Tydi sy deilwng oll o’m cân

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tydi sy deilwng oll o’m cân yn emyn gan David Charles II, (1803-80)

Tydi sy deilwng oll o’m cân,
fy Nghrëwr mawr a’m Duw;
dy ddoniau di o’m hamgylch maent
bob awr yr wyf yn byw.


Mi glywa’r haul a’r lloer a’r sêr
yn datgan dwyfol glod;
tywynnu’n ddisglair yr wyt ti
drwy bopeth sydd yn bod.


O na foed tafod dan y rhod
yn ddistaw am dy waith;
minnau fynegaf hyd fy medd
dy holl ddaioni maith.


Diolchaf am dy gariad cu
yn estyn hyd fy oes;
diolchaf fwy am Un a fu
yn gwaedu ar y groes.


Diolchaf am gysuron gwiw
wyf heddiw’n eu mwynhau;
diolchaf fwy am ddoniau sy’n
oes oesoedd i barhau.