw o'i dalcen glo i ddangos mai efe a'i llanwodd, ac mai iddo ef y mae y tâl yn ddyledus am hynny.

Fel y bu hynod y ffaith, digwyddodd i'r ddau gefnder, yn gweithio mewn dwy lofa yn agos i'w gilydd, gael yr un rhif, sef un ar ddeg, neu fel y dywedent hwy, Number 'leven"; ac nid yw y son wedi marw eto am y drafferth gawsant ynglŷn â marco'r ddram am y tro cyntaf.

Ni fu Twm awr erioed mewn ysgol o un math, ond yn gweithio gydag ef yr oedd crwt deuddeg oed a gafodd "beth ysgol" cyn "dechreu dan ddaear." Dyma'r ymgom fu rhyngddynt ar y pwnc pwysig o hawlio'r ddram, pan ddaliai y puddler y sialc yn ei law:

Twm: Wyddot ti beth yw "Number 'leven"?