Tudalen:Ystorom yr Edifeiriol.pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ystorom yr Edifeiriol gan Ehedydd Iâl

Y nefoedd uwch fy mhen
A dduodd fel y nos,
Heb haul na lleuad wen
Nac unrhyw seren dlos,
A llym gyfiawnder oddi fry
Yn saethu mellt o'r cwmwl du.

Cydwybod euog oedd
Yn rhuo dan fy mron
Mi gofia'i chwerw floedd
Tra ar y ddaear hon —
Ac yn fy ing ymdrechais ffoi,
Heb wybod am un lle i droi.

Mi drois at ddrws y Ddeddf
Gan ddisgwyl cael rhyddhad;
Gofynnais iddi'n lleddf
Roi imi esmwythâd:
'Ffo am dy einioes', ebe hi,
'At Fab y Dyn i Galfari!'

Gan ffoi, ymdrechais ffoi
Yn sŵn taranau ffroch,
Tra'r mellt yn chwyrn gyffroi
O'm hôl fel byddin goch;
Cyrhaeddais ben Calfaria fryn,
Ac yno gwelais Iesu gwyn.

Er nad yw 'nghnawd ond gwellt
A'm hesgyrn ddim ond clai,
Mi ganaf yn y mellt,
Maddeuodd Duw fy mai:
Mae craig yr oesoedd dan fy nhraed,
A'r mellt yn diffodd yn y gwaed.