Yr Anrhydeddus T Price, Prif Weinidog Deheubarth Awstralia (Y Faner 1908)

Oddi ar Wicidestun

YR ANRHYDEDDUS T. PRICE, PRIF WEINIDOG DEHEUBARTH AWSTRALIA. (Gan Ohebydd Llundain.) Fel y mae'n wybyddus i'n darllenwyr, gwr o wehelyth Cymreig yw'r Anrhydeddus Thomas Price, Prif weinidog y rhan ddeheuol o Awstralia, pen y Weinyddiaeth sydd yn cynrychioli Llafur a Rhyddfrydiaeth yn y rhan arbennig honno o'r Cyfandir mawr Awstraliaidd. Rhyw

bum' mlynedd ar hugain yn ôl aeth Mr. Price gyda'i wraig, ac un plentyn bychan, allan o Liverpool, ar fwrdd y Dundee,' i chwilio am iechyd yr ochr arall i'r byd. Dychwel yn ôl atom yn ŵr 56ain mlwydd oed, yn llanw y swydd bwysicaf yn y Drefedigaeth yr ymfudodd iddi. Cydnebydd ei fod wedi cyrraedd y swydd honno drwy gymorth nodweddion a berthyn iddo fel Cymro.

Rhaid cydnabod, pan y syrthiodd ein llygaid arno gyntaf, mai ychydig o'r marciau cenedlaethol Cymreig allem eu canfod yn ei edrychiad ac osgo. ond y maent yn fyw iawn ynddo, er hyny, ac fel yr awgrymwyd yn barod, y mae yntau yn hollol ymwybodol ohonynt.

Ym Mrymbo y ganwyd ef, ar y 19eg o Ionawr, 1852. Efe oedd y cyntaf o saith o blant a anwyd i John Price a'i wraig. Saer maen oedd John Price wrth ei alwedigaeth, ac ymddengys mai i weithio ceryg at yr Ysgol Genedlaethol yr aeth i Frymbo o Liverpool. Wedi gorffen y gwaith yno, a phan oedd Thomas o ddeutu blwydd oed, dychwelodd yn ôl i'w ddinas ei hun. Byr, fel y gwelir, fu cysylltiad Thomas Price a'i wlad enedigol, ond y mae Cymreigiaeth yn rhywbeth dyfnach nag amgylchedd ac effeithiau lle.

Cafodd y fychan addysg plentyn yn yr ysgol geiniog a berthynai i Eglwys Sant Siôr, ac yn ddiweddarach bu yn chwanegu at ei wybodaeth mewn ysgol nos. Anfonodd gofynion teuluaidd ef yn gynnar i helpu ei dad, ac fel saer maen y treuliodd ugain mlynedd foreuaf ei oes. Yr adeg hon mynychai Ysgol Sul y Wesleaid Cymreig, yn Burrows Gardens, ac wedi hyny yn Brady Street. Fel disgybl ac athro cafodd les dirfawr iddo'i hun yn y cylch hwn, a phriodola, lawer o'i ddefnyddioldeb i'r gwersi a chafodd yr adeg hon o'i fywyd.

Teimlai ddiddordeb arbennig mewn cwestiynau gwleidyddol, a bu yn aelod gweithgar o un o gymdeithasau Rhyddfrydig Liverpool, ac o Gymdeithas Hunan Reolaeth i'r Iwerddon. Cymerai ran, hefyd, yn y mudiad dirwestol, a bu yn dal amryw swyddi yng Nghyfrinfaoedd y Temlwyr Dda. Addefa iddo dderbyn llawer o'i ysbrydiaeth wleidyddol o ddalennau pigog y "Porcupine", newyddiadur a wnaeth, yn ei ddydd, lawer o waith cenhadol ynglŷn â phynciau politicaidd ar lannau’r Ferswy. Erbyn hyn, yr oedd wedi cyrraedd deg ar hugain oed, ac yn ben saer maen gyda gweithwyr dano; ond yr oedd yn wan ei iechyd, ac ar gyngor ei feddyg hwyliodd i Awstralia, gan feddwl ymsefydlu ar y tir. Troi yn ôl at yr hen grefft a ddarfu iddo, ac ymddengys iddo gael gwaith sefydlog yn ddiymdroi. Am chwe blynedd bu yn gweithio, ar y senedddy, lle y mae yn awr yn eistedd fel Prif Weinidog!

Bu am ysbaid yn rheoli gweithdai Rheilffyrdd y Dalaeth, ond collodd y swydd honno yn 1893, pan yr aeth yn ymgeisydd am le yn y senedd, fel un o gynrychiolwyr Llafur.

Fe'i' hetholwyd dros ranbarth Sturt, a chyfrifid ef ym mhlith y dosbarth mwyaf eithafol o'i frodyr. Y mae ei olygiadau yn parhau yn dra Radicalaidd, neu, yn hytrach, yn Sosialyddol, hyd y dydd hwn, er bod ei ddull o'u cyflwyno wedi lliniaru ychydig gyda threigliad y blynyddau. Wrth gwrs, yr oedd yn ffafr cyfundrefn yr wyth awr, trosglwyddiad y mwnau i'r Wladwriaeth, y bleidlais i ferched, yn gystal ag yn ffafr cau allan lafur du, neu felyn, o Awstralia yn gyfan gwbl, a protection,' a phethau eraill sydd yn ymddangos i ni yn hynod, ond sydd yn ymddangos fel yn cydfyned a'r syniadau mwyaf gwerinol yr ochr arall i'r blaned.

Yn 1899 fe ddaeth yn arweinydd plaid Llafur yn y Tŷ, ac yn y cysylltiad hwn dangosodd lawer o nodweddion Celtaidd ei gymeriad. Nid yw yn, siaradwr coeth, ac nid oes ganddo arddull gaboledig ond y mae yn llefarydd effeithiol a theimladwy dros ben. Cysyllter â hyny ddiffuantrwydd a gonestrwydd uchel, ac y mae yn hawdd amgyffred dirgelwch ei lwyddiant. Yn 1905, bu plaid Llafur yn fuddugol yn yr etholiadau, a rhyngddynt hwy a'r blaid Ryddfrydig, fe lwyddasant i droi allan y Weinyddiaeth, ac i ffurfio Gweinyddiaeth unedig o'r eiddynt eu hunain, yr hon sydd yn awr mewn awdurdod. O'r dynion, blaenaf yn y Weinyddiaeth sylw: odd Mr. Price fod un yn Sais, un arall yn Ysgotyn, y llall yn Wyddel, a'r pedwerydd un yn Gymro, a'u bod yn perthyn o ran enwad i'r Presbyteriaid yr Esgobaethwyr, i Eglwys Rhufain, ac i'r Methodistiaid Wesleyaidd."

Anfonwyd Mr: Price drosodd i'r wlad hon gyda dymuniadau gorau ei gyd-seneddwyr i gynnrychioli South Australia ynglyn a'r Franco British Exhibition. Bwriada ef a Mrs. Price dreulio rhai misoedd yn y wlad hon. Yr wythnos nesaf rhoddir derbyniad iddo yn Manchester. Ar y 4ydd o Ebrill disgwylir ef i gyfarfod blynyddol Undeb Cymdeithasau Diwylliadol Cymreig Llundain; ac ar y 7fed fe'i croesawir i wledd yn y Clwb Cymreig. Ar hyn o bryd, erys gyda Mr. D. D. Pritchard, yn Hornsey, ond y mae i'w gael y rhan amlaf yn swyddfa'r Agent General South Australia yn Threadneedle St. Ym mis Mai gobeithia gael myned am seibiant i Ddyffryn Llangollen, ac i ymweled a man ei enedigaeth.[1]

Cyfeiriadau[golygu]