Neidio i'r cynnwys

Tudur Aled (JMJ)

Oddi ar Wicidestun
Tudur Aled (JMJ)

gan John Morris-Jones

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Morris-Jones
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Tudur Aled
ar Wicipedia

TUDUR ALED.[1]
GAN
YR ATHRO J. MORRIS JONES, M.A.

YCHYDIG O hanes Tudur Aled sydd ar gael, o'r hyn lleiaf mewn argraff; ond diameu fod rhagor yn gorwedd ynghûdd yn yr hen lawysgrifau, yn aros yr ymchwiliwr a gloddia ynddynt am dano. Yr wyf yn ddyledus i Mr. Shankland am dynnu fy sylw at linach y bardd yn Llawysgrif Peniarth rhif 128, tudalen 792 o Report Dr. Gwenogfryn Evans:

"Tudur Aled ap Rob(ert) ap Ithel ap Ll(ywely)n Chwith ap Kyn(wrig) ap Bleddyn Llwyd ap Bleddyn Vychan."

Ond yn rhif 64 yn llaw Simwnt Fychan, dywedir yn ol y Report, td. 450, mai mab oedd Llywelyn Chwith i Ruffudd ap Dafydd Dinllaes; ac mewn man arall, Powys Fadog, iii, 106, cawn mai mab i Fleddyn Llwyd oedd Bleddyn Fychan, ac nid tad, fel y dywed y cofnod uchod. Pa fodd bynnag, y mae'r cofnodion yn cytuno cynbelled a hendaid y bardd; ac nid yw o fawr bwys, am a wn i, pwy oedd ei or-hendaid—caiff yr achyddion benderfynu.

Nid fy amcan i yn y papur hwn ydyw ymdrin â'i hanes, ond dangos beth sydd ganddo i'w ddysgu i ni am y gynghanedd. Cydnabyddid ef yn ei oes yn brif awdurdod ar y gelfyddyd; a'r unig fater yn hanes ei fywyd sydd o bwys i ni yn awr ydyw ei fod yn nai ac yn ddisgybl i Ddafydd ab Edmwnd, ac yn gadeirfardd Eisteddfod Caerwys yn 1523. Fel cadeirfardd yr Eisteddfod perthynai arno drefnu a diwygio rheolau barddas; a bu ei waith ef arnynt yn gyfryw ag y gelwid hwynt wedi hynny ar ei enw, fel y tystia englyn Gruffudd Hiraethog:

"Mil pumcant, rhifant, y rhed,—a rhagor
Pump ar hugain, rhodded
Yn ddeddf bwys, beirdd Gaerwys ged,
Rheolau Tudur Aled;"


ac englyn Ieuan Tew:

"Gwylier, gan fynnu gweled—yr heol
I'r awen i cherdded:
Rhol gyniwair, crair beirdd Cred—
Rheolau Tudur Aled."


Cynwysai'r rheolau hyn nid yn unig "reolau barddoniaeth" yn ystyr arferol y gair, ond hefyd "y drefn gyffredin ar wŷr wrth gerdd", megis yn yr hen ystatudau. Deddfir, er enghraifft,—

Nodyn:Q

Penderfynir dyledswydd y disgybl at ei athro:

"Na bo i ddisgybl wneuthur disgybl arall, na dysgu dim ar a gafas gan i athro onid a wnel dan i athro yn ysgol yr athro, neu drwy i ganiad; ac ar bob disgybl bod gidai athro y grawys, ac yn enwedic pob disgybl yspâs nes ynnill gradd ddisgyblaidd, dan boen kolli i radd, oni bydd karchar neu glefyd neu gyfryw achos kyfreithlawn [yn i luddias]."

Trefnir hyd yn oed ar ba bynciau y maent i ganu:

"Ac na bo i brydydd dan radd disgybl brydu na chanu namyn i ferched ac i ofer bethau yn ddyfaliadau i gyfnabod ai awenydd, nes cael gradd mewn eisteddfod warantedic."

Gellir dyfynnu dwy o'r rheolau i ddangos fel y taflant oleuni ar bethau oedd yn dywyll i haneswyr llenyddiaeth yn y ganrif aeth heibio. Llawer o ddyfalu a fu gan y bywgraffwyr beth oedd gwaith y bardd hwn a'r bardd arall; nid oedd ganddynt ddychymyg i amgyffred bywyd yr oesoedd gynt, a thybient fod yn rhaid i fardd fod yn grydd neu saer neu rywbeth i ennill ei damaid fel yn ein dyddiau ni. Trwy gamddeall rhyw ymadrodd o waith Edmwnd Prys, mynnent mai gof oedd Wiliam Cynwal; ac ni allent benderfynu pa un ai milwr ai clerigwr oedd Siôn Tudur. Y gwir yw, wrth gwrs, fod prydyddiaeth yn alwedigaeth, a thâl cyfreithiol i'r bardd am ei gerdd yn ol rheol osodedig, fel i'r twrnai am ei gyngor: ac eithriad oedd bod dyn yn fardd ac yn offeiriad fel Edmwnd Prys—yn wir peth a waherddid yn rheolau Tudur Aled:

"Hefyd na bo i neb arwain dwy gelfyddyd, megis telynior neu grythor a ffrydyddiaeth neu a chrefft arall, neu brydydd yn of ac yn brydydd, ac na bo i neb athro gymryd yn ddisgybl un a vu brentis i grefft."

Drachefn, yr oedd canu "cywyddau gofyn" yn un o'r defodau sefydledig, fel y gŵyr pawb sy'n gydnabyddus â gwaith y beirdd. Nid oedd y ffi a delid i'r bardd ond rhan fechan o bris y peth a ofynnid; a gellid meddwl y buasai ambell un go haerllug yn llogi beirdd yn fynych i gael mwy na gwerth ei arian oddiar ei gymdogion. Ond dengys y rheolau na chenid y cywydd heb i'r perchennog gydsynio:

"Na bo prydydd a wnel kerdd i erchi march neu vilgi neu gyvryw anwyldlws heb gennad y perchennog."

Ceir felly eglurhad ar ddechreuad yr ymrafael a fu rhwng Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal. Ysgrifennodd Edmwnd gywydd dros ryw Rys Wyn i ofyn i Wiliam am fwa oedd ganddo. Ond ymddengys fod camddealltwriaeth yn rhywle; nid oedd Wiliam wedi rhoi ei gennad, ac yr oedd ei afael yn y bwa yn rhy dynn i ymadael ag ef. Felly canodd gywydd i ateb Edmwnd, ac i roi nag am y bwa. A chanu y buont wedi hynny bob eilwers hyd oni bu Wiliam farw.

Ond er fod y rheolau ymarweddiad hyn i'w cael dan enw Tudur yng nghofnodion Eisteddfod gyntaf Caerwys, diameu mai'r hyn a olygai'r beirdd yn gyffredin wrth "reolau Tudur Aled" oedd, fel y dywed Ieuan Tew—

"—yr heol
I'r awen i cherdded",


sef "rheolau barddoniaeth" yn yr ystyr y deellid yr ymadrodd yn ddiweddarach. Argraffwyd ei enghreifftiau o'r mesurau yng Nghyfrinach y Beirdd, td. 224-7; ond nid oedd fawr ddim newydd yn y rhan hon o'i waith. Cawn ddisgrifiadau o'r mesurau ymhell cyn ei amser ef, er enghraifft yng Ngramadeg Llyfr Coch Hergest; a diameu i Ddafydd ab Edmwnd eu deffinio'n llawn pan gadeiriwyd ef yng Nghaerfyrddin yn 1451. Ond fe all mai Tudur oedd y cyntaf i drefnu'n weddol gyflawn reolau'r gynghanedd. Dywed Dr. Pughe yn ei Ragymadrodd i'w eiriadur, ail arg., td. xiv, fod gramadeg o waith Tudur ar gael y pryd hynny; ond methais a'i olrhain yn y Reports. Er hyn, am ddau reswm, yn gyntaf, y crybwyllion am "reolau Tudur Aled", ac yn ail, nad oes, hyd y mae'n hysbys, reolau cynghanedd hŷn na Thudur, nid annhebyg mai fo a'u trefnodd; ac os felly, ei reolau ef yw ffynhonnell. y traethodau diweddarach, a cheir eu sylwedd wedi eu helaethu yng ngramadegau Simwnt Fychan a Siôn Dafydd Rhys. Ond nid yw'r rheolau yn y ffurf helaethaf arnynt yn eglur iawn bob amser; ac wrth chwilio cynghanedd Tudur yn ei gywyddau a'i awdlau, gellir canfod yn eglurach nag y dywedasai ef mewn geiriau pa reolau a gedwid ganddo.

Cymerer yn gyntaf y bai gwaharddedig a elwir "proest i'r awdl". Yr unig beth a ddywed Simwnt Fychan am y bai ydyw "i vod ef yn y gynghanedd groes neu draws, ac a vydd pan vo prif orffwysva y gynghanedd a'r brif awdl yn proestio ynghyd, val hyn:

'Y dewr gwrol | drwy gweryl.'
'Y dŷn | vo ffaeliodd dy (dôn.'"[2]


Chwi welwch fod Simwnt yn cymryd yn ganiataol fod y darllennydd yn deall beth yw "proestio"; ond y drwg yw fod ysgrifenwyr ar y gynghanedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn tywyllwch dudew parthed ystyr "proest". Y mae Caledfryn er enghraifft, yn ail adrodd geiriau Simwnt, ond yn rhoi ei enghreifftiau ei hun, fel hyn:

"Un yw a baid | yn y byd."
"Gwirionedd | gŵr o Wynedd."
"Un bai | ni welodd (na bu";[3]


yr olaf yn enghraifft o "broest llafarog". Ond nid oes "broest i'r awdl" yn yr un o'r llinellau hyn. Sylwer yn gyntaf mai'r "awdl" ydyw yr odl, neu'r brif-odl, fel yr eglura Simwnt, hynny yw, y sillaf olaf, sy'n cario odl (rhyme) y pennill. Yn awr sylwer ar ail enghraifft Caledfryn: y mae'r—edd sy'n terfynu'r rhan gyntaf yn odli â'r—edd sy'n terfynu'r llinell; ond nid odli ydyw proestio. Diau fod odli â'r brifod yn waeth na phroestio, ond gwaherddir hyn gan reol arall a elwir "gormodd odlau"; eithr nid yw'r llinell a grybwyllwyd yn enghraifft o gwbl o "broest' i'r awdl". Yn ei enghreifftiau eraill, nid yw baid yn proestio â byd, ac nid yw bai yn proestio â bu. Beth, gan hynny, yw proest? Gwelir yn amlwg mai syniad Caledfryn, fel syniad Dafydd Morgannwg ac "awdurdodau" eraill y ganrif o'r blaen, yw mai dau air yn diweddu yn yr un gydsain ydyw proest, ac mai dau air yn diweddu heb gydsain ydyw proest llafarog. Tybiant mai'r hyn a waherddir ydyw i'r orffwysfa gynghaneddu â'r brifodl; ond nid cynghaneddu ydyw proestio. Yn hytrach, rhyw amrywiaeth ar odl ydyw proest; cyn y bydd dau air yn proestio, rhaid iddynt odli wrth newid llafariad un ohonynt; fel hyn, y mae Môn a mân yn proestio, oblegid odlant os newidir yr â i ô, ond nid yw Môn a màn yn proestio, am nad yw Môn a mòn yn odli. Y mae ymysg y mesurau benillion a elwir "proest" am fod eu llinellau yn proestio yn lle odli â'i gilydd ; ac os sylwir ar enghreifftiau o'r beirdd awdurol, fe welir os bydd y llafariad yn hir yn niwedd un llinell fod y llafariaid yn hir ynddynt oll, ac os bydd un yn fer, byddant yn fyrion oll. Sylwch yn awr ar enghreifftiau Simwnt Fychan o "broest i'r awdl" a ddyfynnwyd uchod: y mae gwrol yn proestio â gweryl am fod gwrol a gwerol yn odl berffaith; yr un modd y mae dŷn yn proestio â dón am fod y llafariad yn hir yn y ddau air. Ond sylwch ar y llinellau hyn o waith Tudur Aled:

"Coed o'i fôn | codi a fynn."
"Ni rown i bin er na bôn."
"Ni roech chwi bin | yr ŷch bôn."


Fe gondemnid y tair gan Galedfryn, am na wyddai beth oedd proest; ond nid oes "broest i'r awdl" yn yr un o honynt. Nid yw fôn yn proestio â fynn, ac nid yw bin yn proestio â bón. Buasai'r bai "proest i'r awdl" yn y ddwy gyntaf ped ysgrifenasid hwynt fel hyn—

Coed o fann | codi a fynn;
Ni rown i bin | i'r hen ben;


ond nid ysgrifennodd Tudur erioed ddim o'r fath. Drachefn, cyn y bydd dau air yn proestio rhaid i'r ddau nid yn unig gynnwys llafariad o'r un hyd; ond rhaid iddynt ill dau gynnwys llafariad seml neu ill dau gynnwys deusain, ac os deusain, yna deuseiniaid o'r un dosbarth. Nid yw Môn yn proestio â mawn, canys nid yw mân a mawn yn odli; yr un modd nid yw mewn yn proestio â main, canys pan newidir yr e i a yn y cyntaf, nid yw mawn a main yn odli. Er mwyn cael proest, os bydd aw yn un o'r geiriau rhaid cael naill ai ew, iw, yw neu uw yn y llall; a chyfrifir fod ae, ai neu ei, oe, wy yn proestio, am fod y rhai hyn oll yn perthyn i'r un dosbarth, er fod yr ail elfen ynddynt yn wahanol yn awr. Un ddeusain yw au neu eu, a gelwid hi yn "ddipton wib" am nad oedd dim yn proestio â hi, canys yr oedd ou yn ddwy sillaf mewn gair fel ymarhois. Gan hynny, fe welir nad oes "broest i'r awdl" yn y llinellau hyn o waith Tudur:

"Cerdda i mewn | cur wydd main."
"Llyfn iawn | a allai fy nwyn."


Y mae ganddo ddegau o linellau a gondemnid fel yn cynnwys "proest llafarog" gan Galedfryn; ond os edrychir arnynt yng ngoleuni'r eglurhad uchod nid oes broest yn yr un ohonynt, canys y mae'r orffwysfa a'r odl yn gwahaniaethu bob amser trwy fod deusain yn un a llafariad seml yn y llall, neu drwy fod ynddynt ddwy ddeusain o ddau ddosbarth gwahanol. Dyma ychydig ohonynt:

"Er ameu o rai yma,
"Er hyn Duw | sy'n (rhannu da."

"Mae rhai yn cael eu (mawrhau"
"Draw ag yma | drwy gamau"

"Ni bu fyw | neb heb i fai."
Gelwch iddi | gloch heddyw."
"Dyn wedi'i roi | dan iau draw."
"Mab Huw Conwy | 'mhob canu."
"Na'th dreisio di | na'th dristàu."
"I fendith Dduw | fynd o'i thy."
"Dwylaw Duw | am (dy lu di."
"Dwyn llew | a blo(dau yn llu."
"Pa waeth fai | na'r (pethau fu?"
"A bod i law | be dôi lu."
"Gwalch a haeddai | glych heddyw."
"Hyd wrthdir Asia | hyd wrth y drysau."


Dyma linellau o waith yr awdurdod uchaf ar gynghanedd, llinellau a waherddid i feirdd y bedwaredd ganrif ar bymtheg oherwydd anwybodaeth eu hathrawon. Er mwyn gwneuthur y peth yn berffaith eglur mi newidiaf un o'r llinellau mewn dwy ffordd er mwyn creu "proest llafarog" ynddi:

A bod i le | be dôi lu.
A bod i law | be dôi lew.


Dyna beth yw proest llafarog; ond y peth a sgrifennodd Tudur oedd—

"A bod i law | be dôi lu";

ac nid oes ynddi fai.

Yn y lle nesaf, er na ddywed y rheolau ysgrifenedig mo hynny, y mae'n amlwg wrth esiampl Tudur a'r beirdd awdurol eraill, nad yw proest i'r odl yn cyfrif yn fai ond pan fo'r orffwysfa a'r odl ar yr un acen; mewn geiriau eraill, nid oes y fath beth a phroest i'r odl mewn cynghanedd ddisgynedig. Fel hyn, yn y llinell a ganlyn o waith Tudur Aled,-

"Aeth i'r bedd | a'th rybuddiodd",

y mae bedd yn cyfateb i'r—budd—yn rybuddiodd; gan hynny y mae'r—dd yn yr orffwysfa wedi ei hateb, ac yna ni waeth am dani, a gellwch orffen eich llinell fel y mynnoch. Dyma bump o enghreifftiau eraill o waith Tudur:

"Aros drin | ar estronion."
"Rhost a gwin | rhoist i gannyn."
"Maen neu farr | mwy ni fwrir."
"Mae o'n tir | mwy anturiwr."
"Newydd d'air | yn nydd d'orwyr."


A dyna linell anfarwol Siôn Brwynog:

"Ym mhob pen | y mae piniwn.

Eto gwaherddir y rhai hyn gan feirniaid diweddar am eu bod yn tybio fod y rheol ynghylch "proest i'r awdl" yn eu condemnio. Ond gwelir fod "rheolau Tudur Aled", yn ei waith ef ei hun, yn eu caniatau.

Y mae i'r bardd ryddid hefyd i broestio faint a fynno mewn cynghanedd bengoll yn yr ail linell o englyn. Cymerwch y paladr a ganlyn o waith Tudur:

"Un tad yn abad, wynebwr—grasus
A groeses Sain Saviwr."


Condemnid ef yn awr, a dywedid ei fod yn cynnwys "proest i'r odl". Ond "onid oes ynddo broest?" meddwch. Oes, bid siŵr; ond nid oes ynddo broest i'r odl. Y mae grasus a groeses yn broest perffaith; ond y mae groeses yn ddigon pell oddiwrth yr odl—yr odl ydyw'r—ŵr yn Saviwr, ac nid oes dim yn proestio â'r odl. Petai ryw fai mewn proestio â sillaf sy'n digwydd cyn yr odl, digon hawdd fuasai i Dudur ddywedud grasol yn lle grasus; ond yr oedd yn well ganddo gadw'r s i gael y gynghanedd yn gyflawnach, am nad oedd y proest yn cyffwrdd â'r odl. Dyma enghraifft arall o'i waith:

"Brenhinfryn, benrhyn, bu anrhaith—i'n llys,
Ef a'n llas ar unwaith;


a dyma baladr cyffelyb o waith Gutun Owain:

"Bardd Kernyw ydyw, dywedir;—i glod
Drwy bob gwlad a gerddir.


Dyma i'r beirdd ryddid eto sydd wedi ei warafun iddynt yn rhy hir.

Mewn cynghanedd sain adnabyddir y bai "proest i'r odl" wrth yr enw "dybryd sain". Dyma'r enghreifftiau o'r bai a roddir gan Simwnt Fychan:

"Yn arglwydd | arwydd | iraidd."
"Kadri daradr | drwy derydr."


Gwelir fod arwydd ac iraidd yn proestio yn ol y dosbarthiad a roddir uchod ar y deuseiniaid; ac wrth gwrs y mae daradr yn proestio â derydr. Ond yma drachefn ni chyfrifir "dybryd sain" oni bydd yr ail orffwysfa a'r odl ar yr un acen. Felly nid oes y fath beth a dybryd sain yn y llinell a ganlyn o waith Tudur Aled:

"Dy gyffion | beilchion | bob un."

rhai o'r beirniaid diweddar wedi gwthio gwaharddiad proest i'r odl hyd yn oed i'r gynghanedd lusg, peth na chlywwyd erioed sôn am dano. Y mae gan Dudur ddigon o linellau fel

"Etifedd ar foreddydd";
"Gwreichion a gad ohonun";


a diau na freuddwydiodd am i neb lefaru "proest i'r odl"—bai na all fod, fel y dywed Simwnt Fychan yn eglur, ond mewn cynghanedd groes neu draws.

Ni raid sylwi ar yr hyn a elwir yn "hanner proest"—rhyw ffolineb o ddyfais ddiweddar i rwystro mwy fyth ar y bardd. Dywedwyd digon i ddangos fod y rheol ynghylch proest wedi ei chario i eithafion yn y cyfnod diweddar, a hynny oll oherwydd cam-ddealltwriaeth.

Y mae'n ddigon rhyfedd, hefyd, na welsai'r ysgrifenwyr hyn fod eu hesboniad hwy ar reol "proest i'r odl" yn gwneuthur y rheol ynghylch "ymsathr odlau" yn afraid a di-ystyr. Dyma'r enghreifftiau a ddyry Simwnt o'r bai olaf a enwyd:

"Y gŵr o Gaerllion (Gawr";
"Pob llwyn | a fydd (pebyll yn";


a dyry Caledfryn enghraifft o'i waith ei hun:

"Diau gwel | nad yw ond gwael."[4]

Ond os oedd eglurhâd Caledfryn ar broest yn iawn, y mae proest i'r odl" yn y llinell hon, fel yn y ddwy a rydd Simwnt; ac os oes proest i'r odl ynddynt, i ba beth, mewn difrif, y tybiai Caledfryn fod eisiau rheol "ymsathr odlau" i'w condemnio? Y mae Dafydd Morgannwg yn yr unrhyw benbleth dost; ac nid yw'r enghraifft gyntaf a rydd[5] yn ymsathr odlau o gwbl. Ond wedi i ni ddeall beth yw proest, daw'r cwbl yn eglur. Cymerer enghraifft gyntaf Simwnt Fychan:

"Y gŵr | o Gaerllion (Gawr."

Nid oes broest i'r odl yn y llinell am fod llafariad seml yn gŵr, a deusain yn gawr. Y bai yma ydyw fod y llafariad yn gŵr o'r un sain ag ail elfen y ddeusain sydd yn gawr. Ni raid crybwyll na cheir mo'r bai "ymsathr odlau" yng ngwaith Tudur Aled. Ond y mae'r copïwyr wedi llunio'r bai iddo mewn un llinell:

"Ar gleddau | er i gladdu."

Dyna'r u yn gladdu o'r un sain ag ail elfen y ddeusain yn gleddau. Ond "llunio bai lle na bu" yw hyn. Gall pob dyn ganfod, "ïe â hanner llygad," chwedl yr hen Theophilus Evans, mai'r hyn a sgrifennodd Tudur oedd—

"Ar gleddyf | er i gladdu."

Gwelir oddiwrth yr enghraifft ganlynol o waith Tudur na chyfrifid "ymsathr odlau" yn fai lle diweddai'r orffwysfa a'r odl ar wahanol acen:

"Na newyn chwèrwddyn | na chŵyn."

Ynglŷn a chwestiwn proest gellir ystyried cwestiwn yr w ansillafog. Y mae'n hysbys fod yr hen feirdd yn cyfrif geiriau fel garw, galw, delw, enw a'r cyffelyb yn un-sillafog; a dilynid y traddodiad hwn gan feirdd fel Dewi Wyn ac Eben Fardd, ac eraill ar eu hôl hwythau. Ond dilyn yn ddall yr oeddynt gan mwyaf; ni ddeallent yn iawn mai'r rheswm pam y cyfrifid y fath eiriau yn un sillaf gan yr hen feirdd oedd mai un sillaf oeddynt yn eu hamser hwy. Fel hyn cawn Eben yn ysgrifennu mewn cywydd[6]

"Wrth yr un enw | garw | y gwedd."

Gan mai saith sillaf yw hyd llinell o gywydd, rhaid cyfrif enw a garw yn un sillaf bob un; ac eto y maent yn odli ganddo. Os yw'r ddau air yn odli rhaid cyfrif w yn sillaf, o blegid ni cheir odl heb gyfatebiad sillafau. Chwi welwch gan hynny fod Eben yn cyfrif y geiriau yn un sillaf bob un at y mesur, ac yn ddwy sillaf bob un at y gynghanedd. Pa fodd y gall gair fod yn ddwy sillaf ac yn un ar yr un pryd? Nid rhyw hen ystryw neu hoced fel hyn i gyfrif peth yn un ac yn ddau oedd gan yr hen feirdd. Cyfrifent enw a garw yn un sillaf, am mai un sillaf oeddynt: seinid yr w yn debyg i f ond yn feddalach, ac nid yw'r ddau air unsillafog enw a garw yn odli mwy nag yr odla enf a garf. Gan nad oedd yr w yn sillaf, cydsain oedd hi; ac ni cheid odl ond pan fyddai'r geiriau'n odli hebddi; er enghraifft, i odli â garw yr oedd yn rhaid cael marw neu tarw, ac i odli â delw ni wnai ond gwelw ac elw. Dyma bedwar o eiriau'n cydodli mewn cerdd yn y Llyfr Du, td. 69: syberw, hirerw, derw, chwerw. Felly'r odlir y cyfryw eiriau bob amser gan yr hen feirdd; odla D. ap Gwilym geirw â teirw; bradw â cadw; ac felly bob tro. Felly hefyd, wrth gwrs, yr odla Tudur Aled:

"Ni bu farw | tarw | anturiaeth."

Sylwer, pan ychwaneger sillaf at air fel marw neu delw, nad oes yno wedyn ond dwy sillaf-marwol neu delwau. Un ffordd i ddeall pa fodd у seinid marw yn un sillaf yw ceisio dywedud marwol heb y terfyniad-ol. I ddangos pa mor hollol un-sillafog oedd y cyfryw air i glust Tudur, cymerer y llinell hon o'i waith:

"Pwy a'th eilw | pe a'th wayw onn?"

Os darllennir eilw yn ddwy sillaf, fe ddinistrir y gynghanedd; ond troër yr w yn f, neu gadawer hi allan, ac fe welir y gynghanedd yn amlwg. Sylwer drachefn ar linell fel hon, eto o waith Tudur:

"Dra fu'n weddw | heb drefn iddi."

Os darllennir weddw yn ddwy sillaf, y mae proest i'r odl yn y llinell; ond un sillaf yw'r gair, ac un y cyfrifir ef yn hyd y llinell; a chan mai un ydyw, y mae'r w yn gydsain, ac nid oes broest i'r odl o gwbl yn y llinell. Er mwyn deall y ffordd y darllenasai Tudur hi, seinier y gydsain w ar ddechreu'r heb fel hyn:

"Dra1 fu'n2 wedd3 | wheb4 drefn5 i6ddi7";

ac fe welir ar unwaith nad oes dim tebyg i broest i'r odl ynddi. Gan mai un sillaf yw weddw, croes ddisgynedig yw'r llinell; ac ni ellid proest heb iddi fod yn groes rywiog. Ond mi wn o'r goreu beth a ddywedasai beirniaid yr oes o'r blaen am dani. Cydnabyddasent fod weddw yn un sillaf i gyfrif yn y mesur; a haerasent ar yr un pryd ei bod yn ddwy i broestio ag iddi! Cyn gadael pwnc yr w gydseiniol, nid anfuddiol sylwi ei bod wedi colli'n llwyr erbyn hyn ar ddiwedd gair o fwy nag un sillaf: y mae àrddelw a sýberw wedi mynd yn arddel a syber; ac nid oedd àrddelw a sýberw yn odli nac yn proestio gynt, mwy nag y gwna arddel a syber yn awr.

Nid goddefiad oedd cyfrif yr w yn ansillafog mewn geirau fel yr uchod, ond peth anhepgor. Yr oedd y cynhaniad sillafog diweddar yn dyfod i arfer ar lafar; ond fe'i hystyrrid yn llygriad, islaw urddas cynghanedd. Yr oedd arfer gair fel galw yn ddwy sillaf yn wall. Er enghraifft, y mae dwy linell pennill o gywydd i fod i ddiweddu ar acen wahanol: pe gwnelid y ddwy yn ddiacen, gelwid y bai yn "garnymorddiwes"; pe gwnelid y ddwy yn acennog, gelwid hynny'n "din ab". Un o'r enghreifftiau a ddyry Simwnt o'r bai olaf ydyw—

"Gwrab oedd yn gyrru bw,
Gwreigan gul greg yn galw."


Ni oddefid y cynhaniad deusillafog gal-w; a chan mai unsillafog oedd y gair, gellir ei gymryd fel galf, ac yna fe welir fod y llinell yn diweddu'n acennog. Fe welir hefyd paham y dywed Simwnt fod "yn y pennill hwnn ddau vai eraill, nid amgen Torr mesur" (am mai chwe sillaf sydd yn y llinell olaf yn lle saith), "a Thwyll odl" (am nad odla bw a'r gair unsillafog galw). Er mwyn y neb a fynno gadw'r hen reol, fel y dylid yn ddiau mewn cynghanedd, gellir nodi fod yr w yn llafariad ac yn sillaf yn ac-w a hwn-nw; ond yn gydseiniol ac ansillafog ar ddiwedd pob gair arall.

Sylwyd uchod fod yr w gydseiniol yn debyg i f. Seinid f y pryd hynny nid rhwng y wefus a'r dannedd fel yn awr, ond rhwng y ddwy wefus; ac am hynny'r oedd hi'n debycach i w nag yw'r f bresennol. Dyna paham y gwelir hi'n cyfnewid ag w mewn geiriau fel cawod a cafod a'r cyffelyb. Y mae'n hysbys nad yw w gydseiniol yn cyfrif fel cydsain mewn cynghanedd, er y gellir ei hateb os mynnir: a chan fod f yn yr hen amser mor feddal, ac mor debyg i w, gellid ei phasio hithau yn y gynghanedd pan fynnid. Dyma ychydig enghreifftiau, o lawer a ellid eu dewis, o waith gwahanol feirdd:

"Mae celfyddyd | i'm claddu."—D. ap Gwilym.
"Heb fy llyf|r hoywbwyll Ofydd."—D. ap Gwilym.
"Peintiaw â chalch | pwynt fy chwaer."—Iolo Goch.
"Coler wen | cyfliw a'r aur."—D. ab Edmund.
"Fy nhrig fan | fy nhiriogaeth."—Guto'r Glyn.
"Dyn traws | wyd yn dwyn tros fôr."—Guto'r Glyn.


Ac i ddangos fod Tudur Aled yn caniatau'r rhyddid hwn, dyma dair enghraifft o'i gywyddau ef:

"Dy fodd, dos | a dyddiau daed."
"Bedd i holl fysedd | y llaw."
"I Fatholwch | a'i thalu."


Oni bai fod goddefiad i basio f, fe gynhwysai'r holl linellau hyn y bai a elwir "twyll gynghanedd".

Nid rhywbeth amhenodol i gyfarfod a phob gwall ydyw'r bai "twyll gynghanedd". Er fod y gramadegau dipyn yn wasgarog yn eu henghreifftiau, y mae'n amlwg mai hanfod y bai ydyw bod cydsain yn y gynghanedd heb ei chyfryw i ateb iddi. Pan ddêl dwy gydsain gyffelyb gyda'i gilydd, gallant ateb i un heb dwyll gynghanedd, fel yn llinell Wiliam Llŷn:

"Dy ddethol | di oedd ddoethaf."

Y mae'r goddefiad hwn yn adnabyddus i bawb. Ond pan fo llafariad rhwng y ddwy, ystyrrir bod yn rhaid cael dwy gyffelyb yn y pen arall i gyfateb iddynt. Ond er na ddywed y rheolau ysgrifenedig ddim am y fath oddefiad, y mae dwy gydsain ar wahân yn cyfateb i un mor fynych yn y beirdd awdurol nes peri i ddyn gasglu na chyfrifid hynny'n "dwyll gynghanedd"; er enghraifft yn llinell D. ap Gwilym:

"Y fun bach | fwyna'n y byd."

Fe ddywedir mai Llawdden a ddiwygiodd y gynghanedd yn Eisteddfod fawr Caerfyrddin yn 1451: sonnir am ei "fwyall":

"A naddai'r cynghaneddion
Mal prifardd yn hardd â honn",


medd Iorwerth Fynglwyd.[7] Wel, dyma waith "bwyall Llawdden":

"Maredudd | marw yr ydwyt."
"Llun hydd | dan wayw (llinon hir."


Dyma hefyd waith meistriaid eraill ar y gynghanedd:

"Pererindod | pob rhandir."—Guto'r Glyn.
"Rhodio gwŷdd | rhedeg a gâf."—Gwilym ab Ieu. Hên.
"Ni bu wr a fwriai | un bar a arferud."—D. Nanmor.


A dyma enghreifftiau o waith Tudur:

"Gwenwyn yw ffrwyth | gwin o Ffrainc."
"Fal elain coch | o flaen cŵn."
"Treiglo'r arf | trwy'r goler wen."
"Dy dad a wnaeth | dy dai'n wych."
"Y dref | ar (dor yr afon."


Am Gaernarfon y canwyd y llinell olaf. Gwelais yn rhywle ryw gopïwr wedi ceisio'i chywiro fel hyn:

"Y dref | ar (hyd yr afon";

ond y mae tystiolaeth y llawysgrifau, heblaw priodoldeb a synnwyr cyffredin, yn erbyn y darlleniad hwn. Y mae'n amhosibl dal nad ystyriai Tudur y ffurf gyntaf yn oddefol, a chan hynny'n gywir.

Fe ŵyr pob cynghaneddwr y gellir, er mwyn cael odl, gydio â diwedd gair y gydsain gyntaf o'r gair fo'n dilyn. Gellir gwneuthur yr un modd i gael cynghanedd; ac y mae hynny'n gyfleus weithiau i lunio croes neu draws ddisgynedig. Wrth ddwyn cydsain felly ymlaen fe welir nad oes "dwyll gynghanedd" yn y llinellau hyn o waith Tudur Aled:

"O dda mwy n|i ddymunwn."
"Llew dewr Dd|afydd (Llwyd urddol."


Er fod y beirdd diweddar weithiau yn arfer y dull hwn o gael odl, nid wyf yn cofio am enghraifft ddiweddarach o gynghanedd fel yr uchod na llinell Goronwy:

"Yno'r Glyw N|êr y gloywnef."

I'r gwrthwyneb i hyn, lle bo'r rhan gyntaf i groes neu draws ddisgynedig yn diweddu mewn dwy gydsain, gellir cario'r ail i'r ail ran, fel na bo eisiau cydsain i'w hateb megis yn y llinellau hyn o waith Dafydd ab Gwilym:

"I'm lledd|f wylan (a'm lladdawdd."
"A dwf|n yw tonnau (Dyfi."


Y mae llinellau o'r fath yn bur gyffredin yng ngweithiau'r holl hen feirdd; ac fe â Simwnt o'i ffordd i ddatgan eu bod yn gywir. Dyma ddwy neu dair o enghreifftiau:

"Uwch yw Powl|s no'i chapelau."—Guto'r Glyn.
"O Gaer Wen|t i gwrr Anwig."—L. G. Cothi.
"Ag aeth hwn|t er gwaith anwyr."—Siôn Tudur.
"Er gyrru of|n ar gryfion."—D. Nanmor.


A dyma ychydig o waith Tudur:

"Na yrr d'ofn ar y difeilch."
"A'r dyn crupl er (doe'n cropian."
"Duw drachefn da dyrchafodd."
"Gwent oedd bobl gynt oedd bybyr."


Y mae gwahaniaeth barn ar y cwestiwn a yw hyn yn gyfreithlon pan na bo ond un gydsain ar ddiwedd y gair. Ysgrifennodd Gutun Owain—

"Oes yr u|n is yr awyr."

Condemnir hon gan Simwnt; eithr fe geir gan Dudur Aled rai cyffelyb iddi:

"Uwch uwch fo|ch o chewch fywyd."
"Nid oe|dd o bridd (hyd awyr."


I ochel "twyll gynghanedd" ni raid bod yr un llythyren yn ysgrifenedig yn neupen y llinell, os byd y sain yr un; er enghraifft, y mae'n ddigon hysbys fod d h gyda'i gilydd yn cyfateb i t, am eu bod o'r un sain; felly hefyd b rh i pr a'r cyffelyb. Gan fod hyn yn ddigon adnabyddus, ni ddyfynnaf ond dwy enghraifft o waith Tudur:

"Tudur Llwyd | hyder y llew."
"Be'i profid | yn bab Rhufain."


Yr un modd y mae dwy d gyda'i gilydd yn cyfateb bob amser i t, dwy b i p, a dwy g i c; megis yn y llinellau Tuduraidd hyn:

"Nid diofal | un tafod."
"Mae iawn teg | am enaid dyn."
"Truan i fod | draw'n i fedd." "
Parch yw i bawb berchi i ben."


Nid oes eithriad, hyd y gwelais, i'r rheol hon. Gwir fod Siôn Dafydd Rhys, yn y tabl o gyfatebiaethau a gafodd gan rywun, ac a argreffir ganddo ar dudalen 274 o'i ramadeg, yn goddef g g i ateb g, a'r cyffelyb; ond nid oes ganddo enghraifft o waith un bardd cyfrifol, namyn rhyw ffôl bethau wedi eu llunio i'r pwrpas, megis—

"Teg gennyf | tagu Anni."

Am hynny, gellir bod yn sicr ar dir cynghanedd yn unig mai'r darlleniad cywir o linell Deio ab Ieuan Du i'r ddraig goch ydyw-

"Y ddraig goch | ddyry cychwyn";

a dyna geir, wrth gwrs, yn y llawysgrifau, a'r hen gopïau argraffedig.

O'r ochr arall pan fo dwy gydsain fud wahanol gyda'i gilydd, megis pt neu ct, fe geir mwy o ryddid, canys gellir seinio'r naill neu'r llall yn feddal. Fel hyn, cyfetyb b t i pt yn llinell Lewis Glyn Cothi—

"Y bu tano | gapteiniaid."

Ond mewn llinell arall o'i waith cyfetyb y t yn yr un gair i d:

"Croes naid | ar gapteiniaid | wyd";

canys yma y mae clec y gynghanedd sain yn gofyn dei. . . | dwy. . yn y geiriau gapteiniaid wyd. Yn awr dyma dair enghraifft o waith Tudur Aled, ac ct yn y tair; yn y gyntaf cyfetyb y cyfuniad hwn i c d; yn yr ail i g t; yn y drydedd i g d:

"Ector ieuanc | o Droea."
"Dwg y teir-rhan | doctoraidd."
"A gwayw draw llas | Hector Llwyd."


Yr un modd, ar ol neu o flaen s, ff, th, ch neu ll, gall cydsain fud fod yn galed neu'n feddal; er enghraifft, cawn gan Dudur:

"Draw os cweryl | dros garwr.
"Nes dy eni | nis tynnwyd."
"Nid un hap ffriw | dyn heb ffrwyth."
"Heb swydd mor hapus a hwn."


Yn yr enghreifftiau hyn, yr s neu'r ff sy'n caledu'r gydsain feddal. Ond nid hynny sy'n digwydd bob amser; canys pan ddêl y ddwy gyda'i gilydd yng nghanol gair, fe gyfetyb y gydsain fud weithiau i un feddal, megis yn y rhai hyn, o waith Tudur eto:

"Trwsiadau drud | trosti draw."
"Megis y naill | Macsen wyd."


Pan ddigwyddo "twyll odl" mewn cynghanedd sain, cyfrifir hynny gan rai yn "dwyll gynghanedd", a chyfyngir y term "twyll odl" i wallau yn y brifodl. Ond yr un o ran egwyddor yw twyll odl pa le bynnag y digwyddo: a bydd yn fwy cyfleus i ni ystyried y bai dan yr un pen pa le bynnag y bo'r odl. Yn y lle cyntaf, cyfrifir odli u ac y yn "dwyll odl" gan y gramadegwyr; ond gan mai cyfatebiaeth sain ydyw odl, beth sydd a wnelo orgraff â'r mater? Beth pe gwaherddid i feirdd Seisnig odli ond geiriau o gyffelyb sillafiaeth? Odlant hwy eight a wait a late, heb i neb warafun iddynt; ac y mae rheswm a synnwyr cyffredin o'u tu. Pan oedd sain yr u yn Gymraeg yn wahanol i sain eglur yr y, yr oedd y rheol yn erbyn eu hodli yn dal. Yn y ddeuddegfed ganrif seinid u yn Gymraeg fel yr u Ffrangeg, a seinid y eglur fel y'i seinir yn awr. Gan hynny, os chwilir odlau beirdd y cyfnod hwnnw, ni cheir u byth yn odli ag y. Parhaodd y gwahaniaeth hwn mewn geiriau unsillafog hyd yr unfed ganrif ar bymtheg; ac ni welir y beirdd yn odli dŷn a hûn. Ond mewn sillafau di-acen fe gollwyd y gwahaniaeth mor gynnar a'r bedwaredd ganrif ar ddeg; ac o adeg Dafydd ap Gwilym i lawr, odlir u ac y yn ddiwahaniaeth gan y beirdd pan fo un ohonynt neu'r ddwy mewn sillaf ddi-acen. Pwy na ŵyr am linellau fel hyn o waith Dafydd?—

"Prydydd i Forfudd | wyf i."
"Prydydd i Forfudd | f'eurferch."
"Morfudd | liw goleuddydd | glwys."
"Ni bydd wedi Gruffudd | Gryg."


Yr un modd, yn y brifodl, cawn gan Ddafydd:

"Gwae fi, gwn boeni beunydd,
Weled erioed liw dy rudd."—Arg. 1af., td. 108.

"Gwawd graffaf, gwedy Gruffudd,
Waethwaeth heb ofyddiaeth fydd."—Td. 259.


Bryd arall, ceir ef yn odli Gruffudd â brudd, td. 251, ac â ludd, td. 250, fel y dylid yn ol y rheol. Troër i'r Gor-chestion, ac fe welir fod D. ab Edmwnd yn odli anhy â ddu, td. 114, ac ystyn âg un, td. 115; ac i'r Iolo MSS, ac fe geir Guto'r Glyn yn odli deutu â ty, td. 315, a gwŷr ag Arthur td. 325. Ni raid lliosogi enghreifftiau: dyma ddwy o waith Tudur Aled, y naill yn y gynghanedd sain, a'r llall yn y brifodl:

"Gofalu | heb dy | heb dâl."


"Mae 'nghalon a'm bron yn brudd,
Marw f'enaid, mur Eifionydd."


Gan fod y sain yr un, pa fodd y mae yna dwyll odl? Am y beirniaid diweddar a fu'n gwahardd i ni odli u ac y, ni fedrent eu hunain gadw'r rheol, am na wyddent ym mha le yr oedd u nac y i fod. Dywedasent, yn ddiameu, am linell Gruffudd ab yr Ynad Coch—

"Pob mab yn i grud yssy'n udaw",

fod twyll odl ynddi, am eu bod hwy eu hunain, ar ol Pughe, yn camsillafu crud "cradle" fel cryd "fever"; a diau yr honasent fod twyll odl ym mhennill Tudur Aled—

"Nis gall estron ohonun':
Chwychwi a'i gellwch ych hun",


am ein bod ni oll ers dwy ganrif neu dair yn arfer ysgrifennu ohonynt yn lle ohonunt fel y dylai fod. Trwy fod y sain yr un, fe gam-ysgrifennir lliaws o eiriau y dylai u fod ynddynt; ac eto mynnir i ni odli yn ol y sillaf-iaeth. Gan hynny, gwir ystyr y rheol yn awr ydyw, nid sicrhau cyfatebiaeth seiniau yn ol ein cynhaniad ni, ac nid cael cyfatebiaeth yn y seiniau fel yr oeddynt pan oedd gwahaniaeth rhwng u ac y, ond yn unig cael yr odl i gyfateb i orgraff gyfeiliornus yr oes hon. Dyma eto gloffrwym disylwedd y gall y beirdd, os mynnant, ei ysgwyd ymaith fel hunllef. Cymerer am foment ddwy odl fel (1) Gruffudd a prudd, (2) Gruffudd a bydd. Yn ol y tarddiad a'r sain wreiddiol, y gyntaf sy'n iawn; ond yn ol y sillafiad anghywir a arferir yn awr, sef Gruffydd, y gyntaf, sef yr un gywir, yw'r un a gondemnid. Yr unig beth rhesymol, er pan aeth y seiniau'n un, ydyw arfer y ddwy, fel y gwnai Dafydd ap Gwilym a Thudur Aled.

Y mae'r orgraff ddiweddar yn gyfrifol am rai enghreifft-iau o dwyll odl, heblaw gwahardd odlau cywir. Mewn sillaf ddi-acen ar ddiwedd gair, seinir—yg yn—ig, ac felly yr ysgrifennid ef gynt; fel hyn, tebig, dychymig, meddig, llewig, rhyfig a'r cyffelyb. Y mae ychydig eithriadau fel dyblyg. Odlid y geiriau hyn gynt yn ol eu sain, megis ym mhennill Dafydd ap Gwilym:

"Ond dychmygion dynion dig,
A cham oedd pob dychymig";


neu yn y gynghanedd sain neu lusg yn y llinellau hyn o'i waith:

"Nid annhebig | ddiddig | ddydd."
"Pawb a debig pan ddigiwyf."


Felly yr odlai Dafydd ab Edmwnd:

{{c|"A'i frig yn debig | i dân"; ac felly Dudur Aled:

"Nid oeddud oen mewn dydd dig,
Ond i wiber yn debig."


Heblaw bod yn fwy cyfleus odli fel hyn, y mae'r sain naturiol—ig yn dlysach o lawer na'r sain gymhen-goeg—yg.

Y mae yna un pwnc arall ynglŷn a'r odl; ond nid oes amser yn awr i'w ystyried yn fanwl. Fe dyb y beirdd diweddar y gallant droi—o—, yn sillaf olaf gair, yn—aw—pan fynnont er cyrchu odl; a thrônt esgob yn esgawb ac Eurob yn Ewrawb! Ni ellir gwneuthur hyn ond pan fo'r-o-ddiweddar yn tarddu o hên-aw—. Ni bu—aw—erioed yn esgob ac Ewrob, eithr—o—sy'n wreiddiol ynddynt. Fel hyn, gellir ysgrifennu Trefor yn Trefawr, am mai dyna'r hen ffurf, ac mai Tre fawr yw'r tarddiad; ond ni ellir ysgrifennu Arfon yn Arfawn, canys Arfon oedd y gair erioed, ac o ar a Môn y tardd, nid o ar a mawn. Nid oes modd rhoi rheol a saif yn gyffredinol, canys cyn y gallo dyn ysgri-fennu'r hen ffurfiau yn gywir, rhaid iddo ddysgu'r hen Gymraeg; ac ni ddaw'r wybodaeth honno, mwy na rhyw wybodaeth arall, i neb heb ei hennill. Yr oedd beirdd fel Tudur Aled yn nes at y ffynhonnell na ni; ac wedi ymgydnabyddu'n llwyr a gwaith eu rhagflaenoriaid. Os bydd bardd yn awr mewn petruster, gwell iddo gadw at yr—o—; y mae hynny'n ddiogel. Gellir hefyd, ac yn wir fe ddylid, arfer yr-o-mewn geiriau cyffredin fel anodd, anos, dwylo, cinio, a'r cyffelyb, lle myn rhai, na wyddant fod y cyfnew-idiad yn un rheolaidd, ysgrifennu-aw, i ddangos y gallant hwy "sillebu". Fel hyn y canodd Tudur Aled:

"Anodd rhyngu bodd | y byd."
"Eithr anos yw d'aros | di."

"O Dduw! llyna ddull anodd,
Allu fyth ennill i fodd."


Beiau ynglŷn â'r odl ydyw "trwm ac ysgafn" a "lleddf a thalgron". Llunio odlau fel sôn a llonn ydyw'r cyntaf, ond ni wnâ neb hynny, oddieithr weithiau mewn cynghanedd lusg, fel yn yr enghraifft hon a rydd Simwnt o'r bai:

"I wlad Fôn nid â honno."

Y mae'r bai "lleddf a thalgron" yn fwy cyffredin o lawer. Y ffurf fynychaf arno ydyw odli wy (lleddf) â wý (talgron), fel yn yr enghraifft hon a ddyry Simwnt:

"Rhaid rhifo'r gwŷr yn llwyrach."

Yma eto nid oes modd rhoi rheol seml i benderfynu pa air sydd leddf a pha un sydd dalgrwn. Yr unig ffordd i gyrraedd gwybodaeth o hyn ydyw astudio odlau'r beirdd oedd yn canu pan oedd llai o amheuaeth ynghylch y cynhaniad nag sy'n awr. Yn lle hynny, nid oedd gan feirniaid y ganrif o'r blaen yn fynych ond mympwy neu gamgynhaniad lleol a diweddar i'w harwain. Cawn Feiriadog, er enghraifft, a'i hystyriai ei hun yn gryn awdurdod ar reolau barddas, yn beio ar ryw ymgeisydd truan yn Eisteddfod Bangor, 1890 (Cofnodion, td. 251), am odli synnwyr â llŵyr, ac yn haeru mai talgron oedd yr wy yn synnwyr. Mi dybiwn, wrth y llinellau a ddyfynnir i'w canmol, mai un gwan oedd y cywydd; ond fe gafodd ei awdwr gam yn hyn o beth. Fe all fod amheuaeth am ambell air, ond am y gair synnwyr nid oes un cysgod o amheuaeth. Yn wir un o enghreifftiau Simwnt o leddf a thalgron ydyw pennill o gywydd lle'r odlir synnwyr (lleddf) â Llyr (talgron). Sylwer yn awr ar odlau'r beirdd awdurol:

"A synnwyr | llŵyr | ar bob llaw."—D. ap Gwilym.

"Aeth dy wedd, Gwynedd a'i gŵyr,
A'm hoes innau a'm synnwyr."—D. ap Gwilym.

"Y doeth ni ddywaid a ŵyr:
Nid o sôn y daw synnwyr."—G. ab Ieuan Hên.

"Tydi, Siôn, tad y synnwyr,
Dal dy gof, dy wlad a'i gwyr."—D. ab I. Du.

"Dyn hardd yn cerdded yn hŵyr,
Dros hyn Duw a ro synnwyr."—D. ab Edmund.

"Rhai'n llefain, rhai'n cywain cŵyr,
Rhai sy anodd rhoi synnwyr."—Tudur Aled.

"Syr Siôn gymhesur synnwyr,
Sy flaen llên a sufl[8] yn llwyr."—Tudur Aled.


Ymysg geiriau a gamodlir weithiau gan feirdd diweddar, y mae dedwydd, derwydd, syberwyd i fod yn dalgrynion, a gwenwyn, morwyn, gwanwyn i fod yn lleddf. Ni ddyfynnaf ond un enghraifft o bob un o'r ddau olaf o gywyddau Tudur Aled:

"Y gŵr marw, e gâr morwyn
Ddaear dy fedd er dy fŵyn.

"Oer gennych eira gwanwyn:
Oerach yw 'myd er ych mŵyn."


Fe sylwyd uchod ar y dosbarthiadau o'r deuseiniaid. Gellir crybwyll yma mai fel y dosbarth lleddf a'r dosbarth talgrwn yr adnabyddir y ddau brif ddosbarth; fel hyn—

Lleddf: ae, ai neu ei, oe, wy (oi, ey[9]).
Talgrwn: aw, ew, iw, yw, uw (ow[10]).


Gellir proestio lleddf â lleddf, a thalgron â thalgron; ond fel y sylwyd ni phroestia lleddf â thalgron. Fel enghraifft o'r bai "lleddf a thalgron" mewn englyn proest, dyfynna Simwnt bennill a'i linellau'n diweddu fel hyn:—1, gair; 2, gawr; 3, dewr; 4, llwyr. Gwelir fod yr ail ddiweddiad a'r trydydd yn dalgrynion, a'r cyntaf a'r olaf yn lleddf.

Efallai y dylid dywedyd ychydig eiriau am un arall o'r beiau, sef y bai a elwir "rhy debyg". Dyma un sydd, fel "proest i'r odl", wedi ei gario i eithafion gan rai o'r beirniaid diweddar. Nid oes esgus i neb dros gamddeall hwn, canys y mae Simwnt Fychan yn ei ddisgrifio mor eglur ag y mae modd disgrifio dim. Ni ddigwydd "rhy debyg" ond pan fo'r orffwysfa a'r brifodl ill dwy yn ddiacen; a phan fo'r ddwy sillaf olaf yn y ddau le mor debyg i'w gilydd na bydd ond cydsain neu ddwy yn y diwedd yn llestair iddynt odli'n ddwbl. Dyry dair enghraifft, fel hyn:

"Ieuan | vy nghariad ieuank."
"Llawer | diwrnod llawen."
"Rhydeg vu yr anrhydedd."


Nid ymddengys fod beirdd y bymthegfed ganrif yn ceisio gochel y bai hwn; cawn er enghraifft:

"Yr annedd | wrth yr Annell."—L. G. Cothi.
"Ac athrod | meistr ac athro."—Guto'r Glyn.


Ceir hyd yn oed Dudur Aled yn canu—

"Rhyfedd | oni ddaw rhyfel."

Y tebyg yw, gan hynny, mai Tudur yn niwedd ei oes, yng Nghaerwys yn 1523, a'i gwaharddodd. Rhag i neb gario'r peth yn rhy bell, y mae Simwnt yn mynd o'i ffordd i egluro na all y bai ddigwydd pan fo'r orffwysfa a'r brifodl yn acennog. Pan ddigwyddo'r un llafariad yn y ddau le y pryd hynny, medd ef, fel yn y llinell hon o waith D. ab Edmwnd:

"Y mae a pheth | am i phenn",


"ni ellir moi alw yn rhy-debyg, namyn tebyg, ac nid yw fai". Er gwaethaf y rhybudd clir a phendant hwn, fe fynn Caledfryn a Dafydd Morgannwg fod y peth yn rhy debyg" ac yn fai. Nid oes angen, ef allai, ddangos na cheisiodd yr un o'r prifeirdd erioed osgoi'r fath linellau a hyn; ond dyma dair o waith Tudur Aled:

"Ni ain ond hyn | yn un ty." "Ffynnon Nonn | a phen y nod." "Imp y wraig ym mhob rhyw iaith."

Yn wir y mae D. ap Gwilym fel pe'n hoff o'r cyfryw gyfatebiaeth; llawer sydd ganddo o linellau fel—

"A'i dwyn | nis gellir o dwyll";

ac os sylwir ar ei englynion i Ifor, gwelir ei fod yn dywedud—

"Ofer un wrth Ifor udd"; "Ofer wyth | wrth Ifor wr"; " Ofer naw | wrth Ifor naf "; heb sôn am—

"Ofer bump | wrth Ifor byth",

lle'r oedd sain y yn y gair pymp gynt. Gallasai Dafydd, pes mynnai, roi wr gydag un, ac udd gydag wyth, a bôr (gair hoff ganddo) gyda bump. Ond amlwg yw nas mynnai. Am y syniad a goleddir gan rai, fod un llafariad mewn pâr fel cymell a cymar, neu hyd yn oed mewn sillaf ddi-acen fel yn cymell a camedd, yn ddigon i gynhyrchu'r bai "rhy debyg", fe welir, wrth a ddywedwyd, nad oes iddo un rhithyn o sail.

Tybiaf fy mod yn awr wedi sylwi ar y materion pwysicaf y teflir goleuni arnynt yng nghynghanedd Tudur Aled. Odid na ofyn rhywun paham na soniais ond am feiau. Y rheswm yw mai dan y pen "beiau gwaharddedig" y mae gwybodaeth am fanylion y gynghanedd i'w chael yn yr hen lyfrau. Wedi rhoi disgrifiad cyffredinol o'r gwahanol fathau o gynghanedd, arfer y beirdd i hyfforddi eu disgyblion yn ei chyfrinion oedd nodi beiau i'w gochel, yn ol y dull a gymerwyd i ddysgu iawn ymarweddiad i'r Saeson gan awdwr y llyfr a elwir Don't. Fel hyn, ni cheir yn unman orchymyn i roi'r cydseiniaid cyfatebol yn yr un drefn yn neupen y llinell, ond gwaherddir eu trefnu'n wahanol fel bai a elwir "camosodiad". Ni eglurir yn uniongyrchol pa fodd i drefnu'r cydseiniaid o gylch y llafariaid yn yr orffwysfa a'r brifodl; ond gwaherddir eu cam-drefnu fel bai a elwir "crych a llyfn". Enwa Simwnt Fychan dri ar hugain o feiau gwaharddedig:

"1. Gormodd odlau. 2. Dybryd sain. 3. Proest i'r awdl. 4. Tin ap. 5. Carnymorddiwes. 6. Rhy debyg. 7. Ymsathr odlau. 8. Twyll gynghanedd. 9. Twyll awdl. 10. Twyll gymeriad. 11. Dryc ddychymyg. 12. Dryc synnwyr. 13. Dryc ystyr. 14. Unic a lliosawc. 15. Gwrw a banw. 16. Gwydd ac apsen. 17. Lleddf a thalgron. 18. Trwm ac ysgafn. 19. Crych a llyfn. 20. Cam amser. 21. Cam berson. 22. Cam achos. 23. Camosodiad."[11]

Gwelir mai damweiniol yw'r trefniant. Beiau iaith ac ymadrodd yw llawer ohonynt: yr wyf wedi italeiddio enwau'r rhai sydd a wnelont a chynghanedd ac odl; ac fe welir fy mod yn y sylwadau uchod wedi cyffwrdd â'r rhai hyn oll.

Yr oedd y gynghanedd wedi ei pherffeithio cyn amser Tudur: ni wnaethpwyd ond y nesaf peth i ddim gwelliant arni ar ol 1451. Dysgid y rheolau gan y beirdd i'w dis-gyblion ar dafod leferydd; cyfarwyddiadau oeddynt, wedi eu casglu o brofiad ac ymarferiad cenedlaethau o brydydd-ion. Os gwnaeth Tudur ryw ddosparth arnynt fel y dywed y traddodiad, ni ddug ef ei hun ddim newydd i mewn, oddieithr efallai reol "rhy debyg". Nid yw ei gynghanedd yn gwahaniaethu o ran egwyddor oddiwrth un ei ewythr Dafydd ab Edmwnd a'i gydoeswyr. Nid fel newidiwr a wnaeth reolau newyddion yr apelir ato, ond fel awdurdod a ddeallai'r hen gyfundrefn yn well na neb yn ei oes; ac y mae ei ofal a'i gywirdeb yn ei waith yn rhoi gwerth ar ei dystiolaeth.

O'i ymroddiad i'r gynghanedd y tardd ei nerth a'i wendid fel bardd. Cyfrifid y groes rywiog yn oreu o'r cynghaneddion; ac ar yr egwyddor nad da lle gellir gwell, mynnai yntau groes rywiog lle bynnag y gallai. Am hynny y mae ei gynghanedd yn aml yn undonog; buasai mwy o amrywiaeth yn well. Ond diameu y gellir ei gyfrif y cryfaf o'r holl gynghaneddwyr. Nid nifer y seiniau cyfatebol yn unig a bair nerth ei gynghanedd. Weithiau fe geir ganddo saith o gydseiniaid yn cyfateb mewn llinell o gywydd, fel yn hon:

"Gawr drwy'r graig a'r derw a'r gro."

Neu chwech, fel yn y llinell gyntaf o'r pennill a ganlyn:

"Ni fedr gwraig yn fyw drwy Gred
Cynnal wyneb cyn laned."


Neu bump fel yn y llinell gyntaf o'r pennill hwn i'r aradr:

Drylliwr cŵys i droi lle'r ceirch,
Dant haearn dan y tyweirch."


Ond y mae cynghanedd lawn cyn gryfed yn nwy linell y pennill hwn heb ond pedair cydsain yn ateb:

"Fy neigr aeth o fewn y gro
Ar erchwynnau'r arch honno."


Yn ail linell y pennill a ganlyn nid oes ond tair cydsain gyfatebol, eto ni sgrifennwyd cynghanedd gryfach erioed:

"Amodau, rhwymau oedd rhôm,
Eithr angau a aeth rhyngom."


Cyfyd grym ei gynghanedd mewn rhan o'i hoffder o seiniau amlwg megis crychsain yr r Gymraeg, ac hefyd o'i fedrusrwydd yn cyferbynnu sillafau soniarus fel y thrang a'r thryng yn y llinell olaf a ddyfynnwyd.

Trwy ofalu'n rhy astud am gynghanedd, sef cyfansoddiad y llinell, y mae'n hawdd i fardd golli golwg ar gyfan—soddiad y gerdd fel cyfanwaith. Y mae cywyddau Tudur yn pefrio o linellau disglair, ond nid yw rhediad y meddwl bob amser yn eglur—rhaid i'r darllennydd weithiau ymbalfalu o'r naill belydryn i'r llall. Weithiau y mae cystrawen ei linell unigol yn anystwyth iawn; ar adegau, er mwyn cael cynghanedd gref, fe ddyry i mewn air heb ystyr, fel yr echnos yn yr ail linell a ddyfynnir isod, neu er doe yn y ddegfed linell; bryd arall, air croes i'r ystyr, fel eithr yn yr ail ar bymtheg; fel enghraifft o gystrawen gandryll gellir cymryd y llinell olaf ond un. Er hyn oll fe ganfyddir fod swyn a miwsig yn y gynghanedd. O gywydd Gwenfrewi y dyfynnir:

"O'i rhad a'i gwyrth rhoed i gant
Einioes echnos yn Sychnant,
Iechyd o'i glefyd i glaf,
Ac i hengleirch gwahanglaf. . .
Gwared a gai Gred i gyd
Gan gwynfan gwan ac ynfyd.
Gwyliwch gant, goleuwch gŵyr:
Gwelais yno gael synnwyr.
Y dall a wŷl, aed i'w llan,—
A'r dyn crupl er doe'n cropian.
Aed i offrwm y diffrwyth,
E ddeffry hon iddo ffrwyth;
Doen' yno â dyn annoeth,
Oddiyno daw yn ddyn doeth;
Eithr deufraich a thraed efrydd,
A fo yn rhwym, ef â'n rhydd;
Blin a thrwm heb law na throed,
E ddaw adref ar ddeudroed—
Bwrw dwyffon i'w hafon hi,
Bwrw naid gar i bron wedi;
Byddair—help a ddyry hon;
Mud a rydd ymadroddion."


Gellir dyfynnu un enghraifft arall i ddangos ei hoffder o'r gynghanedd er ei mwyn ei hun. Fe gymer arno fod yn drist iawn; ond y mae rhywbeth chwareus yn ei ddywediadau megis "Oed fy nhad ydwyf neu hŷn", ac yn ei ffugurau, "Mwy no thân mewn eithinen", "Edn a'i draed ydwy'n y drain", yn dangos mwy o fwynhad yn y gynghanedd nag o alar am ei gariad:

"Gofalu heb dy, heb dâl,
Gwanhau'r wyf gan hir ofal;
Gwae fron oer heb gyfran iaith
A friw Gwen fawr i gweniaith.
Gwae fi na bawn dan gefn bedd
Gan henaint ac anhunedd.
Oes o'm hoed iso a'm hedwyn?
Oed fy nhad ydwyf neu hŷn. . .
Oer gennych eira gwanwyn,
Oerach yw 'myd er ych mwyn;
Ni bu er hyn i barhau
Air diweniaith ar d'enau.
Nid oedd goel yn d'addaw, Gwen,
Mwy no thân mewn eithinen . . .
Edn a'i draed ydwy'n y drain,
A'r glud ar gil i adain;
Ni wn, Gwen, yn y gwinwydd,
A fytho 'nhroed fyth yn rhydd. . .
Profed im (pa r' ofid waeth?)
Fwy nog un feneginiaeth.
Ar faen garw 'r wyf yn gorwedd,
Pam na bai well pe mewn bedd?"


Ond cam â Thudur fyddai rhoi argraff nad yw'n ddim ond cynghaneddwr. Y mae ganddo hefyd ddychymyg byw a meddwl cryf. Cymerer, er enghraifft, ei adroddiad o'r hen chwedl am Garadog yn torri pen Gwenfrewi â chleddyf: pan roes Beuno'r pen yn ol oni bu hi'n holliach, gwelai dychymyg y bardd ar ei gwddf—

"Nod yr arf yn edau rudd."

Drachefn, y mae gormodiaith yn ffugur ymadrodd cydna-byddedig a ganiateir i'r beirdd; nid oes, yn wir, fawr o farddoniaeth mewn sôn am "wylo chwart" neu "wylo dau alwyn", ond pan ddywedai Tudur—

"Pe caid troi i enaid draw,
A'i roi eilwaith er wylaw,
Ef a wylid am Felwas
Oni fai'r glyn yn fôr glas",


y mae grym y weledigaeth o orlifiad y glyn, a ymrithiodd i'w ddychymyg ac a ddygir mor fyw ger ein bron, yn cyfiawnhau aruthredd yr ormodiaith.

Nid oherwydd eu cynghanedd, ond yn rhinwedd y meddwl sydd ynddynt, yr aeth y llinellau hyn o'i waith yn ddiarhebol:

"Ysbys y dengys y dyn
O ba radd y bo'i wreiddyn."


Y mae ganddo lawer pennill arall â gwell a dyfnach meddwl ynddo, megis hwn:

"Rhaid i'r un y rho Duw ras
Gydgerdded gydag urddas";


neu hwn, am gwymp y cadarn:

"A'i lun gwrol yn gorwedd,
Ef a wna i'r beilch ofni'r bedd."


Dengys ei adnabyddiaeth o ddynion mewn llinellau fel y rhai hyn:

"Y fynwes a fo anhael
A fwrw rhoi yn fai ar hael";


neu—

"Fe wna gwan o fewn ei garn
Ryw hocedion i'r cadarn."


Y mae'n hysbys fod ei farwnadau yn agor a phennill cryf, i hoelio sylw'r gwrandawr; ond os chwilir y penillion, fe welir nad y gynghanedd, er ei chryfed, yw prif elfen eu nerth. Yn y rhan fwyaf y mae rhywbeth cynhyrfus, beiddgar, mawreddog yn y meddwl: megis—

"Duw oruchaf, edryched
Fal y dug Crist flodau Cred";


neu—

"Mawr yw pwys Duw marw post Iâl,
Methu rhyfig Mathrafal";


neu—

"Duw Gwyn, er digio ennyd
Ai difa'r iaith yw dy fryd?"


Neu hwn, o ddechreu marwnad D. ab Edmwnd:

"Llaw Dduw a fu'n lladd awen,
Lladd enaid holl ddwned hên";


neu hwn:

"Arfau Duw ar Fodëon
A drewis marc drwy ais Môn."


Weithiau prydferthwch a thynerwch y syniad a dynn sylw, megis yn—

"Y gŵr marw, e gâr morwyn
Ddaear dy fedd er dy fwyn."


Yn enghraifft o'r bardd fel gweledydd a phroffwyd gellir cymryd ei "Gywydd Heddwch". Ni roddwyd y ddadl yn erbyn rhyfel, ac o blaid cyflafaredd, yn fwy grymus erioed nag yn y cywydd hwn; ac ni lefarodd proffwyd erioed yn fwy difloesgni nag y gwnai Tudur wrth y mân uchelwyr oedd yn peri cynnwrf a thlodi yn y wlad drwy eu hymrafaelion.

Nid oes ganddo ryw lawer o farddoniaeth natur—llai na chan ei ewythr, a rhai o feirdd eraill y bymthegfed ganrif, Ond o ran gallu disgrifiadol, nid oedd yn ail i un ohonynt, fel y prawf ei gywydd enwog i'r march.

Er mai â'i waith fel crefftwr yr oedd a wnelwn yn y papur hwn, tybiais yn iawn daflu golwg frysiog fel yna ar ansawdd ei waith fel bardd, rhag arwain neb i dybio ar gam nad oedd Tudur yn ddim ond crefftwr. Yn ei oes fe’i cyfrifid y mwyaf o'r beirdd; yr oedd grym a chyflawnder ei gynghanedd, a newydd-deb a beiddgarwch ei feddyliau, yn peri iddynt synio na buasai ac na byddai ail iddo, fel y dengys y llinellau hyn o'i farwnad a gant Gruffudd ab Ieuan ab Llywelyn Fychan (sylwer ar yr adlais sydd ynddynt o gynghanedd Tudur):

"Trist yw'r cwyn tros awdur cerdd,
Trwstangwymp trawst awengerdd,—
Awen ddofn o'r un ddefnydd
A'r gawod fêl ar goed fydd.
Diolchwaith gyfiaith a gâd
Deutu genau datgeiniad,
Fal gwin oll, neu fal y gwnâi
Lais mwnwgl eos Menai.
Am na bu, amau na bydd
Ail Dudur Aled wawdydd."


Yn niwedd ei oes cawn iddo gymryd abid mynach o urdd Sant Ffransis, a neilltuo i briordy Caerfyrddin, lle bu farw ac y'i claddwyd; a dyfynnir yr englyn hwn a ganwyd ganddo, meddir, yn ei ddyddiau olaf:

"Brawd i Sant Ffransis na bo brych—i wyneb
Pan fynner i edrych,
Yn i grefydd yn gryfwych,
Yn i wisg wyf yn was gwŷch."


Dymunaf yma gydnabod fy nylêd i'm cyfaill Mr. J. H. Davies, Cwrt Mawr, am ei garedigrwydd yn rhoi i mi fenthyg am amser maith ei gopïau o ryw ddau cant a deugain o gywyddau ac awdlau Tudur wedi eu codi o wahanol law-ysgrifau. Nid oes ond oddeutu deugain wedi eu hargraffu, yn bennaf âg amryw wallau yn y Gorchestion, ac yn waradwyddus o wallus yng Ngheinion Llenyddiaeth; gan hynny, oni bai am gymwynas fy nghyfaill, buasai fy nefnyddiau'n aml yn brin. Fe wnâ eto gymwynas â Chymru oll pan ddwg allan, a hynny mi hyderaf cyn bo hir, ei argraffiad cyflawn o weithiau Tudur Aled.

Nodiadau

[golygu]
  1. 1 Read before the Honourable Society of Cymmrodorion at 20, Hanover Square, on Friday, 26 February, 1909; Chairman, Ellis J. Griffith, Esq., M.P.
  2. 1 Yr wyf yn arfer y marc | i ddangos yr orffwysfa, neu ddiwedd y rhan gyntaf o'r llinell, a'r marc ( lle bo angen, i ddangos dechreu'r ail gyfres o gydseiniaid cyfatebol.
  3. 1 Gramadeg Caledfryn, ail arg., td. 152.
  4. Gramadeg, td. 153.
  5. Ysgol Farddol, ail arg., td. 77.
  6. 1 Gweithiau, td. 185.
  7. Iolo MSS., td. 319.
  8. Sufl=civil, sef "lleyg", o'i gyferbynnu â llên.
  9. Dwy ddiweddarach na chyfrifir yn ddeuseiniaid gan yr awdurdodau hynaf.
  10. Deusain ddiweddar, oedd yn ddwy sillaf gynt.
  11. Dosparth Edeyrn Dafod Aur, td. xcii-xcvii. Yn y llyfr hwn y ceir yr unig gopi argraffedig cyflawn o ramadeg Simwnt, dan y teitl Pum Llyfr Kerddwriaeth. Argreffir ef o gopi trydydd llaw. Y mae'r copi gwreiddiol, yn llawysgrif Simwnt ei hun, yn llyfrgell Coleg yr Iesu, Rhydychen.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.