Neidio i'r cynnwys

Ty Capel y Cwm (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Ty Capel y Cwm (testun cyfansawdd)

gan Robert David Rowland (Anthropos)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Ty Capel y Cwm
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Robert David Rowland (Anthropos)
ar Wicipedia




Y PARCH. R. D. ROWLANDS (Anthropos).

CYFRES "Y PORTH PRYDFERTH."—IV.



TY CAPEL
Y
CWM:



GAN
ANTHROPOS,

AWDWR "Y PORTH PRYDFERTH," "ORIAU GYDAG ENWOGION,
CAMRAU LLWYDDIANT, &C.




GWRECSAM:
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR.
1905.



I TI!

Fy nidwyll ffrynd, dy ddenol ddawn,
A'th wên yn ysbrydoliaeth gawn,
Cefnogaist lawer ymgais wan,
Gan ddweyd,—"Dos rhagot!" yn y man
Daw hwyl a goleu hyfryd, clir,
Fel bore haf ar fôr a thir;
Ah! llawer awr ddigalon, brudd,
A wnaethost im' yn euraidd ddydd!
A phan yn hwylio'r llyfryn hwn
Fel bâd i nofio ar y llî,
Cyflwynaf ef, ni ddigi, gwn,—

I TI!



RHAGYMADRODD.

Y CHWERY'R haf ar "Foel y Rhedyn,"
Megis yn y dyddiau gynt,
Cluda'r awel ar ei hedyn
Sû y "Ddeuddwr" ar ei hynt;
A phan fyddo'r storm yn rhuo,
Pan deyrnasa'r gaeaf llwm,
Gydag Adgo, hoffwn grwydro
Llwybrau mebyd yn y Cwm!


MAE'N ffaith hysbys fod y "Capel" a'r "Eglwys" wedi cael sylw nid bychan gan ysgrifenwyr Cymreig, a bod desgrifiadau manwl wedi eu rhoddi ohonynt, ac o'r cymeriadau amryfal y sydd, ac a fu yn arfer eu mynychu. Ond prin y gellir dywedyd hynny am y sefydliad â elwir ar lafar gwlad—"Ty'r Capel," yr hwn, fel rheol, sydd yn debyg i dy Justus. gynt,—"yn cyffwrdd a'r synagog." Ynddo ei hun, nid yw'r "Ty Capel," y rhan fynychaf, yn meddu nemawr o addurn na thegwch fel adeilad. Gellid meddwl, ambell waith, mai gweddillion coed â cherrig yr addoldy a gawsant eu casglu yn frysiog at eu gilydd, a'u gosod, gore gellid, ar ffurf ty annedd! Yn yr amser a fu, yr oedd llawer o'r mannau hyn yn ddolur llygad i bob perchen chwaeth, ac yn lleoedd difri i aros ynddynt yn nhrymder gaea,-y tô yn rhwyllog, a'r mwg yn llenwi yr ystafelloedd cyfyng a dwl. Ychydig o'r dosbarth hwn sydd yn aros heddyw, a phrysured yr adeg pan fo y diweddaf o'r murddynod anolygus wedi myned i ffordd yr holl ddaear!

Ond ar gyfer y rhai'n, y mae aml "Dy Capel" yng nghanol gwlad, ag y mae'n hyfryd gennym feddwl am dano. Gellid ysgrifenu y gair "Cysur" uwchben y drws; y mae yr aelwyd yn lân a chynnes, a'r croesaw yn ddiffuant. Dibynna hyn i gryn raddau ar y sawl fyddo yn gofalu am dano. Dawn werthfawr, a lled brin, ydyw y ddawn i "gadw" y "Ty Capel." Ceir rhai yn boenus o dawedog; eraill yn dra siaradus, ac yn tybied mai amcan bywyd ydyw mynegi neu wrando "rhyw newydd." Ceir dosbarth arall sydd yn llanw y swydd gyda lledneisrwydd a doethineb; yn gymdeithasgar a siriol, ac yn gwir ofalu am gysur pob ymwelydd.

Portreadu un o'r rhai'n,—y math ore o "Dy Capel" y gwyddai yr awdwr am dano,—ydyw neges yr ystori seml sydd yn dilyn. Nid ffug ydyw y darlun. Yr oeddym yn adwaen "Marged Parri," ac yn falch o fod dan ei chronglwyd, ac yn swn ei dawn! Gosododd urddas ar ei dyledswyddau, a chadwodd y "Ty Capel " yn y Cwm yn lle cysegredig. Ni roddai achles i chwedleuydd segur, ac ni chaffai cyhuddwr y brodyr" groesi y trothwy. Mynychid y lle gan gymeriadau goreu yr ardal, ac yr oedd ymddiddanion yr aelwyd, yn ddyddan a nawsaidd, ac ysbryd dyn yn mynd yn well yn y gymdeithas.

Ac yn awr, wrth feddwl am danynt, y mae iâs o hiraeth yn ymdaenu dros fy nghalon. Yn iach! frodyr a chwiorydd caredig, mwyn. "Bydd melus fy myfyrdod am danoch." A phan fo y byd yn oer a diserch, caf eich cennad i ddod, ym mraich Adgof, am orig o ymgom ac adloniant i'r hen gynefin,—"TY CAPEL Y CWM."

Yr eiddoch oll,
ANTHROPOS.

Caernarfon,
Rhagfyr, 1905.

Y CYNHWYSIAD.


Y CYMERIADAU.

MARGED PARRI, Ty'r Capel.
DAFYDD, ei bachgen.

ROLANT OWEN,
Blaenoriaid.
JOSEPH JONES,
EDWARD PUW,
SHON WILLIAM, y Crydd.

EOS GWERFYL, Arweinydd y Côr.
PARCH. JACOB DAVIES, Pentre Gwyn.
PARCH. MORGAN REES, Sir Aberteifi.
MR. JAMES MORRIS, Ysgolfeistr.
MR. MEREDYDD, Plas y Wern.
ELSIE MEREDYDD.


TY CAPEL Y CWM.
*

PENNOD I.
RHAGARWEINIAD.

HEN sefydliad, bellach, yn ein gwlad ydyw y Tŷ Capel. Pa bryd, neu pa fodd y daeth i fodolaeth, nid ydyw haneswyr eglwysig wedi penderfynu. Yn wir, hyd yma, ychydig a ddywedir ganddynt ar y pwnc. Y mae gennym hanes capelau ac eglwysi mewn cyflawnder, ond pwy sydd wedi ymgymeryd âg ysgrifennu mewn trefn hanes a datblygiad y Tŷ Capel? Ac eto y mae yn ddiddadl fod yna ddefnyddiau hanes,―hanes dyddorus a gwerthfawr yn gorwedd yn y fangre hon. Onid yno y mae llawer o waith yr "achos" yn cael ei gychwyn? Dyma fan cyfarfod y swydd- ogion a'r aelodau. Ynddo ef y treulia y pregethwr "teithiol" ran helaeth o'i oes. Ac y mae ei gysur personol o nos Sadwrn hyd foreu Llun yn dibynnu, i raddau helaeth, ar awyrgylch y Tŷ Capel. Wrth ddefnyddio y gair "awyrgylch," nid wyf yn meddwl yn unig nac yn bennaf am yr swyr" naturiol; er fod rhy ychydig o honi mewn llawer un o'r mannau yr wyf son am danynt. Ond cyfeirio yr ydwyf at "awyrgylch y lle" ynddo ei hun. Y mae ambell Dy Capel mor ddwl a digysur fel y mae aros ynddo yn ddigon i fagu y pruddglwyf ar hirddydd haf. Ceir un arall sydd yn peri i'r ymwelydd adgofio geiriau Petr,—"Da yw i ni fod yma;' rhyw dangnefedd a hedd sydd yn parotoi ei ysbryd at waith y cysegr.

Meddyliau o'r fath oedd yn fy meddiannu pan yn cyrchu, ar nawn Sadwrn, i Dŷ Capel y Cwm. Er mwyn yr anghyfarwydd, hwyrach y caniateir i mi ddweud gair neu ddau am ddaearyddiaeth yr ardal. Y mae ei llinynau wedi disgyn yn un siroedd Gogledd Cymru,—sir enwog am ei bryniau a'i mân-ddyffrynnoedd. Rhwng y bryniau gwyrddleision hynny, cein cymoedd tawel, neillduedig, ac afonydd gloewon yn dwndwr trwyddynt. Ac un o'r afonydd tlysaf y gwyddom am dani ydyw y " Ddeuddwr;" mae yr olwg arni yn yr haf yn gwirio darlun y bardd,—

"Elfen deneu, ysblennydd,
Lyfndeg, yn rhedeg yn rhydd."

Gyda glan y Ddeuddwr y mae'r ffordd henafol sy'n dirwyn i bentref y Rhyd; ac oddi yno, dros y mynydd i'r dyffryn ag y mae ei enw, fel yr eiddo ambell ddarlithydd, yn fyd-enwog.

Y mae'r capel yn agos i filldir ar y naill ochr i'r pentref. Y rheswm am hynny, yn ol traddodiad credadwy, ydoedd y ffaith fod y gynulleidfa yn dra gwasgarog; a rhag i'r pentrefwyr ymddangos yn rhy hunangeisiol, aed â'r capel tua hanner y ffordd i gyfarfod y bobl oedd yn dod o'r wlad. Capel hen ffasiwn, wrth gwrs; muriau ysgwar, buarth lled helaeth o flaen yr addoldy, ac ar ei dalcen, er yn llai ei faintioli, y mae'r "Tŷ Capel." O ran ei ymddanghosiad allanol, y mae yn hynod lanwedd a thwt; gardd fechan o bobtu'r drws, lle y tyf y rhosmari, rhosynau, "hen ŵr," y Sweet William, a'r pansi.

Gan fod yr hin yn braf, y mae y ddor yn hanner-agored, a chath ddu, fawr, yn pendwmpian ar y rhiniog. Ond gyda bod ein troed ar y buarth, dyna'r gath yn codi yn ei meingefn, yn troi i'r tŷ, ac yn mewian. Pe buasid yn aralleirio ei nodau i'r Gym- raeg, gellid tybied mai eu hystyr oedd hyn,—"Dowch yma, meistres; y mae'r pregethwr yn dwad at y tŷ." Fodd bynnag, yr oedd Marged Parri yn y golwg mewn eiliad, ac yr oedd "croesaw calon" yn argraffedig ar ei gwedd,—

Dowch i mewn rhag ych blaen. Sciet ene gath! mae hon o gwmpas traed rhywun o hyd. Edrach ar y blode yr ydech ch'i? Piti na fasech ch'i yma pan oedd y rhosys' ar y goeden bella ene. Yr oedd 'i hogle nhw yn llenwi'r tŷ! Ydech ch'i wedi blino, deudwch? Mae'r hen ffordd ene yn hir, a welis i neb yn mynd i'r dre' heddyw, neu mi fasech yn siwr o lift. Oes arnoch ch'i isio bwyd garw? Oes, mi wn. Wel, mi gewch 'gypaned' rhag blaen. Nês i ddim tân yn y 'parlwr;' gobeithio na chewch ch'i ddim anwyd ar ol cerdded. Dyma'r slippers; mi af i roi y llestri yn barod." Ac ymaith â hi.

Parlwr y Tŷ Capel! Gan y byddwn yn son cryn dipyn am dano, ac yn debyg o gyfarfod âg amryw o'r "cymeriadau" sydd yn arfer ei fynychu, dichon mai yma y dylid rhoddi disgrifiad byr o hono. Y mae yn perthyn i bob Tŷ Capel, hyd y gwyddom. ryw fath o barlwr. Arall yw gogoniant y naill, ac arall yw gogoniant y llall; ac y mae rhai, dybygid, heb unrhyw ogoniant o gwbl. Ond y mae parlwr Tŷ Capel y Cwm yn perthyn i'r dosbarth goreu. Nid oes dim addurniadau ynddo,—dim gwychder celfyddydol. Dodrefn plaen a chadarn, bwrdd mawr yng nghanol yr ystafell, nifer o gadeiriau derw y gallai y "corff trymaf o dduwinyddiaeth" eistedd ynddynt yn ddiberygl, cwpbwrdd yn y gornel, lle y cedwir dirgelion yr achos yn y lle, ac astell yn cynnwys nifer o lyfrau y cyfundeb. Ar y muriau o amgylch ceir darluniau o enwogion y pulpud yng Nghymru, megis Daniel Rowland, Llangeithio; Pantycelyn; Charles o'r Bala; John Elias o Fôn, &c. A chan ein bod yn adrodd hanes yr hyn sydd, weithian, wedi myned heibio, ni byddai y disgrifiad yn gyflawn heb i ni gyfeirio yn gynnil at nifer o bibelli, yn amrywio mewn lliw ac oedran oeddynt yn gorwedd yn daclus ar y silff uwchben y tân. Erbyn hyn, fel y gwyddis, y mae y pethau yna wedi eu diarddel o'r Tŷ Capel, a gobeithio nad oes yna ddim gwaeth wedi cymeryd eu lle.

Ond dyma Marged Parri wedi mynd drwy y parotoadau; y tecell wedi berwi, a hithau yn gosod y llian gwyn ar y bwrdd. Y mae pawb sydd yn byw yn y Cwm, a llu o bregethwyr ar hyd a lled y byd, yn adnabod Marged Parri, Tŷ Capel. Y mae yno ers blynyddau. Dynes fyrdew, wridog, lanwaith ydyw Marged Parri, ac yn llanw ei swydd gyda'r gofal mwyaf. Y mae hi, bellach, yn weddw ers blynyddau, ac iddi un mab yn fyw,—"Dafydd Tŷ Capel" fel y byddid yn ei alw. Ymfudodd i'r America tua deng mlynedd yn ol, ond nid ydyw yn anghofio ei fam. Y mae ei lythyrau a'i bresantau mynych yn melysu llawer ar ei bywyd, er y dywed fod "hireth am Dafydd" bron a'i llethu ambell ddiwrnod.

"Mae'n dda gen' i," meddai, wrth i ni fwyta ein swper y noswaith honno, "y mae'n dda gen' i ych bod yn credu mewn dwad i'ch taith yn weddol gynnar ar nos Sadwrn. 'Dwy i ddim yn meddwl y dyle'r un pregethwr aros yn hwyr, os na fydd rhyw anghaffael wedi digwydd iddo. Dene fel y bydde yr hen weinidogion yn wastad. Mi wyddwn i i'r funud bron pryd i ddisgwyl John Jones, y Rhiw, a Dafydd William, y Llwyn. Ond am y to ifanc yma, ŵyr neb ar wyneb y ddaear pwy adeg y do nhw. Bythefnos yn ol yr oeddwn i'n disgwyl, ac yn disgwyl, a dim hanes am y pregethwr. Ond wedi i mi fynd i ngwely, dyma guro wrth y drws, a'r hen gath yma yn mewian dros y tŷ, a phwy oedd yno ond y fo.

Mi nes y ngore, fel y medrwn i, er fod y tân wedi mynd allan, a hithe yn tynnu at hanner nos."

"Mae yn debyg fod yna ryw eglurhad ar y mater," meddwn, "a bod yn ddrwg ganddo roddi trafferth i chwi ar y fath adeg."

"O diar oedd. Yr oedd o yn hollol ddiarth yma o'r blaen. Bachgen o sir Gaernarfon ydi o, ddyliwn, ac mi gamgymerodd rwsut wrth y peder croesffordd sydd tu draw i Cwm Llan, a wybu o ddim byd nes oedd o yn ymyl capel y "Sentars ymhen arall y plwy'. Yr oedd o wedi blino yn anwedd erbyn dwad yma, a hwyrach fod gynddo fo dipyn o ofn hefyd."

"Synwn i ddim. Ond yr wyf yn sicr eich bod wedi maddeu y cwbl, fel arfer."

"Maddeu wir! 'Doedd hynny ddim yn annodd. Mi gofies fod gen' i fachgen fy hunan, ymhell oddi cartre', a'i fod yntau wedi cael llawer o garedigrwydd gan estroniaid. O ran hynny, yr oedd o yn ddigon tebyg i Dafydd cyn iddo fynd i ffwrdd. Ac wedi i mi ddallt pethe yn iawn, yr oedd gynno fo gefnder yn byw yn yr un dre' a Dafydd, ac mi ddeudodd y b'ase fo yn 'sgrifennu ato fo, ar ol iddo fo gael rhwbeth oedd yn alw yn exam. oddiar 'i feddwl."

"Mi welaf eich bod wedi mynd yn benna ffrindia, Marged Parri."

Wel, do, welwch ch'i, ac yn enwedig ar ol i mi ei glywed o yn pregethu fore Sul. Yr adnod honno oedd y text,—'A'i asgell y cysgoda efe drosot, a than ei adenydd y byddi diogel.' Yr oedd y bregeth yn fy nharo i yn anghyffredin. Mi ges ryw olwg ar amddiffyn Duw dros y weddw a'r amddifad oedd yn peri i mi glosio i gysgod yr Hollalluog. Ac yr oedd yn dda gen i weld ei fod o wedi plesio pobol y 'sêt fawr' yma hefyd. Y peth cynta' glywes i ar ol dwad i'r tŷ oedd un o'r blaenoriaid yma yn gofyn am 'gyhoeddiad.' Ac wrth iddo fo fynd i ffwrdd, dyma fo yn deud, 'Mi fydda' i yn gwybod y ffordd y tro nesa', ac mi ddof yma yn gynnar, gewch ch'i weld!"

Wn i ddim oedd hi'n siarad ar ddamhegion a'i peidio, ond mi ddaethum i'r pen— derfyniad fod athroniaeth Marged Parri yn cynnwys y ddau osodiad a ganlyn,—

1. Mynd i orffwys yn gynnar ar nos Sadwrn.
2. Codi yn brydlon fore Sul.

PENNOD II.
AR FORE SABOTH.

BORE Saboth yn y wlad! mor wahanol ydyw i Saboth y dref! Dim rhuthro i mewn ac allan; dim swn na chyffro o fath yn y byd. Bid siwr, y mae llawer yn dibynnu ar y tywydd, a chwrs y tymhorau. Pa bryd y mae Anian glysaf oll? Ai yn nechre'r Gwanwyn, pan fo blodau'r drain yn perarogli ar ol cawod o wlaw, a'r egin glâs yn gorchuddio y meusydd? Ai yn Awst, pan fo yr ŷd aeddfed, euraidd, yn ymdonni o flaen awelon, a'r afalau cochion ar goed y berllan? Ai ynte ar ambell ddydd o Auaf, pan fo yr eira,—eira un-nos,—ar y bryniau,—a'r dderwen ar y ddol dan gnwd o eira gwyn, yn disgleirio yn yr haul fel darn o risial byw?

Ond gadawn y cwestiynau hyn i'r arlunwyr a'r beirdd. Diwrnod o haf ydyw heddyw, ac yr ydym yn cael yr hyfrydwch o'i dreulio yn y Cwm. Rhoddodd Marged Parri gnoc ysgafn ar ddrws yr ystafell, a cheisiasom gofio gwers y noson cynt; ond o ran hynny, nid oedd yn gofyn llawer o ymdrech i ateb yr alwad yn "gadarnhaol." Onid oedd yr haul yn tywynnu yn siriol drwy y ffenestr, a'r adar yn cynnal cyngerdd—sacred concert—yn y llwyn gerllaw? Onid ar fore fel hwn y canodd Pantycelyn ei emyn dlos,—

O deffro'n fore, f'enaid gwan,
Ar doriad cynta'r dydd,
A llwyr gysegra ddyddiau d'oes
I'r gwrthrych gore sydd.

Ar ol boreufwyd, a "dyledswydd," yng nghwmni Marged Parri a'r gâth, aethum allan i fwynhau awelon y wlad. Mor dawel ydoedd y frô! Yr oedd pob bryn a gwerglodd yn eu dillad gore.

Porrai y defaid ar y llethrau gwelltog, a gorweddai y gwartheg wrth eu bodd dan gysgod y coed ar fin yr afon. Yr oedd y mwg glasliw yn esgyn o swmerau y pentre,—yn esgyn yn syth i'r ffurfafen, ac yn peri i ddyn feddwl am linellau Ann Griffiths,—

"O am dynnu o'r anialwch,
I fyny fel colofnau mwg!"


Hyfryd oedd cerdded ar hyd y ffordd gysgodol, rhwng gwrychoedd o o flodau gwylltion a gwyddfid, a syllu ar y "Ddeuddwr" islaw, yn llithro yn esmwyth ar ei hynt.

"Os ewch i gyfeiriad Tŷ Gwyn," ebai Marged Parri, "yr ydech chi'n siwr o gwarfod Rolant Owen. Gyno fo y mae'r ffordd bella o bawb, ond os na fydd rhwbeth go od, y fo ydi'r cynta yma bob amser."

Ac felly y bu. Gwelwn yr hen frawd yn dod, ar bwys ei ffon; ac wedi cyfarch gwell, daethom yn ol at y Capel efo'n gilydd. Y mae pob pregethwr sydd wedi bod yn y Cwm yn adwaen Rolant Owen, Bryngoleu. Efe ydyw y diacon hynaf, ac er ei fod yn lled fusgrell ers tro, y mae ei feddwl mor fywiog, a'i ysbryd mor ifanc, a phe buasai yn hogyn deunaw oed. Wrth i ni gydgerdded dywedai,—

"Mi wela fod Marged Parri wedi eich troi dros y drws yn lled gynnar. Chware teg iddi! Peth iach i bregethwr, a phawb arall, o ran hynny, ydi dod allan ar fore tyner fel hwn; mi geiff ryw ysbrydoliaeth i'w feddwl, ond odid. Y mae yn llawer callach, beth bynnag, nac i ddyn fod a'i ben yn ei blu yn y Tŷ Capel."

"Ydech chi ddim yn meddwl felly mod i'n torri'r Saboth wrth fynd allan am dro, Rolant Owen?"

"Dyn anwyl! nac ydw i ddim yn meddwl ffasiwn beth, os bydd ysbryd y Saboth yn y galon. Dyna y pwnc mawr. Onid yr un Un ydyw Awdwr Natur a Gras? Ac onid wrth edrach ar weithredoedd Duw mewn Natur y cafodd y Salmydd gynt rai o'i bethau gore? Arglwydd ein Iôr ni! mor ardderchog yw dy Enw ar yr holl ddaear!' Fydda i'n meddwl mai wrth fynd i'r gwasanaeth ar fore Sul y daeth gair fel ene i bêrganiedydd Israel. Yr ydw inne, ran hynny, er yn gloff fel yma, wedi cael ambell i air ar yr hen ffordd yma, fu yn help i mi addoli Duw yn ei gysegr."

"Ryfeddwn i ddim nac ydech chi wedi cael un bore heddyw, Rolant Owen. Pwy oedd yn gwneyd swn canu draw ene, ys gwn i?"

Canu wir! Paid a chyboli, fachgien. Fedra i ganu lun dim ers talwm. Ond hwrach mod i yn "hymio" yr hen bennill hwnnw,—

"Mi bellach goda' i maes
Ar fore glâs y wawr."

Wedi cyrraedd y tŷ, eisteddodd Rolant Owen yn ei gadair yn y Parlwr. Yn ei gadair a ddywedais, canys y mae cadeiriau'r Ty Capel yn dod yn fath o eiddo personol yn nhreigliad amser. A dyna "gadair" Rolant Owen; 'doedd neb arall yn meddwl eistedd ynddi pan y byddai efe yn bresennol.

"Y mae Marged Parri mewn hwyliau da heddyw," meddai. "Mae'n debyg ei bod hi wedi cael llythyr o'r Mericia, oddiwrth Dafydd. A pheth arall, yr ydech chwithe wedi codi yn brydlon. Ei chas beth hi ydyw gorfod cadw'r llestri brecwast pan fydd y bobol yn dwad i'r capel. Sut mae'r achos gore efo chi acw? Yden nhw yn dwad yn o gryno i'r odfa bore Sul?"

Symol, Rolant Owen. A phe buasem ni yn y dre acw yn dechre am hanner awr wedi naw, fel yr ydech chi yn y Cwm yma, mae arnaf ddigon o ofn na fuasai acw neb."

"Ië, fel ene y mae hi'n ddigon siwr. Yr ydech chi'n aros ar ych traed mor hwyr nos Sadwrn fel mae'n amhosibl i chi gadw'r Saboth fel y dylid. Mi eis i, ryw flwyddyn yn ol, i edrych am 'Pitar,' y bachgen acw, i Manchester; a doedden nhw ddim yn dechre y moddion yn y capel yno tan un-ar-ddeg,—yr adeg pan y byddwn ni yn troi adre! Yr oeddwn i allan o f'elfen yn lân, ac y mae arnai ofn na ches i fawr o 'fendith.' Ond rwy'n meddwl mai y ni sy'n reit; ac mai dyna ystyr blaen y pedwerydd gorchymyn, 'cadw y dydd Saboth,—nid darn o hono fo, ond y dydd i gyd."

Erbyn hyn yr oedd y blaenoriaid ereill wedi dod i fewn,—Edward Puw, y Ffridd, y dechreuwr canu; Joseph Jones y Siop y cyhoeddwr a a thrysorydd yr eglwys. Cwestiwn cyntaf Edward Puw ydoedd,—"A yw yr emynau yn barod gennych?" Bydd ambell bregethwr yn ateb yn nacaol, a gwelir Edward Puw yn mynd allan yn lled swta, a fydd dim llawer o hwyl arno yn y gwasanaeth hwnnw. Gwaith Joseph Jones fydd galw sylw at y "casgliad," a gofyn beth fydd i'w gyhoeddi yn ystod yr wythnos.

Yr oedd papyr wedi dod i'r Tŷ Capel oddiwrth gyfeillion "Salem" yn gofyn iddynt gyhoeddi y Concert oedd i fod yno nos Fercher.

"Nos Fercher!" ebai gŵr y Siop; "dyna noson y Seiat, a dydw i ddim yn cydweled â chyhoeddi cyfarfod mewn capel arall, a'r Seiat gynon ni."

"Well i ni neud, Joseph Jones," meddai Rolant Owen. "Y mae y brodyr yn 'Salem' yn arfer cyhoeddi ein cyfarfod pregethu ni, ac yn dwad yma hefyd. Mi ddylen fod yn anrhydeddus efo'n gilydd, ac yr ydw i yn cynnyg fod y seiat i fod yr wythnos hon ar nos Iau."

Cyn i ni gychwyn i'r Capel daeth Mr. Meredydd, Plas y Wern, i'r tŷ. Efe ydyw y ffermwr mwyaf yn y frô. Y mae yn warcheidwad y plwy, ac yn ŵr o ddylanwad yn y byd amaethyddol. Cafodd ei alw'n "flaenor" flynyddau'n ol, ond gwrthododd dderbyn y swydd, ac eto y mae yn un o brif golofnau'r achos yn y Cwm. Gŵr gweddw ydyw efe, ac iddo un ferch, gwir ddelw ei mham, ac nid oes ei charedicach yn y wlad. Y mae gweddwon ac amddifaid y Cwm yn hanner addoli Elsie Meredydd. Hi sydd yn gofalu am y "mis" hwn yn y Tŷ Capel. Son am "gadw'r mis," ond rhaid gadael hynny hyd y bennod nesaf.

PENNOD III.
ELSIE MEREDYDD.

I'R sawl a wyddant rywbeth am y gyfundrefn deithiol ymysg yr Ymneillduwyr yng Nghymru, y mae'n hysbys fod amryw drefniadau yn bod ar gyfer lletya y gweinidogion a'r pregethwyr.

Un o honynt ydyw,—myned ar gylch i .wahanol aneddau yn y gymdogaeth lle y byddo y capel, neu y "daith." Y mae hyn, yn enwedig mewn ardaloedd gwasgarog, yn golygu llawer o gerdded yn ol a blaen. Er engraifft,—eir i ginio i Ffridd Wen, tua dwy filltir i'r gorllewin; ac wedi mynd i gapel arall at y prynhawn, eir am gwpaned o dê i Bryn Du, dwy filltir i'r dwyrain. Hwyrach y bydd y swper yn disgwyl am danoch yn Tyddyn Llwyd, tua dwy filltir neu fwy i gyfeiriad y pegwn gogleddol! Dyna'r hen system, ac, o drugaredd, y mae'n graddol ddiflannu.

Dull arall oedd yn y Cwm. Gan fod y ffordd ymhell i amryw o'r aelodau, byddai rhyw deulu neu gilydd yn dod â'r "trugareddau" gyda hwy i'r Tŷ Capel, a gelwid hynny yn "gadw'r mis." Ac ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd gyda'r gorchwyl caredig hwn yr oedd Miss Meredydd, Plas y Wern. Yn y ddawn hon, yn ogystal a phethau ereill, yr oedd wedi etifeddu ysbryd a thiriondeb ei mam. A phan ddelai ei thro hi i "gadw'r mis" yn y Cwm, byddai yn gofyn i nifer o hen frodyr a chwiorydd dreulio y Saboth gyda hi yn y Tŷ Capel, fel y gallent fwynhau y wledd a'r "moddion" drwy y dydd. Dyddorol fyddai sylwi arni yn eu "gwadd" ym muarth y capel.

"Dowch efo fi heddyw, Gwen Jones; a chwithe, Harri Dafydd——"

"Na wir, Miss Meredydd, yr ydw i yma o hyd."

"Peidiwch a hel dim esgusawd. Ewch i'r parlwr ar eich union.

Mi fydd y cinio'n barod ar unwaith."

Y mae llawer o son am social Christianity, ac y dylai yr eglwys feithrin yr elfen gymdeithasol, a chofio fod gan bobl gyrff yn gystal ag eneidiau. Ond yr oedd eglwys y Cwm, pan fyddai Miss Meredydd yn "cadw'r mis," yn actio yr efengyl ymarferol hon ers blynyddau. Ar yr adegau hynny byddai Mr. Meredydd, ei thad, yn aros yn y Tŷ Capel amser cinio. Efe fyddai yn "carvio," a chyflawnai y swydd bwysig honno gydag urddas a haelfrydedd. Ac yn sicr ddigon, yr oedd llygaid diolchgar y gwahoddedigion yn dâl cyflawn i unrhyw fôd rhesymol Gofynnid i Harri Dafydd ofyn bendith," ac yr oedd yn foddion gras i'w wrando yn gwneud hynny. Codai ar ei draed yn bwyllog, a chyda llais crynedig, diolchai i "Dad y Trugareddau i gyd" am ddarparu lluniaeth a llawenydd i rai anheilwng, a gofynai yn daer am ei fendith Ef ar y cyfan, ac ar "waith y dydd."

Ar ol "clirio y byrddau," fel y dywedir, byddai y chwiorydd yn ymgynnull i'r gegin, a'r brodyr yn y "parlwr," yn trafod pethau "trymaf y gyfraith." Cychwynai yr ysgwrs gyda phethau amgylchiadol digwyddiadau yr ardal, &c., a byddai Mr. Meredydd yn cymeryd rhan flaenllaw. Ond cyn bo hir dyna Shon William, y crydd, yn gofyn rhyw gwestiwn duwinyddol, ac yna cofiai Mr. Meredydd fod yn rhaid iddo fynd adref ar ryw achos neu gilydd. Nid oedd ganddo lawer o flas ar bynciau duwinyddol." Ond dyna oedd "pethau" Shon William; a'i hoff orchwyl ydoedd "cateceisio " y pregethwr fyddai yn gwasanaethu am y Saboth,—nid er mwyr. gwybod dim yn bersonol, ond er cael sicrwydd fod y "genau cyhoeddus" yn iach yn y ffydd. Ac yr oedd pasio arholiad Shon William yn gryn beth yn y dyddiau hynny. Yr oedd llawer yn galw gydag ef yn y gweithdy, ar gwr y pentref, ac os byddai pregethwr y Saboth wedi pasio y "porth cyfyng,"—wel, yr oedd bron mor bwysig a phasio y "B.D." yn y ganrif hon! Fel y dywedwyd, yr oedd ganddo ei farn ei hun ar bob cwestiwn, ac yr oedd honno yn cydredeg â barn "Dr. Edwards y Bala" ar yr un pethau.

Byddai Dr. Edwards yn dod i bregethu i daith y Cwm unwaith yn y flwyddyn, ac yr oedd yn adwaen Shon William yn dda,—hwyrach yn well nac yr oedd efe yn ei adwaen ei hun. Modd bynnag am hynny, y mwynhad daearol pennaf i'r hen grydd fyddai cael ei wahodd i'r Tŷ Capel i gael cinio a thê gyda Dr. Edwards y Bala.

"Wel, John Williams," ebai'r Doctor, "mae'n dda gen' i eich gweled yn dal mor gadarn gyda'r athrawiaethau mawr yma. Beth am y pregethwyr ifainc? A ydynt hwy yn lled iach yn y ffydd yn awr?"

"Y mae y rhai sydd yn dal arnoch chwi, Dr. Edwards, yn dod ymlaen yn gampus, ac mi fyddaf inne yn taflu ambell i gwestiwn i edrych ydyn' nhw yn dallt y pethe."

"Da iawn, John Williams.

Yr ydych yn llygad eich lle.

Ewch rhagoch, a rhyngoch chwi a finne, hwyrach y deuant i wybod rhywbeth yn y man."

Ychydig fyddai Rolant Owen yn ei ddweud ar bynciau duwinyddol. Pethau syml yr efengyl oedd yn ei gyffwrdd ef Yr oedd yn hoff o gymhariaethau, ac yn gweled y gwirionedd drwyddynt lawer pryd.

"Mi ges i flas neillduol y Sul diwedda"," meddai, "yn gwrando y gŵr o—— yn pregethu ar Ganiad Solomon,—Gwelwyd blode ar y ddaear,'—dene oedd 'i destun,—adnod glws iawn. Ac yr oedd o'n d'eud yn ffeind iawn am werth y blode, a'u dylanwad ar feddwl dyn. Yr oedd o'n son am ryw Gymro yn y 'Mericia. Yr oeddwn i'n meddwl am Dafydd y Tŷ Capel yma wrth 'i glywed o [erbyn hyn yr oedd Marged Parri yn clustfeinio â'i holl egni, ac mi dybiais i weled tòn fechan o wrid yn codi i wyneb Miss Meredydd], ond hwyrach mai rhywun arall oedd o, o ran hynny; ond mi 'sgrifennodd at ryw ffrind iddo yn y wlad yma, ac medde fo,—'Pan fyddi yn anfon y tro nesa', dyro dipyn o lygad y dydd i mewn yn dy lythyr. Weles i yr un ers blynyddoedd, ac y mae gen' i hireth am lygad y dydd.' Ddyliwn i nac yden' ahw ddim yn tyfu yn y 'Mericia; ac wrth i mi fynd adre' o'r capel, yr oeddwn i bron a mynd ar y nghlinie yn ymyl y clawdd i ddiolch i'r Tad nefol am yr hen Gwm yma, ac am 'i lenwi fo efo llygad y dydd."

"Ie, ie," meddai Shon William, "ond rhaid i ch'i gofio hyn,—'does dim duwinyddiaeth mewn pethe fel ene."

"Duwinyddiaeth!" meddai Rolant Owen, gan godi ei lais. "Wyt ti'n meddwl, Shôn, nad oes dim duwinyddiaeth yng ngwaith yr Hwn a ddywedodd, Ystyriwch y lili!' Tyrd am dro i Bryn Goleu acw, Shon bach, gael i ti weld duwinyddiaeth llygad y dydd!'"

Pe y buasai Rolant Owen yn deall y cysylltiadau," yr oedd y pregethwr yn ddyledus am y gymhariaeth i'r hyn a glywsai gan Marged Parri, nos Sadwrn; ond ei fod wedi newid tipyn ar ffurf yr ystori. A phe gwybuasai y "dirgelion oll." yr oedd bocs bychan, a llythyr ynddo, wedi ei anfon i'r 'Mericia, nid o'r Cwm, ond o dref C——

Yn y bocs hwnnw yr oedd rhosynau gwyngoch o ardd fechan y Tŷ Capel, a blodeuglwm o "lygaid y dydd.' Os gofynnid i'r rhai'n, wedi cyrraedd pen y daith, "O b'le y daethoch?" gallent ateb yn ddistaw,—"Cenhadon ydym ni, wedi dod i gadw cwmni i rosynau'r ardd. Buom yn tyfu unwaith yn ardal y Cwm; nid ar lechweddau Bryn Goleu, ond ar y werglodd dlos gerllaw y "Ddeuddwr," y ffordd yr elych i Blas y Wern!"


PENNOD IV.
EOS GWERFYL.

DECHREUWR canu ers blynyddoedd yn y Cwm ydoedd Edward Puw. Meddai ar gymhwysderau amlwg i lanw y swydd. Yr oedd yn gerddor da, yn lleisiwr rhagorol,—llais ystwyth, melodaidd, a digon o gwmpas ynddo i lanw unrhyw addoldy. Pan ddaeth y son am "offeryn cerdd" i'r capelau, dywedai Rolant Owen ar ryw ysgwrs,—"Fydd arno ni ddim eisio yr un o honyn nhw yn y Cwm yma. Mae Edward Puw yn ddigon o. organ ynddo ei hun."

Ond er cystal ydoedd fel arweinydd canu, yr oedd rhywrai yn awgrymu, weithiau, ei fod yn ormod o autocrat, ac mai ychydig oedd y gefnogaeth a roddai i neb arall. Efe oedd Alpha ac Omega y canu, ac yr oedd pawb yn eithaf boddlawn iddo fod felly; ac eto yr oedd y syniad yn dyfnhau nad ydoedd y bobl ieuainc yn cael chware teg, ac y dylesid gwneud mwy yn y cyfeiriad hwnnw. Ond ychydig o flas oedd gan Edward Puw ar y gorchwyl o addysgu ereill, a bu y diffyg hwn, yn ol llaw, yn brofedigaeth iddo ynglŷn â chyflawniad ei swydd.

Yr oedd gŵr dieithr wedi dod i aros i'r gymdogaeth fel goruchwyliwr i gwmni oeddynt wedi cychwyn "gwaith" ym Moel y Rhedyn. Aeth i letya at Joseph Jones, y Siop, ac ymaelododd yn eglwys y Cwm. Ei enw ydoedd John Powell, ond adwaenid ef yn fwyaf cyffredin wrth yr enw "Eos Gwerfyl," oherwydd yr ydoedd yn ddatganydd, ac wedi ennill llawer wobrwyon mewn cylchwyliau llenyddol Yr oedd dyfodiad Eos Gwerfyl i'r Cwm yn ddechreu cyfnod newydd. Daeth yn ffafryn gyda'r bobl ieuainc, ac yr oedd amryw ohonynt yn cael eu gwahodd i barlwr y Siop i weled y medals, ac i glywed yr Eos yn canu.

Ym mhen peth amser, daeth rhywrai yn ddigon hyderus i gynnyg cael cyfarfod canu yn y capel, ar nos Sul, dan arweiniad Eos Gwerfyl. Daeth hyn i glustiau Edward Puw, ac nid oedd y peth yn dda yn ei olwg. Yn wir, yr oedd gradd o eiddigedd wedi ei feddiannu wrth weled estron,—"dieithriad a dyfodiad,"—fel Eos Gwerfyl yn meiddio sangu ar derfynau ei randir ef. Ac i wneud pethau yn waeth yr oedd Joseph Jones, y Siop, yn canmoli yr Eos ym mhob man; ac yr oedd Rolant Owen, gyda'i ysbryd rhyddfrydig, yn tueddu i feddwl mai peth da oedd "torri gwaith" i'r bobl ieuainc, er mwyn iddynt fedru symud ymlaen gyda'r oes.

Ac felly fu. Cyhoeddwyd cyfarfod canu ar ol y seiat, nos Sul. Aeth Edward Puw adref y noson honno heb gymaint a dod i'r Tŷ Capel i ysgwyd llaw â'r pregethwr.

"Mae arna i ofn fod Edward wedi taflu 'i gylche heno," meddai Rolant Owen. "Yn tydi yn biti, na wele dynion mai peth da efo phopeth ydi rhannu y gwaith?"

"Gadewch iddo," ebai Joseph Jones; "y mae o wedi cael digon o fantais i gychwyn cyfarfod canu ei hunan. Yr ydym wedi awgrymu hynny iddo lawer gwaith. A 'rwan, wedi i frawd cymhwys ddod yma, llawn o ysbryd a thalent, dyma fo yn mynd i'w grogen. Ond hwyrach y daw o i weld ei gamgymeriad."

Wedi i'r blaenoriaid ymado, ac i'r cyfarfod canu fynd drosodd, daeth Eos Gwerfyl i'r Ty Capel, a dechreuodd draethu ei feddwl.

Welsoch chwi Edward Puw yn mynd allan? Y mae o yn meddwl, debyg, fy mod i am fyned a'i le! Onid ydyw pobl yn jealous dros ben?

Ond y gwir ydyw, mae y canu yma flynyddoedd ar ol yr oes. Megis yr oedd yn y dechreu,' &c. A pha ryfedd? 'Doedd yma neb yn ceisio dysgu y Sol—ffa, nac yn diwyllio dim ar leisiau y bobl ieuainc. Ac eto, y mae yma ddefnyddiau rhagorol, ond i rywun gymeryd trafferth i'w diwyllio yn briodol. Wel, yr ydym wedi cychwyn, ac yr oedd yma griw da wedi aros yn y cyfarfod. Ac mi ddwedaf beth arall,—cyn y dowch chwi i'r daith y tro nesaf, mi fydd yma offeryn yng nghapel y Cwm. Nos da."

Ar ol iddo fyned ymaith, ac i ni gael swper, ebai Marged Parri,—"Be oedd y dyn ene yn 'i ddeud wrth fynd allan? Son am ryw 'offeryn,' ynte? Ydi o yn meddwl bod yn offeryn i neud rhyw ddioni, ys gwn i?"

"Gobeithio hynny, Marged Parri, ond son am 'offeryn' cerdd yr oedd y brawd, a'r priodoldeb o gael un felly yn y capel."

"Brensiach anwyl! Dyn diarth fel y fo yn meddwl am beth felly! Be ddywed Shon William, tybed? Ac y mae arna i ofn fod Edward Puw wedi dampio' yn barod. Marciwch chi 'y ngeiriau i, mi fydd y dyn ene,—Eos' rhwbeth mae nhw yn ei alw,—yn siwr o godi cynwr' yn yr eglwys yma, a ŵyr neb be fydd diwedd hynny."

Gyda'r daroganiad hwn, ymneillduodd Marged Parri, ac wedi i mi gael y "Parlwr" i mi fy hun, aethum i fyfyrio ar yr hyn oeddwn wedi ei weled a'i glywed. Anodd ydyw cysgu ar nos Sul; o'r hyn lleiaf, dyna fy mhrofiad i. Y mae meddwl dyn fel môr yn dygyfor,—y corff yn flinedig, ond y meddwl yn effro, effro. Ac ar oriau o'r fath y mae "Parlwr" y Ty Capel yn dod yn lle rhyfedd, lawer pryd. Dyna'r bobl wedi mynd ymaith, a'r pregethwr, fel Jacob gynt, wedi ei adael ei hunan Y mae awel y nos yn lleddf-suo yn y coed oddi-allan; ambell swn troed ar y ffordd gerllaw y ty, a thipiadau rheolaidd, cyfundebol, yr hen gloc yn y gegin. Braidd nad ydyw y darluniau ar y mur yn dod yn ddelweddau byw. Dyma nhw yr hen weinidogion anwyl sydd, bellach, wedi noswylio, ac wedi dod yn enwau cysegredig ar lafar gwlad. Bu rhai ohonynt, fel finnau, yn Nhy Capel y Cwm. Caraswn eu holi,—

Sut y byddech chwi, frodyr cu, yn teimlo ar nos Sul? Beth oedd eich myfyrdodau pan wedi eich gadael yn yr hen 'Barlwr' hwn? Fyddech chwi yn cael ambell oedfa fflat? A oedd y pruddglwyf yn ymdaenu dros eich meddwl, ac yn peri i chwi amheu a oeddych wedi eich galw at y gwaith? A fyddai ambell adnod yn dod heibio, fel colomen Noah, a gair o gysur yn ei chylfin? A gawsoch chwi ambell weledigaeth tra yn gwrando swn yr awel yn y coed? neu pan yn syllu ar y fflam yn llosgi yn isel ar yr aelwyd? Ai ynte rhyw feddyliau anelwig oedd yn dod heibio,—fel mintai o sipsiwn,—ac yn diflannu yn ddistaw i froydd hud a lledrith?

"Folding their tents, like the Arabs,
And as silently steal away."

Ond mudandod oedd yn teyrnasu! Aethum i feddwl am eiriau yr Eos, ac am y syniad o gael offeryn cerdd yn y Cwm. Beth a barodd i Marged Parri edrych ar y peth fel trychineb? Paham y mae crefyddwyr, yn fynych, mor amharod i groesawu pob newydd-deb? A phaham y mae offeryn cerdd" wedi bod yn gymaint bwgan i laweroedd? Ai olion Piwritaniaeth lym-feirniadol ydyw y peth? yr ysbryd hwnnw sydd yn ystyried y celfau cain fel pethau esgymunedig? Fodd bynnag, yr oeddwn yn lled—dybied y noson honno y byddai Eos Gwerfyl, fel y dywedai Marged Parri, yn "offeryn" i wneud rhywbeth yn y Cwm. Beth fyddai ffrwyth ei lafur? A gedwir undeb yn nghwlwm tangnefedd? Amser a ddengys.

PENNOD V.
YR ORUCHWYLIAETH NEWYDD.

LLWYDDODD Eos Gwerfyl i roddi ysbryd newydd yn y canu. Daeth y cyfarfod nos Sul yn boblogaidd, er fod rhai o'r hen frodyr yn ysgwyd eu pennau, ac yn dweud nad oedd y bobl ieuainc yn meddwl am ddim ond canu.

Ym mysg pethau ereill caed modulator, ac yr oedd hwnnw yn cael ei gadw ar un o barwydydd "Parlwr" y Tŷ Capel. Bu hynny yn dramgwydd i rai o'r saint fyddent yn arfer dod yno ar y Sul.

"Be' mae rhywbeth fel ene da?" ebai Shôn William, y crydd. Fydde'n well iddyn nhw roi eu hamser i ddarllen Geiriadur Charles, na phendroni efo rhyw "Apocrypha" fel hyn. Be' ddywed Dr. Edwards, ys gwn i, pan wel o ryw "ffigiari " o'r fath yn y Tŷ Capel?"

"O, mi fydd wrth ei fodd gewch ch'i wel'd," meddai Rolant Owen.

"Fase yn dda gen' i daswn i wedi cael mantais i'w ddysgu pan oeddwn yn ifanc. A dydw i'n synu dim fod y plant acw wedi darn wirioni efo fo. Do, re, mi, sydd i'w glywed ganddyn' nhw o'r bore gwyn tan nos. Dene sydd gan y gweision yn y stabal, a ryfeddwn i ddim na na fydd y cyffyle yn medru Sol-ffa cyn y 'Dolig!"

Ymhen peth amser wedi hyn, daeth rhestr testunau cyfarfod llenyddol Salem i'r Cwm. Yr oedd y prif destun cerddorol fel y canlyn,—

"Am y datganiad goreu o'r anthem,—"Teyrnasoedd y ddaear,' gan gôr yn perthyn i un gynulleidfa (heb fod dan 30 o nifer). Gwobr, Pum Gini, a bâton i'r arweinydd."

Gwelodd Eos Gwerfyl ei gyfle, ac ar ddiwedd y cyfarfod canu y nos Sul dilynol, galwodd sylw arbennig at y gystadleuaeth.

"Yr wyf yn credu y dylem ddangos beth allwn ei wneud," meddai.

"Y mae yma leisiau da, ac os gwnewch chwi oll eich goreu yn ystod yr wythnosau nesaf,—wel, raid i ni ddim ofni mentro i'r llwyfan."

Cafodd y syniad ei dderbyn yn frwdfrydig, a threfnwyd i gael cyfarfod canu bob nos Iau, ac addawodd yr Eos roddi benthyg ei harmonium at wasanaeth y côr. Yr wythnos ganlynol dygwyd yr offeryn i Dŷ'r Capel, er mwyn iddi fod yn hwylus i'w chludo i'r addoldy yn ystod y practice. 'Doedd Marged Parri ddim yn foddlawn iawn ar y dechreu, ac yr oedd Shon William yn troi ei gefn ar y "newyddian yn y ffydd" bob tro y deuai efe i'r "Parlwr." Ond yr oedd Miss Elsie Meredydd yn llawen o weled yr adnewyddiad amlwg oedd wedi cymeryd lle ynglŷn â chaniadaeth gysegredig.

"Mae'n hawdd gwybod pryd y mae yn ddydd Iau 'rwan," meddai, "heb edrych ar yr Almanac! Mi fydd y morwynion acw yn codi heb i neb eu galw, ac yn gweithio â'u holl egni drwy'r dydd, er mwyn bod yn barod i fynd i'r cyfarfod canu gyda'r nos."

Un Saboth rhoddodd Miss Meredydd wahoddiad i Edward Puw ac Eos Gwerfyl i aros yn y Tŷ Capel i gael cwpaned o dê. Ceisiai Edward Puw ymesgusodi, ond nis gallai wrthod heb daflu sarhad ar garedigrwydd merch y Plas.

"Mi fydd gennych chwi eich dau lawer i'w ddweud wrth eich gilydd," meddai Miss Meredydd, gyda gwên swynol, "o achos yr ydech chwi mor hoff o ganu. Sut mae'r côr yn dod ymlaen, Mr. Powell?"

Wedi i'r tê fynd drosodd, gofynodd i Eos Gwerfyl ganu tôn i'r cwmni.

"Prun fydd hi?" meddai yntau wrth Edward Puw.

"Chwi ŵyr oreu," ebai Puw, yn lled sychlyd.

"Wel, beth fyddai i ni ganu yr hen 'Danycastell?' Mae'r chwiorydd yma yn hoff o enw John Jones, Talysarn."

Eisteddodd wrth yr offeryn. Ond dyna Shon William yn chwilio am ei het ac yn myned allan. Aeth yr Eos rhagddo heb gymeryd arno ei weled, ac yr oedd ei lais toddedig yn gwefreiddio'r gwrandawyr. Gwelid un hen chwaer yn chwilio am ei chadach poced, a gorfu i Marged Parri eistedd i lawr ar ganol cadw y llestri tê. Yr oedd Rolant Owen wedi cau ei lygaid yn dỳn, ac yn siglo fel coeden o flaen y gwynt. Ac yn sicr ddigon, dyna Edward Puw, heb yn wybod iddo ei hun, yn dechreu canu tenor. Aed dros yr hen dôn anwyl lawer gwaith, ac ereill ar ei hol.

Wedi i'r canu ddistewi, edrychodd Rolant Owen ar y cloc.

"Yn diar mi," meddai, "mae hi bron yn chwech o'r gloch. Weles i 'rioed mo'r amser yn mynd mor gyflym. Yn tydi canu yn beth ardderchog iawn! 'Doedd o ryfedd yn y byd i'r hen fardd ddeud y ddwy linell yma,—

"'Mhen oesoedd rif y tywod mân,
Ni bydd y gân ond dechreu."

Cyn ymwahanu, gofynnodd yr Eos i Edward Puw dalu ymweliad â'r "cyfarfod canu." "Mi fedrwch chwi roddi inni awgrymiadau gwerthfawr, a gwerthfawr, a bydd yn llawen gennym eich gweled."

"Ie, wir," meddai Miss Meredydd, "yr ydych yn llygad eich lle, Mr. Powell. Ac mi rof fy ngair y daw o, hefyd. Mi wnewch addo mynd, oni wnewch chwi, Edward Puw?"


'Doedd neb fedrai ateb Miss Meredydd yn y modd nacaol. "Hwyrach yr âf," meddai, ac ymaith a hwy i'r capel.

Yr oedd Edward Puw yn ei hwyliau gore y nos waith honno, ac yn canu yn ardderchog, fel yn y "dyddiau gynt."

Ond nid oedd neb yn deall y gyfrinach, ond y sawl oedd wedi bod yn llygad-dystion o'r olygfa yn Nhŷ'r Capel. Ond ym mha le yr oedd Shon William? Nid ydoedd yn ei le arferol yng nghongl y sêt fawr. OOOOO Wedi hir ddisgwyl a pharotoi, daeth adeg cyfarfod llenyddol Salem. Yr oedd pedwar neu bump o gorau yn cystadlu, ac un neu ddau ohonynt yn gorau enwog, wedi arfer mynd "i nol y wobr," fel y dywedir. Ond y noswaith honno, enillwyd y wobr, gyda chanmoliaeth uchel y beirniad, gan gôr y Cwm, o dan arweiniad Eos Gwerfyl. Mawr y llawenydd!.

Rhoddodd Mr. Meredydd swper i'r côr buddugol yn y Plas; ac yn ystod y gweithrediadau, cyfeiriodd yr Eos at y dymunoldeb o gael "offeryn" i'r addoldy, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi taro tant oedd yn cyffwrdd calon y gwyddfodolion.

Wedi hynny, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y capel i longyfarch y côr ar eu buddugoliaeth ysblennydd. Y llywydd ydoedd Mr. Meredydd, a gwnaed cyfeiriadau priodol at yr adnewyddiad amlwg oedd ar y canu cynulleidfaol yn y Cwm. Rhoddwyd datganiad o'r anthem,—"Teyrnasoedd y ddaear," a chynygiwyd diolchgarwch i'r arweinydd, yr hyn a basiwyd yn unfrydol. Wrth gydnabod y bleidlais, â'r baton newydd yn ei law, cyfeiriodd yr Eos at yr ymdrech a wnaed gan aelodau y côr; y cynhorthwy gwerthfawr oeddynt wedi ei gael gan Edward Puw, a dywedodd eu bod wedi cytuno i drosglwyddo y wobr,—sef pum gini,—tuag at gael "offeryn" i'r addoldy [cym.]. Cododd Mr. Meredydd i ddweud ei fod yntau yn rhoddi pum punt at yr amcan [cym.], ac y byddent yn ddiolchgar am addewidion gan eraill.

Daeth amryw ymlaen ar y diwedd, a chyn pen ychydig wythnosau, yr oedd harmonium brydferth wedi dod i'r Cwm, ac wedi ei gosod yn daclus gyferbyn â'r "sêt fawr." Ond, fel arfer, yr oedd rhyw nifer wedi cymeryd tramgwydd; ac yn eu plith, Shon William y crydd. Deuai i'r capel, mae'n wir, ond nid i gongl y "sêt fawr." Eisteddai o'r golwg, yn ymyl y drws. Ac ni ddeuai i'r Tŷ Capel am fisoedd wedyn. Ofer oedd i Miss Meredydd ei wahodd. Synai llawer pregethwr nad oedd Shon William yno'n ymholi am ei wybodaeth dduwinyddol. Gwrthodai gymeryd rhan yn gyhoeddus. Ceisiai Rolant Owen ymliw âg ef, ond i ddim pwrpas.

"Ydech ch'i ddim yn teimlo tipyn o hireth am y'n cympeini ni ar b'nawn Sul?" ebai wrtho, pan yn galw yn y gweithdy. "Mae arno ni eisio eich gweled ch'i yn fawr; ac mi fyddwn yn son am danoch efo'n gilyad. A pheth arall, y mae'ch tro ch'i i holi yr Ysgol Sul jest yn ymyl 'rwan. Dowch i ni gael mynd ymlaen efo'r bennod honno yn y 'Fforddwr, i edrych yden ni yr un farn ag oedd ganddo ni'r llynedd. Fydda i ddim yn gweld dim byd yn curo'r 'Fforddwr i holi'r ysgol, ac mi 'rydech ch'i yn reit gartrefol yn o fo o'i ddechre i'w ddiwedd."

"Wna i ddim byd byth," meddai, "tra y bydd yr hen beth ene yn cadw swn drwg. Yr ydyw i'n synnu atoch chi, Rolant Owen, mor chwim-chwam, yn troi efo phob awel. Beth sydd i'w gael i enaid neb mewn rhyw swn gwag? Mae crefydd yr oes wedi mynd yn chware plant, a does neb yn meddwl am yr athrawiaethe mawr."

Ond os oedd yr offeryn" wedi gyrru Shon William allan o dune, yr oedd gan Ragluniaeth offeryn arall i adfer ei ysbryd ̧ ac i ddwyn ei galon i gywair drachefn,—fel "telyn Dafydd ar yr wyl."


PENNOD VI.
GŴR DIARTH O'R DE.

UN o foethau crefyddol y Cwm ydoedd "cyhoeddiad" cyfnodol gweinidogion enwog o siroedd ereill, ac yn enwedig o'r South. Byddent yn dod, fel rheol, ar noson waith; ac os na byddai yn "gynhaua' gwair," neu y tywydd yn rhy "fawr," deuai cynhulliad lluosog ac astud i'r capel i glywed y "gŵr diarth."

Un o'r rhai mwyaf derbyniol gan y frawdoliaeth ydoedd y Parch. Morgan Rees, o sir A——. Yr oedd efe wedi cael oedfa rymus yn adeg y Diwygiad, ac amryw wedi dod i'r seiat o dan ei weinidogaeth. Ymysg edmygwyr mwyaf y pregethwr gwlithog hwn yr oedd Shon William y crydd. Pan yn sioncach ar ei droed, byddai yn ei ddilyn o'r naill gapel i'r llall am ddyddiau.

Daeth y Parch. Morgan Rees at ei gyhoeddiad yn gynnar, wedi cael ei ddanfon gyda cherbyd o'r lle yr ydoedd yn pregethu y noson cynt. Yr oedd Marged Parri yn llawn ffwdan yn disgwyl am dano, ac wedi gwneud tân yn y Parlwr, gan fod yr hin yn dechreu oeri. Gwyddai fod y gŵr da yn agored i un gwendid bychan,—yr oedd yn hoff o "fygyn," ac yr oedd yno bibell wen, hir, yn disgwyl am dano. Digwyddais fod ar ymweliad â'r Cwm y dyddiau hynny, a chefais innau wahoddiad i ddod yno i "gadw cwmpeini i'r pregethwr diarth. Yr oedd Marged Parri yn un o'r saint hynny sydd yn dirgel gredu mai nid diogel ydyw gadael y "pregethwr" ar ei ben ei hun; ac y dylai fod rhywun yn gyfleus i ddal pen rheswm iddo yn wastad. Ac yr oedd y Parch Morgan Rees yn " fôd cymdeithasgar." Yr ydych yn ei gofio, onid ydych? Gŵr cyd-nerth, llydan ei ysgwyddau; gwyneb crwn, gwridgoch, dau lygad gloew, ac yn gwedd-newid gan arabedd a dwysder, bob yn ail. Yr oedd ei olwg allanol yn urddasol a boneddigaidd, ond yr oedd ei ddull siriol a charedig yn peri i'r sant symlaf deimlo yn gwbl gartrefol yn ei gymdeithas. Wedi i Marged Parri ddod â'r tê ar y bwrdd, dechreuodd ei holi yn gynnil am ansawdd yr achos yn y Cwm.

"Sut y mae achos crefydd yn yr ardal yma 'nawr, Mrs. Parri? A oes tipyn o lewyrch ar y moddion?"

"Na wir, Mr. Rees, digon bethma ydi hi efo ni ers tro."

"Felly'n siwr, nid dydd ac nid nôs fel y dywed y proffwyd."

Wel, ie, am wn i. Y mae 'ma rwbeth, —hamorniam,—peth at ganu, wyddoch,—ac y mae rhai o'r brodyr wedi peidio dwad yma o'r achos."

"Tewch son! Offeryn cerdd ydych yn ei olygu," ebai Mr. Rees.

"Ie, siwr; ond hamorniam y mae nhw yn ei alw fo yma."

"O, peidiwch a dychryn dim, wraig fach. Y maent i'w cael yn aml yn y South acw Yr oeddwn innau yn teimlo peth rhagfarn ar y cyntaf; ond 'nawr yr wyf yn eu hoffi yn nobl.

'Does dim amheuaeth nad ynt yn help i'r canu, a rhaid symud ymlaen gyda'r oes. Ond pwy wedsoch ch'i oedd wedi cymeryd tramgwydd gyda'r mater, Mrs. Parri?"

Wel, un ydi y brawd Shon William y crydd. Yr ydech ch'i yn ei gofio, mi wranta, Mr. Rees."

Hawyr fach! ac y mae'r offeryn cerdd wedi ei yrru e' allan o dune. Mae e'n para i ddod i'r capel, mi obeithiaf."

Ydi yn weddol; ond dydi o ddim yn eiste' yn y sêt fawr, a neiff o ddim byd yn gyhoeddus, fel tae. Mi fydde'n arfer a dwad i'r Parlwr 'ma at y pregethwr bob Sul, ond er pan ddaeth yr hamorniam .ene, dydi o ddim wedi croesi y rhiniog. Wn i ddim a ddaw o yma heno, er y mod i yn gwybod ei fod yn ffond iawn o'ch clywed ch'i bob amser."

Ond tra yr ydoedd Marged Parri ar ganol myned dros hanes yr achos, pwy ddaeth at y drws ond—Shon William y crydd! Adwaenai Marged swn ei draed, a gwaeddai o'r parlwr,—

"Dowch i mewn rhag ych blaen. Yr oedden ni yn son am danoch ch'i 'rwan."

"Hym! 'doedd gynoch ch'i ddim llawer o dda i ddeud, os y fi oedd y testun."

Cododd y Parch. Morgan Rees o'r gadair, a chan ysgwyd llaw yn gynnes, dywedodd,—

"Shiwd yr y'ch ch'i, yr hen ffrynd! Mae'n bleser gennyf eich gweled yn edrych mor sionc. A ydych yn dal ati efo'r achos goreu?"

"Na wir, digon dilewyrch ydi fy hanes i," meddai Shon William. "Ond fedrwn i yn fy myw beidio dod yma i'ch gweld ch'i syr, er mwyn yr adeg dedwydd pan oedd pyncie duwinyddol mewn bri yn y wlad."

"Ie, amser hyfryd oedd hwnnw, fel y dywedwch, ac y mae'n felus gennym gofio am dano. Ond dylech gofio hyn,—mae duwinyddiaeth dda yn angenrheidiol o hyd, ac y mae divine fel y chwi o werth mawr gyda chrefydd."

"Na, Mr. Rees, y mae hynny wedi mynd drosodd. 'Offeryn' ydi'r pwnc yn y dyddiau hyn, ac nid 'cyfiawnhad.'

"Ie, y mae cerddoriaeth yn llawforwyn ardderchog i grefydd yr Arglwydd Iesu; ond y mae duwinyddiaeth yn hanfodol i bob cyfnod. Yr oeddwn yn ymddiddan gyda Dr. Edwards, y Bala, pwy ddydd, ac yn dweud wrtho fod gennyf oedfa yn y Cwm. 'Da iawn,' ebai'r Doctor, "'does unman y byddaf yn hoffi pregethu yn well na'r Cwm. Y mae yno bobol sydd yn deall athrawiaethau yr efengyl. A wnewch chwi fy nghofio yn garedig at y frawdoliaeth, ac yn enwedig at yr hen frawd, Shon William. Gobeithio ei fod yn dal i gateceisio y pregethwyr ieuainc. Y mae wedi gwneud llawer o les."

"Diar mi," ebai Shon William, yn gyffrous.—ac yr oedd Doctor Edwards yn gofyn am dana' i wrth fy enw!"

"Peidiwch rhyfeddu dim," ebai Mr. Rees, a gwên ar ei enau, "fydd Doctor Edwards ddim yn anghofio dyn os bydd rhywbeth ynddo. A wnewch chwi ddechreu yr oedfa heno?"

"Na—wir—fedra'i ddim—heno. Yr ydw' i wedi gadel fy spectol gartre'. Mi wneiff y brawd yma yn fy lle."

Aed i'r capel, ac yr oedd yno gynulliad ardderchog. Pregethodd y "gŵr diarth" ar hanes Elias yn yr ogof. "Pa beth a wnei di yma, Elias? Wedi dy ado dy hunan a ddywedaist? Dim o'r fath! Y mae yna saith mil na phlygasant eu gliniau i Baal. Pa beth a wnei di yma? A ddywedaist ti fod dy waith ar ben? Yr wyt yn camsynied eto! Nid pen Carmel ydyw pen draw dy yrfa. Y mae eisieu i ti eneinio brenin a phroffwyd newydd."

Yna aeth rhagddo i ddangos fel y mae pobl dda eto,—y bobl oreu yn fynych,—yn cael eu tynu i'r ogof,—ogof amheuon, ogof rhagfarn, &c. Ond lle tywyll iawn yw yr ogof," ebai y pregethwr, "'does yno ddim goleuni na chysur i neb.

Ac y mae Duw yn gofyn i ambell un heno,—Pa beth a wnei di yma?' Y mae dy eisieu eto i gyflawni gwaith drosto ef."

Ar derfyn y bregeth galwyd seiat, a chaed fod dau neu dri wedi aros o'r newydd,—peth pur amheuthyn yn y Cwm ers cryn amser. Wedi ymddiddan yn dyner â'r dychweledigion, a rhoddi iddynt gynghorion priodol, gofynnodd y y "gŵr diarth" i Shon William ddweud "gair.' Ac er syndod i bawb, cododd ar ei draed, daeth at y sêt fawr, a dywedodd rywbeth yn debyg i hyn,—

"Wel, gyfeillion, y mae yn syn gan lawer o honoch fy ngweled i yn dod ymlaen i'r fan yma. Ond yr oedd y bregeth heno yn dweud fy hanes i'r dim. Yr ydw' inne wedi bod yn yr ogo' ers tro, ac yn ddigon anesmwyth fy meddwl. Ond y mae'r gair ene wedi glynu yn fy enaid.—'Beth a wnei di yma?' Hwyrach fod gan yr Arglwydd rywbeth i minne i'w wneud dros ei Enw cyn mynd o'r byd."

Cafodd geiriau Shon William effaith ryfedd ar y cynulliad. Yr oedd teimlad dwys yn meddiannu pawb, a deigryn yn llithro oddiar lawer grudd. Canwyd yr hen bennill ar y diwedd gyda blas,—

"Trig yn Seion, aros yno, Lle mae'r llwythau'n dod ynghyd."

A bu yr oedfa honno yn cael ei chofio yn hir, oherwydd mai dyna'r noson y daeth Shon William allan o'r ogof!

Yr oedd Rolant Owen fel un wedi cael ysglyfaeth lawer. Dyna oedd ganddo wedi dod o'r capel i'r ty,—" Yr oedd yn werth i chi ddwad yma bob cam, Mr. Rees bach, i gael yr hen ffrynd Shon William allan o'r ogo.

Yr oeddwn i bron a neidio ar y nhraed, pan oedd o yn siarad yn y seiat, a gwaeddi 'Diolch Iddo!' dros y lle,—oeddwn wir. Os gwel yr Arglwydd yn dda, mi gawn amser dedwydd efo'n gilydd eto. Yr yden ni wedi dadleu llawer erioed, ond yn ffrindie calon. Ac fel yr oeddech chi yn deud gyne, y mae Shon William yn ddifèin' campus, ac wedi profi blas pethe yr Efengyl. Mi fum i yn teimlo lawer tro fod sgwrs y Ty Capel yma, ar ddydd Sul yn cael ei chodi i lefel uchel pan fydde Shon William yn siarad ar byncie duwinyddol, ac y mae yn dda gen i feddwl fod Dr. Edwards, y Bala, yn synied yn uchel am ei waith. Wel, y mae plant yr Arglwydd yn colli eu lle yrwan ac yn y man, ond dydi O ddim yn eu gadel yn yr ogo. 'Dygaf fy mhobl drachefn o Basan, ac o ddyfnder y môr.'

"Y mae hi yn bryd i mi droi tua chartre, ac yr ydw' i yn cychwyn heno yn fwy ysgafn fy meddwl nac y gwnes i ers talwm. Diolch yn fawr i chi am ddwad ato ni, Mr. Rees. Y mae yn dda gyno ni y'ch gweled, a’ch clywed yn wastad. Gobeithio y cewch chi bob cysur ar y'ch taith drwy'r wlad yma, a phan ewch yn ol i'r Bala, cofiwch ddeud wrth Doctor Edwards fod y brawd Shon William wedi dwad yn ffrindie efo'r offeryn cerdd, a bod yma lawenydd mawr.

"Nos dawch, Marged Parri. Mi fydd gyno'ch chwithie rwbeth gwerth i'w anfon at Dafydd i'r Mericia y tro nesa. Cofiwch ddeyd hanes yr odfa heno, a gofynwch i Dafydd ydi o wedi llwyddo i dyfu blode ' llygad y dydd' yn y wlad bell."

"Rhoswch funud, mi ddof gyda chwi cyn belled a'r Bont Bren," ebai llais o'r gegin.

A chafodd Rolant Owen gyfleusdra i fyn'd dros hanes yr oedfa wedyn ar ei ffordd adref yng nghwmni diddan Elsie Meredith.

PENNOD VII.
"SEIAT YR YMWELWYR.

UNWAITH bob tair blynedd, byddai Cyfarfod Misol D—— yn trefnu ymweliad cyffredinol â'r eglwysi. Ac ymysg digwyddiadau crefyddol y Cwm, un o'r rhai mwyaf dyddorus ydoedd Seiat yr Ymwelwyr." Ar y nos Sul blaenorol, byddai Joseph Jones, wrth gyhoeddi, yn galw sylw arbennig at y ffaith.

"Yr ydym yn disgwyl yr "ymwelwyr" yma nos Fercher, ac yn gobeithio y bydd i bawb wneud ymdrech i ddyfod i'r Seiat, er mwyn i'r brodyr weled ein bod yn gwerthfawrogi eu dyfodiad atom fel cenhadon y Cyfarfod Misol."

Yr ymwelwyr disgwyliedig y tro hwn ydoedd Mr. Prydderch, Tremydon; Mr. Tudor Lloyd, Bryn Derw, a'r Parch. Jacob Davies, Pentre Gwyn.

Gŵr cymharol ddieithr yn yr ardal oedd Mr. Prydderch. Yr oedd wedi bod yn fasnachydd llwyddiannus yn nhref C—— ac wedi retirio ers blwyddyn neu ddwy, ac yn byw mewn palasdy bychan o'r enw Tremydon. A chan ei fod yn "ddyn o fusnes," ac yn llawn o ysbryd gwaith, byddai yn cael ei benodi ar y rhan fwyaf o bwyllgorau y Cyfarfod Misol.

Ffermwr ydoedd Mr. Tudor Lloyd, pur gefnog ei amgylchiadau, ac yn ŵr amlwg mewn ffair a marchnad. Dichon mai ei ofalon bydol oedd un rheswm ei fod heb gael hamdden i chwilio am gydmar bywyd. "Hen Lanc Bryn Derw" oedd ei enw cyffredin yn yr ardal, ac, fel llawer o'i dras, yr oedd yn lled sensitive ar bwnc ei oedran.

Yr oedd y Parch. Jacob Davies wedi bod yn weinidog yn y Pentre Gwyn ers rhai blynyddau, ac yn cael ei gydnabod yn fugail gofalus a thyner, hynod o boblogaidd gyda'r plant a'r bobl ieuainc. Ac nid rhyfedd, yr oedd nwyfiant a llonder yn llenwi ei ysbryd, ac yn ei wneud yn gwmni dyddan a mwyn. Yr oedd ganddo gryn ffordd o'r Pentre Gwyn i'r Cwm; ond efe oedd y cyntaf i gyrraedd yno y diwrnod hwnnw. Yr oedd wedi cerdded dros Foel y Rhedyn, ac wedi galw yng ngweithdy Shon William, y crydd, am dipyn o ymgom; ac, hwyrach, er mwyn cael gwybod sut yr oedd y "gwynt yn chwythu." Syndod iddo oedd gweled yr hen frawd mewn tymer mor addfwyn, ac wrthi yn brysur yn gorffen pâr o 'sgidiau, er mwyn dod i'r Seiat.

Yna daeth Mr. Davies at y. bont sydd yn croesi y "Ddeuddwr," a rhoddodd ei bwysau ar y canllaw, i fwynhau yr olygfa. Diwrnod O wanwyn ydoedd,—diwrnod tyner, clir, ar ol cyfres o ddyddiau dwl ac ystormus. Yr oedd y coed yn dechreu deilio, y briallu yn gwenu ar ochrau y cloddiau, a'r perthi drain yn adgofio llinell Ceiriog,—

"Y gwanwyn a drodd, a gwynodd y drain."

Daeth rhagddo at y Ty Capel, ac wedi cyfarch gwell i Marged Parri, a chanmol yr "ardd bach," eisteddodd yn y parlwr. Gyda hyn, dyna'r gath yn dechreu ymrwbio yn ei goesau, ac yn gwneud y swn melfedaidd hwnnw sydd yn arwydd ei bod ar delerau da â'r ymwelydd.

"Yn wir, ma'r hen gath yma fel dase hi yn ych nabod chi," meddai Marged Parri. "Pan ddaw ambell bregethwr i'r parlwr yma, mi fydd yn dengyd am i hoedel, a wela i moni am oriau."

"Dyna brawf ei bod yn nabod y natur ddynol," ebai Mr. Davies. "Ond y mae yn rhaid fod ei chof hi yn bur dda hefyd,—hwyrach ei bod yn cadw Dyddiadur!'

"Welsoch chi mo'r ddau ddyn arall ar ych siwrne?" ebai Marged Parri.

"Yr ydw i yn nabod Mr. Lloyd fel yr ydw i yn ych nabod chithe. Sut un ydi Mr. Prydderch deudwch? Mi glywes i fod o yn byw mewn plâs, ac ma gen i ddigon o ofn na fedra i ddim rhoi tendars fel y mae o yn arfer gael."

"Peidiwch a phryderu dim," meddai y gweinidog. "Gwnewch gwpaned o de, fel arfer, a mi ofala i am Mr. Prydderch."

Gyda hyn, dyna Mr. Tudor Lloyd yn prysuro i'r ty, wedi cerdded o farchnad C—— ac yn chwys diferol.

"Sut yr ydech chi, Marged Parri? Holo! Dyma Mr. Davies wedi cyrraedd yma yn barod Pwy newydd sydd o'r Pentre acw, frawd?'

"Wel, y newydd diweddaraf,' fel y bydd y papyre yna yn deud, ydyw fod Mr. Lloyd, Bryn Derw, yn mynd i gael gwraig!"

"Celwydd noeth! Pwy fase mor ffol a chymryd rhyw greadur trafferthus fel yfi?"

"Does neb fedr wneud hynny heb gae gofyn iddi," ebai Marged Parri.

Ond ar ganol y sgwrs, dyna gerbyd Mr. Prydderch yn dod at y buarth. Prysurodd Marged Parri i agor drws yr ystabl; ond yr oedd gwas Plas y Wern wedi cyrraedd yno o'i blaen, efo feed o geirch i'r anifail.

Cyn pen ychydig yr oedd y te yn barod. a'r llestri goreu wedi eu gosod ar y bwrdd, Yr oedd Mr. Davies yn sylwi fod Marged Parri braidd yn nervous, ac er mwyn ei chael i gywair, dywedodd,—

"Mi wela fod yma depot" newydd, Marged Parri, ac un crand iawn, hefyd. Yr ydw i just a meddwl mai i Mr. Prydderch yr ydym yn ddyledus am hyn. Y mae yr ymweliad â'r eglwysi yn gwneud llawer o bethau, yn "anuniongyrchol," fel y dywed yr athronwyr mawr yna; ac ymysg pethau ereill, y mae yn achlysur i gael "tepot" newydd i'r Ty Capel!"

"Mae yma bethe rhyfeddach na thepot newydd," ebai Marged Parri,—"dase ddim ond yr offeryn,—yr hamorniam ene,—sydd yn y capel." Ac yna aeth dros y stori, sut y daeth Shon William o'r ogof, ac yr oedd Mr. Prydderch yn porthi y gwasanaeth gyda blâs.

Yn y cyfamser, daeth y blaenoriaid yno. Aed dros lyfrau yr eglwys, a gofynwyd llawer o gwestiynau am y dull yr oedd y gwaith yn cael ei gario ymlaen.

Daeth amser y Seiat, ac er fod y tywydd wedi newid yn ystod y prynhawn, daeth cynulliad rhagorol ynghyd.

Dechreuwyd gan y Parch. Jacob Davies, ac yr oedd eneiniad amlwg ar y gwasanaeth. Yna cododd Mr. Prydderch, a dywedodd fod yn dda ganddo gael y fraint o dalu ymweliad personol ag eglwys y Cwm. Yr oeddynt wedi bod dros y llyfrau, ac yn cael fod y cyfrifon yn cael eu cadw yn drefnus a chlir. Nid oedd yr holl gasgliadau Cyfundebol yn cael eu gwneud ganddynt, a hyderai y byddai y swyddogion yn ymdrechu rhoddi pob casgliad gerbron y gynulleidfa, a hynny yn ei adeg briodol.

Ar ei ol ef cododd Mr. Tudor Lloyd, a dywedodd mai yr hyn oedd wedi ei ymddiried iddo ef ydoedd y canu, a'r Ysgol Sul. Yr oedd yn dda ganddo ddeall fod yr Ysgol Sul yn y Cwm yn dal ei thir; ond awgrymai y priodoldeb o wneud mwy o ymdrech i gael esgeuluswyr i'r Ysgol, yn enwedig ym mhentref y Rhyd.

Am y canu; yr oedd yn eu llongyfarch ar eu gwaith yn ffurfio côr oedd yn anrhydedd i'r ardal. Yr oedd yn falch o weled a chlywed yr "offeryn" oeddynt wedi ei gael i'r capel. Adwaenai Edward Puw ers blynyddoedd, a gwyddai fod ei galon yn y gwaith.

Dilynwyd ef gan y Parch. Jacob Davies, yr hwn a draethodd yn felus ar y "Pwysigrwydd o gael y bobl ieuainc i weithio gyda chrefydd."

Yna gofynwyd i'r blaenoriaid ddweud gair. Wedi peth cymell, cododd Rolant Owen, a dywedodd fod yn dda ganddo fod yno yn gwrando sylwadau a chynghorion yr ymwelwyr. Credai mai eu hangen mawr ydoedd Adnewyddiad ysbrydol.

Yr oedd y gwahaniaeth rhwng yr eglwys a'r byd wedi mynd yn annodd ei ganfod.

"Un o'r dyddie diwedda," meddai, "fe ddaeth fleet o wylanod y môr i'r cae acw, i ganol y brain. Mi fyddan yn arfer a dwad ar ryw fath o dywydd. Ond doedden nhw ddim yn medru cytuno efo'u gilydd, ac mi gododd y cwbl ar eu hedyn, a dene lle'r oeddynt yn gwau drwy eu gilydd yn yr awyr uwchben. Ond yr oedd y wybren mor gymylog fel na fedrwn ni ddim gwneud allan y gwahaniaeth rhwng y gwylanod a'r brain! Yr oedd y du a'r gwyn, rywsut, wedi mynd yr un lliw. Ond dase y diwrnod yn fwy clir mi fase yn ddigon hawdd gwybod prun oedd y wylan, a phrun oedd y frân. Felly y bydda i yn i gweld hi efo chrefydd. Ar ambell adeg digon anodd ydyw gweld y gwahaniaeth rhwng yr eglwys a'r byd. Ond pe cawsem dipyn mwy o lewyrch oddi fry, mi altre popeth yn union deg.

'Ceir gweld gan bwy mae'r sylwedd,
A phwy sydd heb y gwir.'

Yr oeddwn i'n meddwl am y gair hwnnw,—'Fy etifeddiaeth sydd i mi fel aderyn brith.' Hwyrach y down ni yn wyn yn y man. 'Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd ynddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon.' Am y bobol ifainc yma, yr oedd fy nghalon i yn cynhesu wrth ych clywed yn son am danynt. Mae isio rhoi mwy o waith iddynt, ac os byddant yn mynd ymlaen yn siarpach na ni, rhaid inni gofio mai y nhw, yn ol y Beibl, sydd yn gweled gweledigaethau, a ninnau, yr hen bobl, yn 'breuddwydio breuddwydion. Mi glywsoch, yn ddiau, am dipyn o helynt fu yma efo'r canu, a'r offeryn sy'n awr yn cael ei arfer yn y gwasanaeth. I'r bobol ifainc yr ydym yn ddyledus am dano, ac erbyn hyn y mae popeth wedi dod i'w le. Fu Edward Puw erioed yn canu yn well, ac y mae'r hen frawd, Shon William, fel y gwelwch, yn eistedd, fel arfer, yng nghornel y set fawr."

"Yn toedd yr hen Rolant Owen yn dda!" meddai'r bobl, wrth fyned allan. "Mi geiff o ddweud pethe na fuasent yn gweddu i neb arall, ac mi ddeudodd y gwir bob gair."

Yr oedd llawer o ganmol ar y Seiat honno yn y Cwm, ond yr hyn ydoedd wedi glynu ddyfnaf ym meddyliau y gwrandawyr oedd dameg Rolant Owen,—"Y Gwylanod a'r Brain."

PENNOD VIII.
ADGOFION Y PARCH. JACOB DAVIES.

AETH Mr. Prydderch, Tremydon, a Mr. Lloyd, Bryn Derw, bob un i'w ffordd ei hun yn union ar ol y Seiat y soniwyd am dani yn y bennod o'r blaen. Ond arhosodd y Parch. Jacob Davies am "damaid o swper" yn y Tŷ Capel, a gwahoddwyd finnau i aros gydag ef. Wedi i hynny fyned drosodd, dywedodd Mr. Davies fod yn rhaid iddo gychwyn tuag adref.

"Na," meddai Marged Parri, 'dydi o ddim iws i ch'i feddwl mynd i ffwrdd heno, Mr. Davies.

Mae hi yn rhy dywyll i neb fynd allan o dŷ, heb son am groesi yr hen fynydd ene i Pentre Gwyn. 'Rhoswch yma ych dau. Mi fyddwch yn gwmpeini i'ch gilydd, ac mi gewch fynd i'r gwely pan y mynnoch."

Ac, a dweud y gwir, nid oedd llawer o waith perswadio ar y cyfaill, oherwydd yr oedd ganddo dipyn o "ofn y nos." Wedi i ni gael y parlwr i ni ein hunain, aethom i siarad am y Bala, a'r cyfnod dedwydd oeddym wedi ei dreulio yn y Coleg,—y cyfnod dedwyddaf, mae'n debyg, yn hanes y rhan fwyaf o bregethwyr. Hwyrach nad ydyw yn ymddangos felly ar y pryd; ond wedi iddo fyned heibio, y mae yna ryw after-glow, fel pelydrau haul yn y gorllewin ar hirddydd haf. Nid oeddym wedi bod yn euog, ill dau, o ddod â llawer o wybodaeth glasurol gyda ni o'r Bala, ond yr oedd gennym adgofion na fuasem yn eu gwerthu am unrhyw bris.

"Fel yr oeddwn yn dweud," ebai fy nghyfaill, y noswaith honno, ymhlith llawer o bethau dyddorol ereill, "fe aethum i'r Bala cyn diwedd fy mlwyddyn brawf, ac yr wyf yn cofio fy hun yn dod i'r daith yma ar 'Saboth' yr hen weinidog o Lwyn Celyn. Yr oedd gen' i dipyn o ofn yr hen frawd, oherwydd yr oedd o yn cael y gair o fod yn lled lawdrwm ar yr hogie fyddent yn dechre pregethu. Mi gerddes o'r Bala ar ol tê ddydd Sadwrn; ond mi ddaeth yn nos arnaf,—noson oer ym mis Chwefrol, ac mi drois at fy ewyrth John, i'r Cae Du, ac yno y bum i dan fore Sul. Wel, erbyn hynny, yr oedd y ffordd wedi rhewi yn blymen,' a phan gyrhaeddais yma yr oedd yr hen weinidog wedi dechreu yr oedfa, ac wedi cymeryd ei destun. Yr oeddwn yn teimlo yn reit anifyr ar ol mynd i'r capel, rhag ofn iddo fy nwrdio am fod yn hwyr. Ond ddaru o ddim. Aeth yn ei flaen yn bwyllog, fel arfer; a toc, dyna fo yn deud fod yn rhaid iddo ddibenu, er mwyn rhoddi lle i'w frawd! Meddyliwch am yr hen Lwyn Celyn yn deud peth felly am hogyn ar ei brawf!

"Ond er mor ddigywilydd oeddwn, ni chymeraswn y byd yn grwn am dreio pregethu ar ei ol. Terfynodd yr oedfa, ac fel mae'n rhyfedd deud, mi ges fwy o ddiolch am beidio gwneud dim yn y gwasanaeth hwnnw nac a ges byth wed'yn am bregethu fy ngore glas! Mi fydde yr hen frawd, fel y gwyddoch, yn pregethu yn bur faith,—byth o dan awr, neu awr a chwarter. Dyna fyddai ei arfer ar y tywydd oera, pan fydde y bobl yn gwyneb-lasu o'i flaen. Mi glywais am un carictor go hoff o ddiod yn taeru, ar fore Sul oer, fod yn rhaid fod gan yr hen Lwyn Celyn frandi yn ei esgidie! Yr oedd hynny, os yn wir, yn gompliment yn ei ffordd. 'Doedd neb yn meddwl fod yr hen weinidog llafurus yn defnyddio brandi—ond yn ei esgidie! Ond y bore hwnnw, bu fy nyfodiad diweddar i'r capel yn foddion i fyrhau hyd y gwasanaeth, ac am hynny yr oedd y bobl yn ddiolchgar.

"Aethum gydag ef i gapel y Rhiw at y prynhawn, ac yn ol i'r Cwm at oedfa'r nos. Beth bynnag am fy mhregethau, yr oeddwn wedi cerdded cryn lawer yn ystod y dydd. Daeth yr hen weinidog yma ataf nos Sul, wedi pregethu deirgwaith, ac wedi cerdded milldiroedd, er yn agos i bedwar ugain oed. Aed i orffwys yn gynnar, a chysgais i yn drwm,—cwsg difreuddwyd bore oes! Ond, rywbryd, mi glywais dwrw yn yr ystafell, ac wedi gwneud ymdrech dêg i agor fy llygaid, beth a welwn ond yr hen weinidog yn gwisgo am dano wrth oleu'r ganwyll.

Ydi hi yn amser codi?" meddwn, rhwng cysgu a deffro.

Nag ydi, machgen i, ond yr ydw i wedi addo bod gartref yn lled gynnar heddyw. Bore da i ti, a chofia fynd i dy gyhoeddiad yn brydlon y Saboth nesa'!'

Cysgais drachefn, ac erbyn i mi ddeffro yr oedd yr haul yn tywynu ar y ffenestr. Daethum i lawr y grisiau, ac yr oedd bysedd yr hen gloc yna ar un ar ddeg!

"P'nawn da,' meddai Marged Parri, yn lled goeglyd, "gobeithio ych bod ch'i wedi gorffwyso digon, bellach.'

"Pam na fasech yn galw arnaf, Marged Parri, yn lle gadael i mi gysgu mor hwyr?'

Wel, mi faswn wedi gwneud ers meityn o'm rhan fy hun, ond yr oedd Mr. Williams wedi siarsio arna'i beidio.' 'Mae'r bachgen ene wedi blino yn enbyd,' medde fo, 'gadewch iddo fo gysgu faint a fyno.'

"Beth oedd hi o'r gloch pan oedd o yn mynd i ffwrdd,' meddwn innau.

"Yr oedd hi tua phedwar, bygwn i, ac yn oer ofnadwy. Ond yr oedd yn rhaid iddo fo gael cychwyn, a synnwn i ddim blewyn nad ydi o adre' cyn hyn, wedi cerdded dros ugain milldir o ffordd.'"

"Wyddoch ch'i beth," meddai fy nghyfaill, mae gen' i barch i lwch yr hen Lwyn Celyn! Mor ddiarbed o hono ei hun! ac mor garedig wrth fachgen dinod ar ei brawf!"

"Sut y bu hi arnoch efo y ceffyl hwnnw," meddwn, "thoroughbred y Crown?" Mi glywes rai o'r students yn deud eich bod wedi cael ffugenw y tro hwnnw,—'John Gilpin,' ynte?"

"O, mi glywsoch y stori, ai dô? Mae'n debyg ei bod, fel llawer ystori arall, wedi chwyddo yn nhreigliad amser.

Ond y mae'r original yn debyg i hyn,—

"Yr oedd hi yn ymyl adeg yr Exam., a finne wrthi yn crammio nos a dydd. Y Sadwrn a ddaeth, ac yr oedd arnaf eisieu mynd i daith Bwlch Mawr,—taith bell ac unhygyrch dros y mynyddoedd. Mi ês i chwilio am un o gyffyle Reis,' ond yr oedd pob un wedi ei addo yn flaenorol, a 'doedd dim i'w wneud ond mynd at wr y Crown i geisio bargeinio am anifail. Yr oedd ganddo ef un neu ddau o gyffyle rhagorol, ond nid oedd yn arfer eu llogi i students. Yr oedd y pris yn rhy uchel; ac yr oedd gormod o waed' ynddynt i fod yn ddiogel i'r sawl na wyddent nemawr am farchogaeth. Byddai ambell un yn cwympo oddi—ar gefn un o'gyffyle Reis,' ond byddai y creadur caredig yn aros yn llonydd fel delw nes y codai y marchogwr drachefn! Ond meirch buan-droed oedd yn y Crown, wedi arfer â'r steeple-chase, ac yn cael eu porthi yn y modd goreu.

"Oes, mae gen' i geffyl yn yr ystabl,' ebai y gŵr, ond a wyddoch chwi rywbeth am farchogaeth?'

"Atebais yn gadarnhaol, ac yr oedd hynny yn eitha' gwir. Yr oeddwn wedi bod am gyfnod yn stable-boy yn y Maes Mawr. Ar ol cytuno ar y pris, dywedai y byddai y march yn barod yn ebrwydd, ar un amod,—fy mod i ddychwelyd adre' nos Sul.

"Yr oedd y 'bechgyn' oedd gartref wedi synnu braidd glywed fy mod yn cael ceffyl y Crown; a daeth rhai o honynt i weled 'Jacob' yn cychwyn i'w daith, ac yr oeddynt yn 'ffarwelio' â mi yn ddefosiynol iawn, rhag ofn na ddeuwn byth yn ol!

Mi eis drwy y dref yn eithaf respectable, gan ddal y ffrwyn yn dyn yn fy llaw. Croeswyd y mynydd, a chyrhaeddais fy llety yn ddiogel.

"Nid yr un o gyffyle Reis ydyw hwn,' meddai y ffermwr, a rhoddodd ef yn yr ystabl oreu.

Cyn cychwyn i'r capel at oedfa'r hwyr, dywedais fod yn rhaid i mi fynd adref y noswaith honno, a daeth y gwas â'r ceffyl at ddrws yr addoldy ar derfyn y gwasanaeth.

"Noson o haf ydoedd, ac awel hyfryd yn chwythu dros y meusydd. Cyn hir, yr oeddwn wedi gadael y tai, ac yn dod i ffordd gul oedd yn arwain i'r mynydd unig a maith. Tra yr oeddwn yn myned yn lled ddiofal ar hyd y ffordd hon, gwelwn ddyn o fy mlaen, yn cerdded i gyfeiriad y llidiart ar gŵr y mynydd. Nid oedd gwisg Sabothol am dano, a thybiais ar yr olwg arno mai crwydryn ydoedd. Yr oedd llawer o'r dosbarth hwnnw yn cerdded y wlad ar y pryd, ac wedi ymosod ar bersonau mewn mannau anghysbell. Yr oeddwn yn agoshau ato, a throes yntau i edrych ar ei ol. Nid oeddwn yn hoffi ei wyneb. Yr oedd golwg mileinig arno,—gwyneb criminal yng ngwir ystyr y gair. Meddyliwn ynnof fy hun, y byddai y tramp wrth y llidiart yr un adeg a minnau. Ac yn ol trefn pethau, gorfodid fi i ddisgyn, ac yna, buasai yn ymosod arnaf, yn lladrata y ceffyl, ac yn dianc i ffwrdd! Beth oedd i'w wneud? Tybed y medrwn gael gan y ceffyl neidio y llidiart? Cyffyrddais âg ef â blaen y chwip, ac i ffwrdd â ni! Yr oedd y dyn erbyn hyn yn ymyl y llidiart, ac yn disgwyl am danaf. Ond pan welodd y ceffyl yn dod ar garlam gwyllt, neidiodd o'r neilldu, a neidiodd y ceffyl yn glir dros y llidiart, i'r mynydd, ac ymaith âg ef fel pe buasem yn hela llwynog! Yr oeddwn yn y Bala ar fyrder, a'r ceffyl, druan, yn foddfa o chwys."

"Adroddais yr hanes wrth wr y Crown Edrychodd yn gyffrous. 'Be dasech ch'i wedi methu neidio y llidiart, ac wedi lladd y ceffyl?'

"Y dydd canlynol, yr oedd gŵr y Crown yn ail-adrodd hanes fy anturiaeth efo'r 'crwydryn,' ac yn sicrhau y buaswn yn ennill enwogrwydd drwy y wlad pe cawswn chance i ddilyn cwn hela Syr Watcyn! Gorfu i minnau fynd dros y stori fwy nag unwaith yn y cylch cyfrin gyda'r nos, a braidd nad oeddwn yn mynd i ddechreu meddwl rhywbeth o honof fy hun. Ond peth ansicr iawn ydyw pob enwogrwydd daearol. Y Saboth dilynol, yr oedd y brawd Evan Gruffudd, cyd-efrydydd, i fod yn nhaith y Bwlch Mawr. Yr oedd Evan a minnau yn dipyn o rivals yn y dosbarth duwinyddol, ac yn sefyll yn lled agos i'n gilydd yn arholiadau y Coleg. Pan ddaeth efe yn ol, ddydd Llun, galwodd yn fy llety, a hanner dwsin o'r bechgyn mwyaf direidus yn ei gwmni. Meddyliwn ar eu gwynebau fod rhywbeth yn bod. Ebai Evan Gruffudd, yn bur ddifrifol,—

"Mae y frawdoliaeth yn y Bwlch Mawr yn anfon eu cofion goreu at yr hybarch' Jacob Davies, ac yn llawenychu yn ei orchestion fel marchogwr. Ond wedi deall yr holl amgylchiadau, nid ydynt yn barnu fod unrhyw achos yn galw am iddo beryglu ei einioes ei hun na'r anifail oedd ganddo.'

"Sut hynny?' meddwr yn gràslyd a'r bechgyn yn mwynhau yr olygfa.

"Wel,' ebai Evan Gruffudd, 'y maent yn gwybod pwy oedd y tramp a barodd y fath ddychryn i'r pregethwr. Peidiwch a digio am i mi ddweud y gwir, ond 'doedd y dyn a welsoch chwi yn neb amgen na gwas Ty Hen yn mynd i edrych y defaid yn y mynydd. Fel y dywedais eisioes, y mae cyfeillion y Bwlch Mawr yn edmygu y Parch. Jacob Davies fel marchogwr, ond yn gobeithio y bydd iddo, yn y dyfodol ddangos mwy o graffder, a pheidio cam-gymeryd gwas fferm diniwed am grwydryn penffordd!'

"Yr oedd chwerthiniad y bechgyn yn lled annodd ei oddef, ac yr wyf yn ofni i'r peth fy nghyrru allan o hwyl ar gyfer yr Exam. Sefais yn is nag arfer, tra yr oedd Evan Gruffudd ar dop y rhestr. Daeth y peth i glustiau yr hen Ddoctor,' oherwydd yn ei anerchiad ar ddechreu y tymor dilynol, dywedai ei fod yn gobeithio mai amcan pawb o honom yn dod i'r Bala oedd rhagori fel efrydwyr, ac nid fel gwŷr meirch!"

Erbyn hyn, yr oedd y tân wedi llosgi allan, ac aderyn gerllaw y tŷ yn dechreu canu.

"Wyddoch ch'i be?" meddai Jacob Davies, "mae hi bron a dechreu dyddio. Well i ni fynd i orffwys am dipyn bach neu mi fydd Marged Parri yn galw at frecwest."

PENNOD IX.
"DAFYDD TY'R CAPEL."

YR ydym wedi crybwyll droion, yn y penodau blaenorol, am lythyrau "Dafydd" at ei fam, a'i anrhegion iddi o'r "Far West." Nid oedd Marged Parri yn rhyw siarp iawn gyda darllen llythyr ei hun; a hwyrach mai dyna y rheswm fod Miss Elsie Meredydd yn arfer mynd ati yn un swydd ar y diwrnod y byddai llythyr "Dafydd" wedi cyrraedd, er mwyn iddynt ei ddarllen efo'u gilydd. Hwyrach fod yna reswm arall mwy personol, ond 'doedd neb yn gwybod am hwnnw ond Miss Meredydd ei hun. Ond yr oedd hyn yn sicr, er fod "Dafydd" mewn gwlad bell, nid oedd wedi cael ei anghofio gan bobl y Cwm.

Yr oeddwn innau wedi fy magu yn yr ardal mewn bwthyn o'r enw Tŷ Coch, ar dir y Llwyn. Byddwn yn arfer mynd i ysgol ddyddiol y Rhyd, yn nyddiau yr hen athraw clodwiw,—Mr. James Morris. Yr oedd Dafydd yn yr un dosbarth, ac yn ddysgwr rhigl ar bopeth.

Yr oedd yr ysgolfeistr yn meddwl y byd o "Dafydd Tŷ'r Capel," ac yn proffwydo iddo ddyfodol disglaer, er nad ydoedd ar y pryd ond hogyn tlawd, a mab i wraig weddw. Ac nid rhyfedd hynny, oherwydd yr ydoedd yn ddysgwr campus; ac er yn llawn o asbri bachgenaidd, ni byddai byth yn chwareu truant, ac yn absenoli ei hun o'r ysgol.

Yr oedd Elsie Meredydd a'i brawd yn ysgol y Rhyd yr un adeg, a byddem yn cydgerdded tuag adref ar derfyn y dydd. Bachgen cryf, dibris, oedd Arthur Meredydd, pur hoff o "gwffio," os caffai rywun i dynnu'n groes iddo. Yr oedd Dafydd a minnau ychydig yn llai o gorffolaeth na mab Plas y Wern, ac yr oedd arnom dipyn o'i ofn. Yr wyf yn cofio un diwrnod fod gan Dafydd gap newydd; ac ar y bont sydd yn croesi y Ddeuddwr, cydiodd Arthur yn sydyn yn y cap, a thaflodd ef i'r afon. Torrodd Dafydd i grio, ond daeth Elsie ato, ac wedi dweud rhywbeth wrtho yn ddistaw, edrychodd yn ddigofus ar ei brawd, a rhedodd tuag adref. Drannoeth yr oedd gan Dafydd gap newydd spon,—cap â phig gloew, ac yr oeddwn yn meddwl fod yno ryw edmygedd yn llygad glas Elsie wrth edrych arno yn dod i'r iard ganol dydd. Ni chafodd Arthur y Plas ddyfod i'r ysgol am dros wythnos, a chlywais fod ei dad wedi ei geryddu yn dost.

Ond er nad ydoedd Dafydd yn ymladdwr, nid oedd yn fachgen llwfr. Meddai wroldeb digymysg pan welai rywun arall mewn perygl. Yr wyf yn cofio un prawf o hynny cystal a doe. Yr oedd ceffyl rhyw foneddwr wedi "rhedeg" oddiwrth westy y Rhyd, ac yn carlamu i gyfeiriad yr ysgol pan oedd y plant yn dod allan. Yr oedd dau o'r rhai lleiaf ar ganol y ffordd, a'r lleill yn gwaeddi arnynt i ddianc. Ond yr oeddynt fel wedi dyrysu gan fraw. Ond pan oedd y ceffyl gwyllt o fewn ychydig latheni i'r fan, neidiodd Dafydd ymlaen ac ymaflodd ynddynt, un ym mhob braich, a rhuthrodd yr anifail heibio a'r tân yn fflachio o'i garnau. Ni fuasai Arthur y Plas byth yn anturio gwneud peth fel yna, a 'doedd neb yn gwybod hynny yn well nag Elsie, ei chwaer.

Cyn hir, daeth Dafydd i gael ei ystyried fel yr ysgolhaig goreu yn yr ysgol; ac er fod Marged Parri yn dweud ei bod yn llawn bryd iddo fynd i "ennill ei damed,' yr oedd Mr. James Morris yn crefu arni ei adael dipyn yn hwy yn yr ysgol.

"Mae Dafydd yn sicr o dalu yn iawn am ei addysg," meddai, "ac fe ofala Rhagluniaeth am danoch chwithau."

Daeth proffwydoliaeth Mr. Morris i ben, a hynny mewn ffordd wahanol i'r hyn yr ydoedd ef, na neb arall, wedi dychmygu am dani. Ac eto yr oedd gan yr ysgolfeistr gryn dipyn o le yn y ddrama oedd yn dilyn. Ac fel hyn y bu. Pan oedd Dafydd tua phymtheg oed, digwyddodd fod cefnder i Mr. Morris ar ymweliad â Chymru, wedi bod am flynyddau yn y Gorllewin, y tu hwnt i'r Mynyddoedd Creigiog. Yn ystod ei hynt, daeth i'r Cwm i edrych am ei berthynas. Cyrhaeddodd yno ryw gyda'r nos, pan oedd Dafydd yn cael private lesson gan ei athraw. Rhoddwyd y wers heibio yn ddiymdroi, ond yr oedd y bachgen wedi tynnu sylw y gŵr dieithr. Cafodd ei hanes yn lled fanwl gan yr ysgolfeistr, ac wedi gwrando yr adroddiad, dywedodd,—

"Mae'n resyn i fachgen mor dalentog gael ei adael heb gefnogaeth. Pe deuai yn ol gyda mi i'r Gorllewin mi wnawn ddyn o hono."

Yr oedd Mr. James Morris yn cydweled yn hollol, ond yn ofni na fuasai ei fam yn medru dygymod â'r syniad. Ond yr oedd yr ymwelydd wedi gosod ei fryd ar y drychfeddwl, a'r dydd dilynol aeth i'r Ty Capel i siarad gyda Marged Parri ei hun. Ar y dechreu ni fynnai son am y peth.

Mi dorrwn fy nghalon heb Dafydd, a phwy a ŵyr be ddeuai o hono fo ynghanol estroniaid."

Ond wedi cael hanes y wlad, a chael pob sicrwydd y caffai Dafydd gartref cysurus, ac y gosodid ef ar y ffordd i ddod yn ddyn da a defnyddiol, ac yn enwedig wrth weled awyddfryd y bachgen, toddodd calon Marged Parri, a rhoddes ei chydsyniad, er fod y dagrau yn llifo dros ei grudd.

Nid oedd gan Dafydd ond ychydig amser i wneud ei hun yn barod ar gyfer y daith. Aeth i ffarwelio â'i hen ffrindiau yn y fro.

"Bendith arnat ti! Dafydd bach," ebai Rolant Owen, Bryngoleu. "Duw fyddo gyda thi! Paid ag esgeuluso dy Feibl, a chofia ysgrifennu yn amal at dy fam."

Aeth i Blas y Wern, a chafodd gynghorion da, ond o standpoint gwahanol, gan Mr. Meredydd. Nid oedd Elsie yn y tŷ, a theimlai yn bur siomedig. Ond wrth iddo ddod at yr hen bont bren, ar y llwybr sy'n arwain drwy'r Dolau Gleision, gwelodd hi yn sefyll dan gysgod y perthi drain.

Nid oedd ond bachgen pymtheg oed, ond yr oedd yn mynd i ffwrdd i'r Gorllewin pell, ac yr oedd Elsie Meredydd wedi dod yno i ddweud "Ffarwel!" Suai yr awel yn y drain; murmurai yr afon dan yr hen bont bren, a machludai yr haul dros Foel Rhedyn. Dyna'r olygfa,—golygfa y bu Dafydd yn ei hadgofio, lawer min nos, y tu hwnt i'r Mynyddoedd Creigiog!

"Mi faswn inne yn leicio cael gair oddi wrthyt, Dafydd," ebai Elsie, dan wrido, "just i wybod sut y byddi di yn dod yn dy flaen. Ond,—hwyrach na fase nhad ddim yn foddlon."

Disgynai ei geiriau fel peroriaeth ar glust yr ymfudwr ieuanc. Gwyddai nad ydoedd Mr. Meredydd yn ei ystyried ef ond megis bachgen tlawd a chyffredin; ond yr oedd goleuni disglaer yn ei lygaid pan ate bodd,—

"Byddaf yn sicr o anfon at mam, a chan eich bod chwi, Elsie, wedi bod mor garedig ag addaw mynd yno ambell dro i ddarllen fy llythyrau iddi hi, hwyrach na wnewch chwi ddim digio os anfonaf dipyn o fy hanes i chwithau,—yn llythyr fy mam!"

Cyn i Elsie gael amser i ddweud ychwaneg, gwelodd rywun yn dod ar draws y Dolau Gleision; ond yr oedd ei llygaid yn llefaru, a chan sibrwd "Good—bye," croesodd y bont bren, ac aeth ar hyd y llwybr troed i Blas y Wern

PENNOD X.
Y MADAWIAD YR "EOS."

AETH Dafydd Tŷ'r Capel i ffwrdd i'r Gorllewin, ond cyflawnodd ei adduned. Nid oedd mis yn myned heibio heb fod llythyr â marc post "New York" arno yn dod drosodd at ei fam. Ac, wrth gwrs, byddai llythyr yn mynd yn ol dros y Werydd, yn cynnwys hanes y Cwm, wedi ei ysgrifennu yn llawysgrif brydferth Miss Meredydd, private secretary Marged Parri. Bryd arall byddai Dafydd yn anfon anrheg i'w fam, a hithau yn ofni ei fod yn gwario ei gyflog i gyd. Un tro anfonodd iddi awrlais bychan, mewn câs arian, ac alarum ynddo. Caed hwyl anferth gyda Marged Parri ar ol iddi dderbyn yr anrheg hon. Ebai Dafydd yn ei lythyr,—

"Mae arnaf ofn fod yr hen gloc yna, mam, wedi myned allan o repair. Dyma i chwi Ianci o gloc, a dim ond i chwi roddi y 'larum i fynd yn iawn, mi gŵyd y pregethwr mwyaf cysglyd yn y wlad. 'Chewch chwi byth drafferth i godi neb gyda'r cloc ffasiwn newydd."

Yr oedd yn eglur fod Dafydd yn dod yn ei flaen yn ardderchog yn y wlad bell. Nid oedd yn dweud llawer am dano ei hun yn ei lythyrau adref, ond yr oedd Mr. Morris, yr ysgolfeistr, yn cael yr hanes gan ei gefnder. Dyma ddarn o un llythyr,—

"Mi ges lawer o bethau gwerthfawr yn ystod fy ymweliad â'r Hen Wlad, ond y peth goreu a gefais ydoedd,—Dafydd Tŷ'r Capel. Y mae yn deall y busnes gystal a finne, yn taflu ei holl galon i'w ddyledswyddau, a gallaf fentro mynd oddi cartref yn ddibryder, gan adael yr holl goncern o dan ei ofal ef."

Ond er fod Rhagluniaeth yn gwenu ar y bachgen oedd oddicartref, ac ac er fod y newyddion am dano, ac oddi wrtho, yn gwbl gysurus, yr oedd calon ei fam weddw yn hiraethu am dano; ac nid oedd ar Marged Parri eisieu cynhorthwy Almanac i gofio yr adeg yr aeth Dafydd i ffwrdd. Pan byddai rhywun yn crybwyll am ddigwyddiad lleol yn ei chlyw,—"Ie," meddai, "yr oedd hynny ymhen dwy flynedd ar ol i Dafydd fynd i'r 'Merica."

Fel yna y fyddai hi yn mesur amser, ac yn lleoli helyntion yr ardal,—yn ol eu pellder neu eu hagosrwydd at yr adeg yr aeth Dafydd o'r Cwm. Pa gofiadur fel calon mam? Nid oes "tir anghof" yn ei mynwes gynnes hi! Yr oedd ereill yn anghofio, a'r Cwm yn cyfnewid yn ei drigolion a'i bethau. Yr oeddwn i, ac ereill o gyd-ysgolorion Dafydd, megis yntau, wedi gorfod gwynebu'r byd, a chenhedlaeth arall o blant oedd yn cyrchu i ysgol y Rhyd, lle yr oedd yr hen athraw, er yn "gwyraw at lawr allt tan y gwallt gwyn," yn cyfrannu addysg i blant y plwy', ac yn eu hannog i efelychu y bachgen oedd wedi bod yn addurn i'r ysgol, ac yn anrhydedd i'r ardal lle y cafodd ei fagu,—Dafydd Parri!

Bellach y mae yn agos i ddeng mlynedd er pan y mae Dafydd yn yr America, ac y mae yn son am ddyfod adref,—hwyrach i aros, ond y mae hynny yn dibynu ar un neu ddau o bethau sydd hyd yma yn ansicr. Dyma fel y dywed yn un o'i lythyrau diweddaf,—

"Y mae yn dda gennyf fod fy hen gyfaill, Shon William, wedi dod i'w le yn y capel. Deudwch wrtho am wneud par o esgidiau cryfion i mi. Mae o'n gwybod mesur fy nhroed cystal ag y gŵyr o fesur troed y stiwdents fydd yn arfer a dod i'r Cwm. Cofiwch fi yn garedig at Rolant Owen. Drwg gennyf ei fod yn methu dilyn y moddion. Ai gwir eich bod yn meddwl am gapel newydd? Yr oedd fy hen athraw anwyl, Mr. James Morris, yn awgrymu rhywbeth felly yn un o'i lythyrau ataf. Wel, dichon fod y peth yn angenrheidiol, gan fod yr achos wedi cynhyddu llawer ar ol i mi adael yr ardal. Ond, yn wir, mi hoffwn weled yr hen gapel cyn iddo gael ei dynnu i lawr. A pheidiwch a synnu llawer, mam, os deuaf i edrych am danoch i'r Cwm cyn y Nadolig."

Pan oedd Marged Parri a Miss Meredydd yn darllen y llythyr uchod wrth y tân ar fin nos, dyna gnoc ar y drws. Cododd Marged Parri i edrych pwy oedd yno, a thra yr ydoedd yn gwneud hynny, rhoddes Miss Meredydd envelope arall yn ei llogell, ac aeth allan yn swta drwy ddrws y cefn. Yr ymwelydd ydoedd Eos Gwerfyl.

"A ydyw Miss Meredydd yn digwydd bod yma?" ebai yr Eos.

"Mae hi wedi bod yma," meddai Marged Parri, "ond mi a'th adre' jest 'rwan. Oedd arnoch ch'i isio ei gweld hi yn barticlar?"

"O, na, dim ond rhywbeth ynghylch yr offeryn, Marged Parri. Nos dawch."

Aeth yr Eos rhagddo tua Phlas y Wern. Pan yn agos i'r bont bren gwelodd rywbeth gwyn ar fin y llwybr. Cododd ef i fyny, ac yng ngoleu y lloer darllennodd yr address,— "Miss Elsie Meredydd" Yn y fan cafodd ei lanw gan gywreinrwydd ac eiddigedd. Pwy oedd wedi anfon y llythyr? Beth oedd ei gynnwys? Troes i feudy gerllaw y tŷ, a thrwy gynhorthwy y matches oedd yn ei logell, darllennodd y llythyr, llythyr serch! Terfynnai gyda'r geiriau,—

"Yr eiddoch yn ffyddlawn,
"Dafydd."

Pwy oedd hwnnw, tybed? A oedd Miss Meredydd wedi cael y llythyr i'w llaw, ac wedi ei golli ar y ffordd?

Aeth i'r Plas, a chafodd ymgom gyda. Mr. Meredydd am y gwaith ym Moel 'Rhedyn, &c. Arhosodd i swper, a thra yr oedd Mr. Meredydd wedi myned allan i weled rhyw anifail oedd wedi cyfarfod â damwain, cafodd yr Eos gyfleustra i siarad gair gydag Elsie, ac i ddweud yr hyn oedd yn ei feddwl. Dechreuodd yn dyner a mwynaidd. Tystiodd ei fod yn ei hoffi, ie, yn ei charu, er y dydd cyntaf y gwelodd hi yng nghapel y Cwm. Gofynnai iddi ystyried ei gais, ac y byddai yn sicr o'i gwneud yn ddedwydd.

"Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am eich syniad am danaf, Mr. Powell, ond y mae yr hyn a geisiwch yn awr yn amhosibl."

"Sut hynny, Miss Meredydd? Ai nid ydych yn ystyried fy mod yn deilwng o honoch?"

Na, nid ydyw peth felly wedi croesi fy meddwl am eiliad; ond y mae gennyf reswm sydd yn— eiddo i mi fy hun."

Aeth gwyneb yr Eos yn fflam.

"Rheswm!" meddai. "Felly'n siwr! Ac yr wyf innau yn digwydd ei wybod cystal a chwithau. Dyma fo! [a daliodd y llythyr a godasai yn ei law]. Beth pe bawn i yn dangos hwn i'ch tad!"

"Yr ydych yn anghofio eich hun, Mr. Powell! Fy eiddo i ydyw y llythyr yna, er fod yn amlwg eich bod chwi wedi ei ddarllen. Ond yr ydych yn camgymeryd yn eich bygythiad llwfr. Son am ddweud wrth fy nhad! Os ydych yn parchu eich hun, gwell i chwi ymadael cyn iddo ef ddod i'r tŷ. Nid oes gennyf unrhyw gyfrinach ag y mae arnaf gywilydd i fy nhad wybod am dani."

Gyda hyn yr oedd swn troed Mr. Meredydd ar y buarth. Taflodd yr Eos y llythyr ar y bwrdd, ac aeth allan.

Ymhen ychydig ddyddiau yr oedd yn wybyddus i'r trigolion, er na wyddai neb y rheswm paham, fod Eos Gwerfyl wedi diflannu o'r Cwm.

PENNOD XI.
NEWYDDION DA.

WEDI i'r "Eos" ymadael o'r Plas, ac i Mr. Meredydd gymeryd ei eisteddle arferol ar yr aelwyd, sylwodd fod Elsie yn edrych yn welw a lluddedig.

Wyt ti ddim yn iach, y ngeneth i?" meddai, mewn llais tyner. "Y mae dy wyneb di yn llwyd iawn. Ddeudodd Powell rywbeth wrthat ti? Yr oedd o wedi gofyn i mi gawse fo siarad gair â thi, a dene'r p'am yr eis i allan. Ddaru ti addaw ——?"

Naddo, nhad, a f'aswn i ddim yn gwneud y fath beth heb ymgynghori â chwi. Fel y gwyddoch, ar ol colli f'anwyl fam, 'does gen' i neb ond y chwi, nhad," a thorrodd i wylo yn hidl.

Yr oedd llygaid Mr. Meredydd, erbyn hyn, yn llaith, a dywedodd wrthi,—

"Mi elli drustio dy dad, Elsie bach, os wyt ti mewn rhyw anhawster."

"Mae'n dda gen' i'ch clywed yn siarad fel yna, nhad, ac y mae un peth y caraswn gael eich cydsyniad chwi iddo. Mi wyddoch fod Dafydd,—Dafydd Tŷ'r Capel,'—a finne yn ffrindie er yn blant, ac wedi iddo fynd i'r America mi fyddwn yn cael ei hanes yn llythyre ei fam, ac mi wn ei fod yn meddwl am dana' i drwy'r blynyddoedd. Erbyn hyn y mae o wedi dwad yn ei flaen yn rhagorol, fel y gwyddoch, ac y mae arno fo

"Eisieu i ti fynd yno i fyw, debyg, a fy ngadel inne yn fy hen ddyddie——"

"Nage, nhad bach. Mae gan Dafydd ddigon o o fodd i fyw yn unrhyw fan bellach; ond y mae arno ofn na f'asech chwi,—sydd yn ei gofio yn fachgen tlawd, ddim yn caniatau——"

"O, mi welaf sut mae pethe yn bod, Wyt ti wedi gwneud dy feddwl i fyny, dywed?"

Eisteddodd Elsie ar lin ei thad, a chuddiodd ei hwyneb yn ei fynwes.

"Paid a chrio, ngeneth i. Fedra i ddim dal peth fel ene. Dywed wrth Dafydd am ddod adref cyn gynted ag y bydd yn gyfleus iddo; a dywed hefyd na raid iddo ddim ofni dod i edrych am danom ni i Blas y Wern." OOOOO Yr oedd pwyllgor y capel newydd yn cyfarfod bob wythnos, ac yr oedd pawb yn unfryd unfarn y dylesid cael addoldy hardd a gorffenedig, teilwng o'r achos yn y Cwm.

"Ond capel ydyw i fod," ebai Rolant Owen, "nid eglwys 'rwan; y mae un eglwys yn ddigon yn y plwy'."

Yr oedd Edward Puw yn selog dros gael "set ganu" helaeth, ond ofnai Joseph Jones y buasai hynny yn cyfyngu ar y "set fawr."

Yr oedd rhai yn dadleu dros "ostwng" y pulpud, ond yr oedd Shon William yn credu yn gryf y buasai hynny yn tueddu at ostwng safon y weinidogaeth.

Dadleuai ereill dros gael vestry gyfleus ar gyfer cyfarfodydd yr wythnos, ac er mwyn cael lle cyfaddas i gynnal y Cyfarfod Misol. Ond y cynhygiad mwyaf sweeping, fel y dywedir, oedd eiddo yr arch-adeiladydd.

"Mi fyddwch yn galw bugail cyn bo hir," meddai, "ac onid gwell i chwi wneud i ffwrdd â'r Tŷ Capel,' ac adeiladu 'Tŷ Gweinidog,' fel y mae pobl y Dyffryn wedi gwneud yn barod?"

Cafodd y mater hwn ei ddadleu yn frwd am wythnosau. Ond yn y diwedd yr oedd y "mwyafrif" o'i blaid, ac ysgrifenwyd paragraff i'r newyddiadur i hysbysu fod pobl y Cwm yn myned ati i adeiladu capel newydd a thŷ gweinidog yr un ffordd.

Bellach, yr oedd y trefniadau yn barod, a'r gwaith wedi ei ymddiried i contractor adnabyddus. Wrth gwrs, anfonwyd y newydd i'r America at Dafydd, a dywedai Marged Parri, yn lled gynnil, y byddai yn "chwith ganddi fod heb y Tŷ Capel."

Ac wrth adrodd ei phrofiad ei hun, yr oedd yn mynegi syniad distaw yr ardal oll. Onid oedd y Tŷ Capel yn ddarn o'r Cwm, ac yn dyst o hanes yr Achos am flynyddau maith? Y mae'n wir y byddai "Tŷ'r Gweinidog" oedd yn yr arfaeth, yn ateb pwrpas y Tŷ Capel yn ei bethau amgylchiadol; ond nis gallai lanw y drych-feddwl, a'r adgofion lawer, oeddynt wedi cysegru y llanerch, ac wedi ei gwneud yn fath o "hafan dawel, glyd," i aml bregethwr ar ei daith. Beth bynnag am fannau ereill ar hyd a lled y wlad, gwyddai pawb a fuont yno nad oedd raid ofni cael "gwely damp," nac unrhyw anffawd arall o'r un nodwedd, yn y Cwm. Yr oedd Marged Parri, o fawr ofal calon am gysur "Cenhadon Hedd," wedi gwneud pob ystafell mor glyd a nyth y dryw. Ah! llawer noson ystormus, a'r gwynt yn rhuthro fel gwallgof ar hyd y Cwm, y bum yn diolch am glydwch a thangnefedd o dan blygion tew o wrthbannau y Tŷ Capel! Nid wyf yn son am foethau, nac yn malio am danynt, ond y mae gyrfa llawer pregethwr wedi ei byrhau o ddiffyg y cysuron syml, ond gwerthfawr oedd yn perthyn i Dŷ Capel y Cwm. Byddai gan lu o honom "chwithdod" a hiraeth am dano; ond neb yn fwy felly na Marged Parri ei hunan. Yr oedd hi wedi treulio blynyddau hirfaith yng nghynteddau y deml. Gallai plant yr ardal gyfaddasu geiriau Glan Alun, a dweud,—

"'Roedd Marged Parri fel y coed
Yn rhan o'r 'Capel Mawr.'"

Beth ddeuai o honi, tybed? llawer Yr oedd yn gofyn y cwestiwn, ond nid oedd gweledigaeth eglur ar y pwnc.

Yn y cyfamser, daeth llythyr oddiwrth Dafydd ei hun, neu fel y byddai Mr. James Morris yn arfer anfon ato,—

"David Parry, Esq.,
Box 321,
Orange City."

Dywedai ei fod yn llawenychu yn fawr wrth ddeall am y cydweithrediad a'r brwdfrydedd oedd yn bod gyda'r capel newydd. Yr oedd yntau yn cefnogi y symudiad â'i holl galon, ac yn amgau £50 fel tanysgrifiad personol i'r drysorfa. Bwriadai gyfrannu rhagor, ond yr oedd yn gwneud trefniadau i ddychwelyd i Gymru, ac yn disgwyl cael yr hyfrydwch o dreulio y Nadolig yn ardal ei enedigaeth.

Yng ngwyneb hyn, a fyddai yn ormod iddo ofyn un ffafr i'r pwyllgor,—A fuasent yn gadael pethau fel yr oeddynt hyd nes y deuai efe yn ol? Carasai gael gweled yr hen gapel, a'r "Tŷ Capel" lle y cawsai ei fagu, am unwaith cyn iddynt gael eu tynnu i lawr.

Gwnaed ei ddymuniad yn hysbys i'r frawdoliaeth, ac yr oedd pawb yn cyd-synio yn llawen, a phasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch iddo am ei rodd anrhydeddus.

"Mae'n amlwg fod Dafydd yn meddu hoffder at yr hen gapel," meddai y brodyr wrth fyned allan y noson honno. Hysbyswyd y peth i Rolant Owen.

Campus wir!" meddai yr hen sant gloew. "Mi fum i yn cysidro llawer am ddyfodol Marged Parri. Ond y mae'r Brenin Mawr yn siwr o ofalu am y sawl sydd yn ffyddlon efo'i Achos ar y ddaear. Ac y mae Dafydd eisio gweld yr hen gapel cyn iddo fo gael ei dynnu i lawr! Synwn i ddim blewyn nad oes ganddo fo rywbeth arall mewn golwg. Yr ydw i bron a meddwl fod,—un hirben oedd Dafydd bob amser."

"Beth ydi o, nhad?" ebai Jane, y ferch

"Wel, mi fu Mr. Meredydd yma yn edrych am dana' i y diwrnod o'r blaen, ac mi daflodd ryw hint. Ond hwyrach mod i yn camgymeryd; ac eto, mae'n syn gen' i os na cheiff yr hen gapel wneud un peth go bwysig cyn iddo fynd i ffordd yr holl ddaear."

"Yr ydech chi'n siarad ar ddamegion, nhad," ebai Jane.

"Yd'w, ngeneth i, a'r neb y mae ganddo glustie—gwrandawed!"

PENNOD XII.
Y NOSON OLAF.

GLANIODD "Dafydd Tŷ'r Capel" ym mhorthladd Lerpwl ym mis' Tachwedd. Ac ar un o'r dyddiau dilynol gellid gweled Joseph Jones y Siop yn gyrru'n brysur i dref C—— i gyfarfod y 'bachgen ddychwelai i'w wlad."

Yr oedd deng mlynedd o absenoldeb, a hynny yn hinsawdd frŵd y Gorllewin, wedi gwneud cryn wahaniaeth yn ei ymddangosiad allanol. Prin yr oedd gŵr y Siop yn ei adwaen pan ddisgynodd o'r cerbyd. Ond yr oedd tôn ei lais yn ddigon i ymlid pob amheuaeth i ffwrdd.

"Sut yr ydech chi, Joseph Jones? A sut y mae mam?"

Yr oedd gan y gŵr diarth beth wmbreth o luggage, a 'doedd ryfedd yn y byd fod y porters yn ei "syrio" bob yn ail gair. Yng ngorsaf y rheilffordd, fel llawer man arall, yn ol ei luggage y bernir y dyn!

Fedrwn ni byth roi yr holl focsus' yma yn y cerbyd," ebai Joseph Jones. "Y peth gore ydyw eu gadael yn y stesion, ac mi gaiff y gwâs ddod i'w nhol y peth cynta bore foru." Ac felly fu.

Cychwynwyd i ardal y Cwm. Ac wedi dod i olwg y "Ddeuddwr," yr oedd Dafydd fel dyn mewn perlewyg. Yr hen afon anwyl!" meddai. "A dacw Moel y Rhedyn,—weles i erioed mohoni mor glws!" Toc, daethant i olwg y "Tŷ Capel." Yr oedd Marged Parri yn cerdded ol a blaen i'r buarth ers meityn, ac yn disgwyl am sŵn y cerbyd.

Ni cheisiwn ddarlunio y cyfarfyddiad rhwng Dafydd a'i fam. Yr oedd dagrau llawenydd yn treiglo i lawr ei gruddiau,—dagrau melus iawn, fel cawodydd Mai! Aeth Joseph Jones yn ei flaen.

"Mi ddof yma eto," meddai, "wedi i chi gael amser i fynd dros bethe efo'ch gilydd."

Wedi holi "cant a mil" o gwestiynau ar draws eu gilydd, cofiodd Marged Parri fod ganddi rywbeth yn y pobty.

"Yr anwyl fawr!" meddai, "dyma fi wedi anghofio y deisen. Mae arna i ofn i bod hi wedi llosgi yn golsyn!

Ond 'doedd hi ddim. A dyna ddechreu ar y wledd oedd wedi ei darparu ar gyfer yr ymwelydd.

Eisteddai y "gath" ar gornel y pentan, mor agos ag y gallai at ddrws y pobty, o'r lle y deuai perarogl y deisen a'r "tôst." Taflai ambell edrychiad llawn o gywreinrwydd ar y "gŵr diarth," fel pe buasai yn ceisio gwneud allan pwy a beth allai efe fod, er nad oedd hi, bid siwr, ond un o ddisgynyddion y "gath" fyddai yn arfer bod yn y Tŷ Capel pan aeth Dafydd i ffwrdd oddicartref. Ond yr oedd hi yn clywed ei enw bob dydd, ac yn amlach na hynny.

"Mae'r hen gath yma fel dase hi yn fy nghofio i, mam. Sylwch fel mae hi yn ysbio arnaf."

"Ie, yn reit siwr. Ond nid yr hen gath, druan, ydi hon, weldi, ond cath reit ifanc, ac un gampus am lygod. Ond yr oedd yn ddigon bethma i ti ddyfalu ma'r hen gath oedd hi, hefyd; ma nhw mor debyg i'w gilydd. Mi wyddost fel y bydde yr hen gathi mor gysetlyd. Dae hi ddim yn agos at ambell i bregethwr yn y parlwr yma. A rhyw Sul oer yn y gaua, mi 'roedd y Parch. Wmphre Jones yn y daith, ac mi ffôdd yr hen gath am 'i bywyd. Welis i byth mohoni, a chredu yr ydw i iddi farw Ond bobol anwyl, i be yr yn yr oerni. ydyw i yn cyboli efo'r gath, a thithe ar ganol byta. Sciet ene! I be yr wyt ti yn llygadrythu fel daset ti heb ddim bwyd er's wsnos!"

"Sut mae'r hen ffrynd, Shon William. Ydi o wedi gorffen fy 'sgidie newydd, tybed?"

"Ydi, machgen i, mi ddoth a nhw yma ddoe. Fydd o byth yn torri ei air, fel y mae rhai o'r un 'trâd,' a theilwriaid hefyd, o ran hynny. Ma arno fo eisio dy wel'd di yn anwêdd. Ac er 'i fod o wedi bod dipyn ar y clwt, ma Shon William yn un o'r 'plant,' 'does gen i ddim dowt"

"Sut y mae hi rhyngddo a'r 'offeryn' erbyn hyn?"

"Be, yr harmorniam ene? Wel, mae o a finne yn debyg ar y mater ene,—ddim yn hitio llawer am dano yn y capel, weldi. Ond y mae wedi dysgu tewi, fel y dyn hwnnw y sonir am dano yn yr Hen Lyfr. Oes yna bethe fel ene yn y 'Mericia, Dafydd?"

"Wel, oes, mam; ond yr enw a roddir arnynt yno ydyw organs; ac y mae rhai ohonynt yn grand iawn."

"Bendith arnat, Dafydd, paid a sôn am danyn nhw wrth y 'comiti,' ne mi raid iddyn nhw gael un i'r capel newydd! Ac mi ŵyr pawb fod y peth sydd yma wedi codi digon o stŵr. Ond mi gei yr hanes yn daclus gan Shon William, a hanes y dyn hwnnw aeth i ffwrdd yn sydyn,—'Eos' rywbeth,—ac mi fydd morthwyl yr hen grydd yn rybedio, fel dase y creadur ei hunan ganddo fo ar y lapston!

"Ond 'does bosib gen i dy fod yn rhoi y gore iddi, 'rwan. Yn wir, d'wyt ti yn byta gwerth dim byd."

"Dyma'r pryd gore ges i er pan aethum i ffwrdd," ebai Dafydd, a darn o'r deisen yn ei law.

Ond nid oedd Marged Parri yn ei weled yn gwneud dim tebyg i "gyfiawnder â'r trugareddau."

Estyn at y tôst yma, 'ngwas i, yr wyt ti heb ddim bwyd ers oriau." Sylwodd Dafydd fod yno swp o flodau tlysion ar y bwrdd.

"O ble daeth y rhai'n, mam? Ai o'r ardd fach?"

Nage wir, weldi; 'does ene yr un blodyn ers tro. Miss Meredydd ddaeth a nhw yma neithiwr. Yr oedd hi'n meddwl y baset ti yn leicio'u cael nhw ar y bwrdd."

Wedi i'w fam fynd i'r gegin, tynnodd Dafydd un o'r blodau, a rhoddodd ef yn labed ei gôt.

"Tra byddwch chi yn clirio y llestri, mam, mi af allan am dipyn bach. Yr ydw i wedi stiffio yn y trên."

"Wel, paid a bod yn hir iawn. Ma gen i filoedd o bethe i'w deud a'u gofyn, 'dawn i wedi tacluso 'chydig ar y lle 'ma."

Yr oedd y dydd bron yn darfod pan aeth Dafydd allan am dro, a'r lloer yn codi'n dawel dros ysgwydd Moel y Rhedyn. Aeth at y "bont bren," a syllodd ar y perthi drain. Cofiai am danynt yn eu blode,—ddeng mlynedd yn ol!

Aeth rhagddo yn araf i gyfeiriad Plas y Wern. Yr oedd ei droediad yn ysgafn, er fod ei galon yn curo yn gyflym. Cyrhaeddodd y llidiart sydd yn ymyl y ty, a gwelai RYWUN, mewn shawl wen, yn dod ar hyd y lawnt i'w gyfarfod,—

"Elsie!"

"Dafydd!'

Sibrydai awel y nos yn y llawryf ger—llaw, a gwenai y lloer arianaidd drwy gangau'r coed. Pa sawl cyfrinach a welodd hi er dyddiau Eden Ardd hyd heno? Ac y mae hi wedi "cadw" y cyfan ar hyd yr oesau. Gwnawn ninnau yr un modd.

Tyrd i'r ty 'rwan," ebai Elsie. "Mae nhad yn disgwyl am danat." Tipyn o ordeal i Dafydd oedd gwynebu gŵr y Plas. Ond bu Mr. Meredydd yn un a'i air, a rhoes dderbyniad cynnes a siriol i'r boneddwr,—ie, dyna'r gwir,—boneddwr oedd yn sefyll ger ei fron, yn ystyr oreu y gair. Mynnai iddo aros i swper, ond ymesgusodai Dafydd y noswaith honno,—

"Mae mam yn disgwyl am danaf heno; ond os caf alw yma eto, byddaf yn dra diolchgar."

Rhyngoch chwi a'ch gilydd, 'rwan,' ebai Mr. Meredydd, dan wenu; "ond gellwch fod yn sicr y bydd yma groeso calon bob amser."

Yn ystod y dydd drannoeth, daeth y luggage o'r station, a chafodd Marged Parri gryn drafferth i wneud lle i'r cwbl yn y Tŷ Capel.

"Fu 'rioed ffasiwn beth!" meddai. "Yr ydw i bron a chredu dy fod wedi dwad a mwy na hanner y 'Mericia i dy ganlyn."

Ym mysg y "presantau" yr oedd ffon â phen arian i Rolant Owen, Bryn Goleu; spectol aur i Shon William y crydd; llyfrau gwerthfawr i Mr. James Morris, yr ysgolfeistr; shawl ardderchog, a chist o dê i Marged Parri, a ——. Ond hwyrach na fuasai yn hoffi imi ddweud beth oedd ei anrheg i Elsie Meredydd.

Cyn pen ychydig amser yr oedd y sî wedi mynd drwy'r ardal fod yno briodas yn debyg o gymeryd lle ym Mhlas y Wern. Daeth Jane, y ferch, a'r newydd i Bryn Goleu. Chwarddodd Rolant Owen, a chan daro ei ffon yn y llawr, meddai,—

"Mi ddeudes i wrthat ti, ers dyddie, dase ti yn dallt. Mi wyddwn i amcan fod gan Dafydd rwbeth mewn golwg pan oedd o'n gofyn i ni beidio tynnu'r Hen Gapel i lawr nes y deuai adre. Yno y mae o'n meddwl priodi,—dene y rheswm! Wyt ti'n gweld y ddameg 'rwan?" OOOOO Cefais innau fy ngwahodd i'r briodas, er mai y Parch. Jacob Davies, Pentre Gwyn, oedd i uno y ddeuddyn ynghyd. Cyrhaeddais yno gyda'r nos, ac yr oedd rhyw deimlad rhyfedd yn fy meddiannu wrth feddwl mai dyna y noson olaf a gawn ei threulio yn yr hen anneddle ddyddorol,— "Tŷ Capel y Cwm!" Ac er nad oedd y distawrwydd arferol yn teyrnasu yno, cafodd Dafydd a finnau dipyn o egwyl i ymddiddan am hen bethau, ac am y pethau a fyddent ar ol hyn.

"Mi wyddost," meddwn wrtho, "fy mod yn bur hoff o holi 'hanes yr achos,' fel y dywedir. Pa bryd y y dechreuodd yr 'achos' rhyngot ti ag Elsie, tybed? fum i'n meddwl mai yr adeg honno, ers talwm, pan ddaru Arthur daflu dy gap dros y bont i'r afon."

"Wn i ddim, wir," ebai Dafydd. "Ond wyddost ti? Mi ddaeth Arthur adref heddyw, ac mi soniodd am yr un peth yn union,—

"Wyt ti wedi maddeu i mi,' meddai, 'am daflu dy gap di i'r afon ers llawer dydd? O ran hynny, hwyrach mod i wedi gwneud cymwynas in disguise. "

"Ac mi ddaethom yn ffrindie ar unwaith. Y mae Arthur, fel finnau, wedi dod dipyn yn gallach erbyn hyn.

Mae O, fel y gwyddost, mewn busnes yn Lerpwl, ac yno yr erys, yn ol pob tebyg. Mae Mr. Meredydd yn dechreu heneiddio, a chan fy mod i wedi cael tipyn o ymarferiad gyda ffarmio yn y West, y mae yn bur awyddus imi fynd ato ef ac Elsie i Blas y Wern. Yr oeddwn i yn lled amharod ar y cyntaf; ond y mae Arthur wedi rhoddi y ddeddf i lawr heddyw, ac yn dweud yn bendant mai felly y rhaid i bethau fod."

"Beth am dy fam?" ebwn wrtho.

"O, 'does dim perygl imi anghofio fy mam. Ddaw hi ddim i Blas y Wern, oherwydd y mae yn credu y dylai pawb gael ei "aelwyd ei hun," a hwyrach ei bod yn iawn.

Ond mi wyddost am y ty bychan gwyngalchog ar fin y ffordd yna. Yr ydw i wedi cymeryd hwnnw i mam, a chan ei bod hi mor hoff o flode, mi a'i galwaf yn Rose Cottage, ac mi fydd yno ardd ddel iddi o flaen y drws. Ond mi wn y bydd arni hiraeth am yr hen Dŷ Capel, a chwmpeini y pregethwyr."

"Digon tebyg," meddwn, "ac y mae yn sicr y bydd gan y pregethwyr eu hunain hiraeth am garedigrwydd diragrith Marged Parri."

Wedi siarad fel hyn, ar draws ac ar hyd, aethom i orffwys pan oedd yr hen gloc ar y grisiau yn taro hanner nos. Ond yr oedd fy meddwl yn rhy aflonydd i fedru cysgu o gwbl. Yr oeddwn yn teimlo fy hun megis rhwng dwy oruchwyliaeth,—yr hen a'r newydd. Meddyliwn am lawer Saboth a dreuliwyd yn y Tŷ Capel. Ymrithiai golygfeydd y gorffennol ger fy mron. Ac er mwyn tawelu ychydig ar fy myfyrdodau, aethum i geisio llunio rhyw fath o gân i'r amgylchiad dyddorol oedd i gymeryd lle bore drannoeth,—priodas Dafydd ac Elsie,—y seremoni olaf, yn ol pob tebyg, a weinyddid oddifewn i furiau yr Hen Gapel cysegredig!

Nid wyf yn cofio nemawr o'r gân, ond yr oedd ynddi ryw ddau bennill fel hyn,—

Hen Gapel y Cwm! cyn it fynd
O'r golwg, i randir adgofion;
Cei wneud un gymwynas i'm ffrynd,—
Fe'th garai o ddyfnder ei galon.

Hen Gapel y Cwm! cyn it fynd,
Cei glywed acenion llawenydd;
Rho dithau dy fendith, hen ffrynd,
I Dafydd ac ELSIE MEREDYDD!




GWRECSAM:
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR

Nodiadau

[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.