Tydi yw Duw fy nerth i gyd
Gwedd
| ← Yr unwedd ag y bref yr hydd | Tydi yw Duw fy nerth i gyd gan Edmwnd Prys |
Erglyw, O! Dduw, fy llefain i → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
322[1] SALM XLIII. 2, 3, 4.
M.S.
1 TYDI yw Duw fy nerth i gyd,
Paham y'm bwryd ymaith?
A pham yr af mor drwm â hyn
Gan bwys y gelyn diffaith?
2 O! gyr dy olau, moes dy wir,
Ac felly twysir finnau:
Arweiniant fi i'th breswylfŷdd,
I'th fynydd, ac i'th demlau.
3 Ac yna'r af at allor Duw,
Y Duw goruchel hyfryd;
Ac ar y delyn canaf fawl
Fy Nuw, fy hawl a'm gwynfyd.
—Edmwnd Prys
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 322, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930